Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Rheoli Datblygu - Dydd Mercher, 12fed Ionawr, 2022 10.00 am

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Estynnwyd dymuniadau gorau i Mrs Margaret James, Uwch-beiriannydd Datblygu Priffyrdd, ar ei hymddeoliad, a diolchwyd iddi am ei 44 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor.

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Paul Hinge wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddo ddod i’r  cyfarfod.

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Dim.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 08 Rhagfyr 2021 pdf eicon PDF 221 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 08 Rhagfyr 2021 yn gywir.                       

 

Materion yn codi

Dim.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 908 KB

Cofnodion:

Dim.

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 929 KB

Cofnodion:

Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:-

 

Bu i Mr Colin Jones (Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.                  

 

            A210129 Defnyddio carafán fel llety gwyliau, Pantyperan, Llandre

           

CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar i’r garafán gael ei gorchuddio er mwyn iddi edrych yn debyg i gaban pren.

 

Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y swyddogion ac roeddent yn tybio bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau a ganlyn:-

 

·         Roedd y cais yn cydymffurfio â pharagraffau 3.7.1, 3.7.2 a 6.3.1 polisi mentrau gwledig TAN 6 gan fod yr ymgeisydd am arallgyfeirio’i fferm;

·         Roedd y cais yn bodloni paragraffau 5.4.1, 5.5, 5.5.1, 5.5.2, 5.5.6, 5.61, 5.62 a 5.160 Polisi Cynllunio Cymru;

·         Roedd y cais yn bodloni polisi LU14;

·         Roedd y garafán wedi bod yn y lleoliad hwn am ugain mlynedd, a rhagwelir y byddai cais i gael tystysgrif cyfreithlondeb yn cael ei gymeradwyo pe bai’r ymgeisydd yn cyflwyno cais o’r fath;

·         Mae’r cais yn cydymffurfio â Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor Sir o ran hybu twristiaeth yn y sir;

·         Mae’r garafán o fewn cwrtil y fferm ac nid mewn cae agored, felly nid yw’n cael effaith weledol ar y dirwedd.

 

_____________________________________________________________________

 

           

A210699 Addasu tŷ amlfeddiannaeth trillawr mawr â saith ystafell wely yn bedair uned breswyl hunangynhwysol, gan gynnwys gwaith dymchwel, gwella ac adnewyddu a gwaith cysylltiedig, 14 Rhes Rheidol, Aberystwyth                                   

 

            CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau.

            _____________________________________________________________

           

           

A210712 Newid defnydd cae amaethyddol i leoli tri phod gwersylla a gwaith cysylltiedig ar gyfer llety gwyliau, Llys Meurig, Penrhyn-coch, Aberystwyth

 

GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais i sicrhau bod modd cael trafodaeth bellach â’r ymgeisydd o ran lleoliad y pod gwyliau a leolir ar ael y cae. Caniateir i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio gymeradwyo’r cais os ceir cytundeb, a bydd y Pwyllgor yn ailystyried y cais os na cheir cytundeb.                             

 

 

            _________________________________________________________________

 

Bu i Mr Oliver Davies (Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.                  

 

            A210722 Byngalo ymddeol arfaethedig, Garej Bayview, Parc-llyn, Aberteifi

 

GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais am fis i ganiatáu ‘cyfnod callio’ a mwy o amser i ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau.

            ________________________________________________________________

 

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 912 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.                                

 

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 910 KB

Cofnodion:

     CYTUNWYD i nodi’r wybodaeth a oedd wedi dod i law am apeliadau.

 

.

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor