Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Mrs Dana Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Materion Personol

Cofnodion:

      Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Paul Hinge wedi ymddiheuro am nad oedd modd iddo ddod i’r cyfarfod oherwydd ei fod yn ymgymryd â dyletswyddau eraill y Cyngor

3.

Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Odwyn Davies ddatgan buddiant personol a

buddiant sy’n rhagfarnu yng nghais A210121.

 

Bu i’r Cynghorydd Rhodri Evans ddatgan buddiant personol a buddiant

sy’n rhagfarnu yng nghais A210464.

 

Bu i’r ddau adael y cyfarfod tra’r oedd y ceisiadau perthnasol yn cael

eu trafod.

 


4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2021 pdf eicon PDF 221 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2021 yn gywir.                       

 

Materion yn codi

Dim.

5.

Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor pdf eicon PDF 1017 KB

Cofnodion:

Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch y ceisiadau cynllunio a ganlyn a drafodwyd yn un o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac yr oedd angen iddo eu hystyried ymhellach:-                   

 

A210121 Codi adeilad fferm amaethyddol, Abermarlais, Cellan, Llanbedr Pont Steffan

 

CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau.

 

Nid oedd yr Aelodau’n cytuno ag argymhelliad y swyddogion ac roeddent yn tybio bod modd cymeradwyo’r cais am y rhesymau a ganlyn:-

 

·         At ei gilydd, nid oedd yr adeilad fferm amaethyddol yn effeithio’n andwyol ar y dirwedd oherwydd ei fod yn ddatblygiad bach – heb fod yn rhy amlwg na mawr

·         Byddai modd sgrinio’r adeilad a byddai bordiau pren yn cael eu gosod ar yr ochr er mwyn iddo fod yn gydnaws ag adeiladau amaethyddol eraill yng nghefn gwlad agored

·         Nid oedd i’r cais unrhyw effaith ecolegol oherwydd nad oedd yr ymgeisydd yn creu mynedfa newydd i’r adeilad

·         Mae angen yr adeilad er lles yr anifeiliaid ac i gynorthwyo’r ymgeisydd â’i waith

·         Mae’n bolisi gan Gyngor Sir Ceredigion i hyrwyddo ac i gefnogi’r sector amaethyddol

·         Mae’r adeilad yn agos at adeiladau eraill

·         Mae’r daliad ar draws y ffordd

·         Mae’r cais yn cydymffurfio â pholisi DM10

·         Cafodd polisi DM06 ei liniaru gan fod y cais yn cydymffurfio â pholisi DM10

·         Mae’r cais yn ymlynu wrth bwynt 3 polisi S04

·         Nid yw mewn anheddiad cyswllt

·         Mae angen lleol am yr adeilad hwn ac mae’n cefnogi’r economi leol

·         Y Cynllun Datblygu Lleol sy’n cyfyngu ar gymeradwyo’r cais hwn gan fod Polisi Cynllunio Cymru’n datgan y dylid cefnogi adeiladau amaethyddol

·         Nid yw TAN6 yn berthnasol

          

6.

Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Trafodwyd adroddiad Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ynghylch ceisiadau datblygu, hysbysebu, statudol a’r awdurdod lleol:-

 

Bu i’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Bryan Davies, gadeirio’r cyfarfod tra’r oedd cais A210387 yn cael ei drafod gan fod y Cadeirydd am annerch y cyfarfod yn rhinwedd y ffaith mai ef yw’r Aelod lleol.

 

Bu i Mr E Jenkins annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.                      

 

A210387 Cynnig i godi annedd fforddiadwy gan gynnwys creu mynediad i gerbydau a gosod gwaith trin carthion, Tir wrth ymyl Glownant, Talsarn

           

GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais am fis i ganiatáu mwy o amser neu ‘gyfnod callio’ er mwyn ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau, gan gynnwys:

·         sicrhau bod y datblygiad yn gydnaws â’r dirwedd

·         maint y datblygiad

·         bod yr ymgeisydd wedi cyd-drafod â’r Awdurdod Cynllunio Lleol

·         adran 5.62 o Bolisi Cynllunio Cymru

 

ac er mwyn i’r Pwyllgor gael mwy o gyngor am arwyddocâd y gwyriad a’r risg cyn penderfynu’n derfynol

 

 

            _____________________________________________________________

 

            Bu i Mr Geraint Hughes (Asiant) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.

 

A210463 Cynnig i godi annedd unllawr, Tir yn Woodcroft, Capel Dewi, Aberystwyth        

 

GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais am fis i ganiatáu mwy o amser neu ‘gyfnod callio’ er mwyn ystyried y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau, gan gynnwys:               

  • barn y swyddogion Blaen-gynllunio am ddyfodol Capel Dewi

yn y Cynllun Datblygu Lleol, adran 4.2.5 Polisi Cynllunio Cymru ac

  • adrannau 5 a 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 
  • bod 10% wedi’i gynnig ac er mwyn i’r Pwyllgor gael mwy o gyngor am arwyddocâd y gwyriad a’r risg cyn penderfynu’n derfynol

__________________________________________________________

 

Bu i Ms Naomi Mudie (Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.      

 

A210464 Codi sied storio â ffrâm ddur i’w defnyddio i storio peiriannau a bwyd anifeiliaid, Caeau Tyncelyn, Llangeitho, Tregaron

 

GOHIRIO’R penderfyniad ar y cais er mwyn i’r ymgeisydd ddarparu mwy o wybodaeth a thystiolaeth fel y nodwyd ganddi yn ei datganiad i’r Pwyllgor. Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys:                           

·         sut y mae’r datblygiad yn gydnaws â’r dirwedd

ac er mwyn i’r Pwyllgor gael mwy o gyngor am arwyddocâd y gwyriad a’r risg cyn penderfynu’n derfynol

 

            Mae angen yr wybodaeth hon cyn i’r Grŵp Cyfnod Callio ystyried y cais.

 

 

            _____________________________________________________________

              

Bu i Mr Maldwyn Pryse (Gwrthwynebydd) a Mr Arwyn Jones (Ymgeisydd) annerch y Pwyllgor yn unol â’r atodiad dros dro i’r weithdrefn weithredol sy’n caniatáu i’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn sgil COVID-19.

 

A210468 Cynnig i estyn ac i addasu’r annedd, gan gynnwys cael gwared ar y rhan unllawr o’r annedd, 16 Pen-y-graig, Aberystwyth

 

CYMERADWYO’R cais yn ddibynnol ar amodau.

 

_______________________________________________________________

 

7.

Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig pdf eicon PDF 1017 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol CorfforPENDERFYNWYD nodi’r rhestr o geisiadau cynllunio y bu i Swyddog Arweiniol Corfforaethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.aethol – yr Economi ac Adfywio ymdrin â nhw.

8.

Apeliadau pdf eicon PDF 1013 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r penderfyniadau a oedd wedi dod i law o ran apeliadau cynllunio.

 

 

9.

Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor