Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Maldwyn Lewis wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddo ddod i’r cyfarfod.

 

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021 pdf eicon PDF 147 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021 yn gywir.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 820 KB

Cofnodion:

Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio a ganlyn a drafodwyd yn un o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac yr oedd angen iddo eu hystyried ymhellach:-                      

 

A200906 Addasu, estyn a newid yr annedd bresennol i ddarparu pedair fflat hunangynhwysol, 1 Heol y Castell, Tan y Cae, Aberystwyth    

 

CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau, gan gynnwys gosod deunydd gwrthsain cyn i neb feddiannu’r fflatiau, gwahardd y meddianwyr rhag defnyddio’r to gwastad fel ardal amwynder, a’u gwahardd hefyd rhag newid y ffenestr yn ddrws i gael mynediad ato.              

            _______________________________________________________________

 

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 825 KB

Cofnodion:

Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:-

 

 

Bu i Mr Luke Veasey (Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19.                                      

 

          A210529 Codi estyniad i Trafford House, Trawsgoed, Aberystwyth

         

CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau.

 

_____________________________________________________________________

 

          Bu i Mr Elfyn Jones (Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil Covid-19.

 

A210615 Llain adeiladu arfaethedig ar gyfer un annedd, gyda mynedfa newydd at y briffordd, Llain wrth ymyl Dolau Gwyn, Dole, Bow Street, Aberystwyth

 

GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais am fis i ganiatáu mwy o amser neu ‘gyfnod callio’ er mwyn ystyried holl ffeithiau’r cais.

          _____________________________________________________________

         

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 815 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw         

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 813 KB

Cofnodion:

Dim.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Cofnodion:

None.