Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb i’r cyfarfod.

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sian Maehrlein wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddi fynychu’r cyfarfod.

 

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Ifan Davies fudd personol ac sy’n rhagfarnu yng Nghais A211191.

Datgelodd Mrs Catrin Newbold fudd personol ac sy’n rhagfarnu yng Nghais A220476.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022 pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022 yn gywir.

Materion yn codi

Dim

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 892 KB

Cofnodion:

Dim.

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 923 KB

Cofnodion:

Ceisiadau Datblygu, Hysbysebu, Statudol a’r Awdurdod Lleol

Ystyriwyd Adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio

ynghylch Ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:-        

 

A210592 Codi annedd, Plot tu ôl Brynmorwel, Brynhoffnant, Llandysul

 

CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â Pharagraff 4 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

____________________________________________________________

 

Anerchodd Mrs Helen Ashby-Ridgway (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu

       

A211168 Datblygu sylfeini er mwyn lleoli cabanau, sy’n dod dan y diffiniad o garafannau sefydlog, codi adeilad er mwyn cadw offer, ac adeiladu pyllau, gyda’r gwaith cysylltiedig er mwyn cael mynediad, parcio ceir, tirlunio a seilwaith draenio, Tir i’r De o Seven Springs Lodge Park, Llanon

 

CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau.

       ________________________________________________________________

        

Anerchodd Mrs Gwawr Edwards y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu

 

A211191 Newid defnydd tir i ddefnydd twristiaeth, er mwyn caniatáu codi pâr o gabanau i’w defnyddio fel llety gwyliau, ynghyd â’r gwaith cysylltiedig gan gynnwys lleoedd parcio a gosod systemau draenio, Hafodhir Uchaf, Bethania, Llanon

 

CYFEIRIO’R cais i’r Panel Archwilio Safle yn unol â Pharagraffau 3, 4 a 5 y meini prawf a fabwysiadwyd gan y Cyngor.

 

        ________________________________________________________________

               

Anerchodd Mrs Gwennan Jenkins (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu

 

A220476 Datblygiad Preswyl, Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Aberporth, Y Clwb, Parc-llyn, Aberteifi

 

CYMERADWYO’R cais yn unol ag amodau a Rhwymedigaeth Adran 106 am dai fforddiadwy a chyfraniad i le agored cyhoeddus.

________________________________________________________________

 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 897 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaetholyr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 893 KB

Cofnodion:

Dim.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.