Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Mrs Dana Jones
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr
Gethin Davies a Rhodri Davies am eu hanallu i fynychu'r cyfarfod. Dywedodd y Cynghorydd Cerys Jones y byddai angen iddi adael y cyfarfod yn gynnar oherwydd ymrwymiadau eraill. |
||
Materion Personol Cofnodion:
|
||
Datgelu buddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu Cofnodion:
|
||
Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mai 2024 PDF 92 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mai 2024 fel rhai cywir. Materion sy’n
codi Dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Economi ac Adfywio y cynhelir sesiwn friffio gydag Aelodau ar Apeliadau a TAN 6 maes o law. |
||
Ystyried ceisiadau cynllunio a ohiriwyd mewn Cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor PDF 2 MB Cofnodion:
|
||
Ceisiadau Statudol, Llywodraeth Leol, Hysbysebion a Datblygu PDF 2 MB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol Economi ac Adfywio ar geisiadau datblygu, hysbysebu; yr awdurdod lleol a statudol:- Anerchodd Mr Emyr Jones a Mr Rob Jones (Asiantiaid) y pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu A211186 Codi siop adwerthu bwyd Dosbarth A1 - Aldi, adnewyddu pafiliwn chwaraeon rhestredig Gradd II, gosod tri phod arddangos o bren parod a chreu ardal natur a bioamrywiaeth, gyda mynedfa, maes parcio a gwaith tirlunio yn gysylltiedig. Caeau Chwarae Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Heol Pontfaen, Llanbedr Pont Steffan. GOHIRIO'r cais i'r Grŵp Callio yn unol â pharagraff 2 (opsiwn 3) o'r broses ohirio ar gyfer ceisiadau a gyflwynir i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu - Gweithdrefnau Gweithredol. _________________________________________________________________ Anerchodd Jon Wilks y pwyllgor yn unol â'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu A230727 Datblygiad preswyl ynghyd â gwaith cysylltiedig gan gynnwys cynllun tirlunio, strategaeth ecoleg a draenio. Tir i'r De o Stryd Alma, Llannarth CYMERADWYO’r cais yn destun amodau a chytundeb adran 106. Roedd Aelodau'r Pwyllgor yn dymuno iddo gael ei nodi yng nghofnodion y cyfarfod, bod Cyngor y Gymuned yn ceisio budd cymunedol o'r cais a'u bod yn cynnig ardal wedi'i lleoli y tu ôl i neuadd Llannarth ar gyfer maes parcio y mae'r Datblygwr wedi cytuno iddi. _______________________________________________________________ Anerchwyd y pwyllgor gan Mr James Scarborough yn unol a'r weithdrefn Weithredol ar gyfer Aelodau'r Cyhoedd yn annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu A230865 Ystafell arddangos arfaethedig ac adeilad ar gyfer Gweithdy/MOT yn lle'r gweithdy presennol, Garej Whitehall, Stryd Fawr, Llan-non CYFEIRIO'r cais i'r Panel Arolygu Safleoedd yn unol â pharagraff 2 a 3 o feini prawf mabwysiedig y Cyngor. _______________________________________________________________ A240148 Uned blwch storio (storage container unit) newydd arfaethedig i ddarparu ar gyfer busnes therapi harddwch (at ddefnydd unigryw sui generis), Parc Piliau, Ystâd Ddiwydiannol Pentood, Aberteifi GOHIRIO penderfynu ar y cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ofyn am gadarnhad gan Ddŵr Cymru os oeddent yn barod i ddileu’r amod a argymhellwyd ganddynt yn atal meddiannaeth tan 31 Mawrth 2027 neu hyd nes y bydd y gwaith uwchraddio i waith trin dŵr gwastraff Aberteifi wedi’i gwblhau, bod y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Economi ac Adfywio wedi’i awdurdodi i WRTHOD y cais os nad yw Dŵr Cymru yn cytuno i ddileu'r amod. _________________________________________________________________ A240180 Adeiladu uned i gynnwys llety staff dros dro, Neuadd Cyngor Ceredigion, Ffordd Mynediad Swyddfeydd y Cyngor, Penmorfa, Aberaeron CYMERADWYO'r cais yn destun amodau. _____________________________________________________________ A240417 Diwygiadau Ansylweddol i A190729 i ddiwygio geiriad amodau 12, 15 a 17 i ofyn am ryddhad rhannol o'r amodau 12, 15 a 17 ar gyfer rhan gyfyngedig o'r datblygiad arfaethedig, Llwybr Ystwyth, Tregaron CYMERADWYO bod caniatâd yn cael ei roi ar gyfer diwygiad ansylweddol i ganiatáu newidiadau i eiriad amod 12, 15 ac 17 yn y drefn honno ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
||
Ceisiadau Cynllunio y deliwyd â hwy o dan awdurdod dirprwyedig PDF 2 MB Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o geisiadau cynllunio yr ymdriniwyd â hwy yn Adroddiad y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Economi ac Adfywio. |
||
Unrhyw fater arall y penderfyna’r Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor Cofnodion: Dim. |
||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: CYTUNWYD nodi'r apeliadau cynllunio a gafwyd. |