Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd Y Cynghorydd Mark Strong wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddo fynychu'r cyfarfod. |
|
Materion Personol Cofnodion: Dim. |
|
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion: Dim |
|
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2022 PDF 201 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar
13 Gorffennaf 2022 yn gywir. Materion
yn codi Dim. |
|
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 752 KB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y
Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio am y ceisiadau
cynllunio canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod blaenorol ac yr oedd gofyn
i'r Pwyllgor eu hystyried ymhellach:- A210363 Adeiladu
adeilad amaethyddol er mwyn cadw stoc ifanc (buarth gwellt), Alltgoch, Silian (Dywedodd Y Cynghorydd
Chris James y bu'n bresennol yn ystod y Panel Archwilio Safle, er nad oedd ei
enw wedi cael ei gynnwys yn y cofnodion hynny) CYMERADWYO'R cais
yn unol ag amodau. Roedd yr aelodau o'r farn y byddai modd cymeradwyo'r cais am y rhesymau canlynol:- ·
Yn
dilyn ymweliad y Panel Archwilio Safle â'r safle, daethpwyd i'r casgliad nad
oedd y cais yn cael effaith niweidiol ar y tirlun, felly nad oedd yn mynd yn
groes i Bolisi CDLl DM06, DM17 a DM18 ·
Nodi
nad oedd Swyddogion yn gwrthwynebu i'r cam o adeiladu'r sied, dim ond ei
lleoliad; a oedd yn unol â barn bersonol
y swyddogion ·
Cymeradwyo'r
cais a fyddai'n lleihau'r traffig yn Llanbedr Pont Steffan _____________________________________________________________________ |
|
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 756 KB Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio
datblygu, hysbysebu;
statudol a'r awdurdod lleol:- Anerchodd Mr Tom Evans (ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â'r ychwanegiad dros dro i'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu mewn ymateb i Covid-19 rul A210982 3 pod glampio, addasiadau i'r mynediad
presennol a gosod cyfleuster parod i drin carthion, Pendre, Llanfihangel-y Creuddyn, Aberystwyth CYFIRIO'R cais i'r Panel Archwilio safle yn unol â phwynt 2, 3 a 5 y meini prawf a
fabwysiadwyd gan y Cyngor. _____________________________________________ Anerchodd Mr Geraint John (Asiant) y Pwyllgor yn unol â'r ychwanegiad dros dro i'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu mewn ymateb i Covid-19 A210988 Datblygiad
preswyl o 22 annedd ynghyd â ffyrdd mynediad, gwaith tirlunio a lle amwynder
cysylltiedig, tir yng Nger y Cwm, Penrhyn-coch,
Aberystwyth CYMERADWYO'R cais
yn unol ag amodau cyn cwblhau cytundeb Adran 106 er mwyn darparu tai
fforddiadwy a gweithgarwch rheoli a chyflwyno fesul cam yn yr ardal agored. _____________________________________________________________ |
|
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 749 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi
rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y Swyddog Arweiniol
Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw. |
|
Penderfyniadau Apeliadau PDF 746 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: CYTUNWYD nodi'r
apeliadau cynllunio a oedd wedi dod i law. |
|
Apeliadau a dderbyniwyd PDF 747 KB Cofnodion: CYTUNWYD nodi'r
apeliadau cynllunio a oedd wedi dod i law. |
|
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |