Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorydd Ifan Davies am ei anallu i fynychu'r cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022 PDF 86 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022 yn rhai cywir Materion sy'n codi Dim. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 899 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y
Swyddog Arweiniol Corfforaethol - Economi ac Adfywio ar y ceisiadau cynllunio a
ganlyn a ystyriwyd mewn cyfarfod blaenorol ac yr oedd angen eu hystyried
ymhellach gan y Pwyllgor:- A210387 Annedd fforddiadwy arfaethedig i gynnwys gosod mynedfa i gerbydau a chyfleuster parod i drin carthion, Tir
yn gyfagos i Lownant, Talsarn GWRTHOD y cais gan y byddai’n
arwain at annedd fforddiadwy newydd mewn lleoliad yng nghefn gwlad agored na
ellir ei gyfiawnhau a lleoliad anghynaliadwy yn groes
i bolisi cynllunio cenedlaethol a amlinellir ym Mholisi Cynllunio Cymru a Nodyn
Cyngor Technegol 2: Cynllunio a Thai
Fforddiadwy (2006) a’r Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd, polisïau S01 ac
S04. ______________________________________________________________________ A220202 Annedd newydd yn lle un wag, Tir ym Mhantyffynnon Isaf, Ysbyty Ystwyth GOHIRIO gwneud penderfyniad ar
y cais er mwyn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ystyried y cais diweddar a
gyflwynwyd ar gyfer trac sy’n arwain at safle’r cais, gan fod y fynedfa ar hyn
o bryd yn gwbl anaddas, annigonol, ac o bosibl yn beryglus,
mae’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio wedi’i awdurdodi i GYMERADWYO’r cais, os oedd y cais am y trac yn dderbyniol,
ac i gynrychioli'r cais i'r pwyllgor os nad oedd. Roedd yr aelodau o’r farn y gellid caniatáu’r cais am y
rhesymau a ganlyn:- ·
Roedd y cais yn unol ag
LU09; oherwydd yn eu barn nhw nad oedd yr eiddo wedi dadfeilio fel nad oedd
bellach yn edrych yn sylweddol fel annedd, ac oherwydd bod modd ei adnewyddu · Cefnogwyd y cais ar y sail bod y cais am y trac yn cael
ei ganiatáu |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 903 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol
Economi ac Adfywio ar
geisiadau cynllunio datblygu,
hysbysebu;statudol a’r awdurdod lleol:- Anerchodd Ms Glesni Phillips y Pwyllgor yn unol
â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor
Rheoli Datblygu A220511Codi annedd
fforddiadwy, Lleine,
Ferwig, Aberteifi CYFEIRIO’r cais at y Panel Arolygu Safleoedd yn unol â pharagraff dau a phump y meini prawf a
fabwysiadwyd gan y Cyngor. A220578 Estyniad llawr
gwaelod ar gyfer defnydd symudedd, Sycharth, Felin-fach, Llanbedr Pont Steffan CYMERADWYO’r cais yn destun amodau.
|
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 897 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd â hwy yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a gafwyd. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |