Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

Estynnwyd cydymdeimlad â Chynghorydd Siân Maehrlein yn dilyn marwolaeth ei merch ac â theulu Cynghorydd Hag Harris yn dilyn ei farwolaeth.

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

       Roedd Cynghorwyr Cerys Jones, Siân Maehrlein a Mark Strong wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddynt ddod i'r cyfarfod.

 

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 09 Mawrth 2022 pdf eicon PDF 258 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2022 yn gywir

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio am y ceisiadau cynllunio canlynol, a ystyriwyd yn ystod cyfarfod blaenorol ac yr oedd gofyn i'r Pwyllgor eu hystyried ymhellach:-

 

A201081 Annedd fforddiadwy arfaethedig a fydd yn cynnwys gosod cyfleuster parod i drin carthion, Tir wrth ymyl Fferm College, Bethania, Llanon

 

GWRTHOD y cais gan bod y datblygiad arfaethedig yn cynrychioli datblygiad tai amhriodol mewn 'lleoliadau eraill', sy'n mynd yn groes i Bolisïau S01 ac S04 CDLl a pholisi cynllunio cenedlaethol.

 

 

 

A210091 Cais cynllunio ôl-weithredol am sied offer a storio a gwelliannau i'r fynedfa bresennol i gerbydau, Tir gyferbyn â Than Yr Allt, Coxhead, Tregaron

 

GOHIRIO'R penderfyniad am y cais er mwyn i'r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth bersonol pellach i’w ystyried, mae sesiwn caeedig, mae’r wybodaeth i’w gyflwyno o fewn pythefnos; fel y gall y swyddog cynllunio roi ystyriaeth briodol i’r wybodaeth.

 

 

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch Ceisiadau cynllunio datblygu, hysbysebu;  statudol a'r awdurdod lleol:-

 

 

Anerchodd Mrs Heulwen Evans (ar ran gwrthwynebwyr a Mr Emyr Williams (Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â'r ychwanegiad dros dro i'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu mewn ymateb i Covid-19

 

A201119 Cadw Odyn Sychu Boncyffion Biomas, a dwy Simnai a defnydd parhaus o Foeler Rhif 1 yn unig (yng nghanol yr adeilad) yn dilyn prawf yn ymwneud â Chaniatâd Cynllunio Dros Dro A190302, Cae Celyn, Heol Llanfair, Llanbedr Pont Steffan

 

CYFEIRIO'R cais i'r Panel Archwilio Safle yn unol â phwynt 4, 5 a 7 y Weithdrefn Weithredol.

 

_____________________________________________________________

 

 

A210716 Codi adeilad amaethyddol a gwaith cysylltiedig.

Rhosdir, Bwlchyfadfa, Talgarreg, Llandysul

 

CYMERADWYO'R cais.

 

Roedd yr aelodau o'r farn y byddai modd cymeradwyo'r cais yn erbyn argymhelliad y swyddog am y rhesymau canlynol:-

·        Roedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol o'r farn bod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol, a bod y pryderon ynghylch lleoliad a maint y cynnig, fodd bynnag, roedd yr Aelod Ward Lleol wedi nodi nad oedd y cymydog yn gwrthwynebu i leoliad yr adeilad ac roedd yr Aelodau yn teimlo bod hyn yn cyfiawnhau'r penderfyniad i gymeradwyo'r cais

·        Roedd hi'n bwysig bod adeilad amaethyddol yn cael ei godi er lles y defaid

·        Nid oedd y Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu i'r adeilad

·        Nid oedd gan y cymydog unrhyw wrthwynebiad i'r adeilad

·        Roedd y mynediad arfaethedig i'r adeilad amaethyddol yn dderbyniol gan bod y mynediad amgen yn cynnwys hawl tramwy i eiddo cyfagos

·        Roedd y swyddog cynllunio o'r farn bod modd cyfiawnhau egwyddor y datblygiad a'i fod yn dderbyniol yn unol â Pholisi S04 y Cynllun Datblygu Lleol a TAN6.

 

_________________________________________________________

 

Anerchodd Miss Anwen Jenkins (Ymgeisydd) y Pwyllgor yn unol â'r ychwanegiad dros dro i'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd sy'n annerch y Pwyllgor Reoli Datblygu mewn ymateb i Covid-19

       

A211173 Adeilad cynhyrchu dillad arfaethedig gan gynnwys gosod mynediad newydd i gerbydau a dymchwel adeilad, Llwyn Merch Gwilym, Bronant, Aberystwyth

 

CYMERADWYO'R cais yn ddibynnol ar amodau.

 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi rhestr y ceisiadau cynllunio y bu i Adroddiad y

Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.

 

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a oedd wedi dod i law.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

Dim.