Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol - Dydd Llun, 23ain Medi, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Gweithdrefn

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai eitemau 4 a 5 ar yr agenda yn cael eu hystyried yn gyntaf.

4.

Trosolwg o’r materion ariannol yn ystod y flwyddyn pdf eicon PDF 725 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i drosolwg y materion ariannol yn ystod y flwyddyn. Dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros Gyllid a Chaffael gan fod yr Aelodau yn ymwybodol bod y broses o osod Cyllideb 24/25 yn un heriol a oedd yn cynnwys c 70 o gynigion i Leihau’r Gyllideb i’w gymeradwyo sef cyfanswm o £5.8m. Mae'r cynnydd o ran cyflawni'r Gostyngiad Cyllideb hwn yn cael ei adolygu a'i fonitro gan y Grŵp Arweinyddiaeth ar ddiwedd pob mis.

 

Yn ystod y flwyddyn y bwriad yw darparu'r wybodaeth ganlynol i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn unigol:

• Y sefyllfa ariannol chwarterol ddiweddaraf fel yr adroddwyd i'r Cabinet, (i

gynnwys y sefyllfa ddiweddaraf o ran statws BRAG ar ostyngiadau yn y gyllideb 24/25)

• Bydd hyn yn cynnwys yr adroddiadau Monitro Refeniw a Chyfalaf.

 

Bydd y wybodaeth hon yn galluogi'r Pwyllgor i graffu ar y materion ariannol sy'n berthnasol i'r meysydd Gwasanaeth sy'n dod o fewn ei gylch gwaith. Ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn gall y Pwyllgor ddewis bwrw golwg ar unrhyw ran o'r Gyllideb sydd o fewn ei gylch gwaith a hynny drwy'r Flaenraglen Waith.

 

Yn dilyn cwestiynau o'r llawr, cytunwyd i nodi'r adroddiad er gwybodaeth ac y byddai adroddiad diweddaru blynyddol ar Effaith y Premiymau Treth Gyngor cynyddol ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Tymor Hir yn cael ei roi fel eitem ar y Flaenraglen Waith.

 

 

5.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2024/5 2027/8 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. Adroddodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros Gyllid a Chaffael bod y Strategaeth yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol ac ni ddylid ystyried y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig fel cyllideb fanwl ffurfiol na phendant. Yn hytrach, mae'n cynnig dull trosfwaol y bydd angen i'r Cyngor ei fabwysiadu er mwyn cyflawni ei flaenoriaethau gan gynnwys ystyried yr amgylchedd deddfwriaethol, economaidd allanol a phwysau gwario a chyllid dangosol a ragwelir yn ystod y cyfnod.

       

 

        Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig felly wedi cael ei diweddaru ac erbyn hyn mae’n cynnwys y cyfnod o 2024/25 i 2027/28. Mae’n cynnwys Crynodeb Gweithredol sy’n nodi’r prif faterion sydd wedi’u cynnwys yn y Strategaeth fanwl.

       

        Denir sylw’r Aelodau yn benodol at:

  • Crynodeb Gweithredol ar dudalennau 2-4
  • Blaenoriaethau Cyllideb y Cyngor a’r cysylltiad rhwng y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Strategaeth Gorfforaethol 2022 – 2027 a’r Amcanion Llesiant Corfforaethol cysylltiedig ar dudalennau 21-22
  • Senarios Bwlch Cyllido’r Gyllideb sy’n edrych ar lefelau gwahanol o gyllid dangosol o ran Treth y Cyngor a chyllid Llywodraeth Cymru ar dudalennau 29-31
  • Dadansoddiad sensitifrwydd o’r gwahanol newidynnau o fewn y gyllideb ar dudalen 38
  • Atodiadau – Arbedion Dangosol ac wedi’u Cymeradwyo ar dudalen 40

 

Wedi ystyriaeth ac adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, y bwriad yw cyflwyno’r Strategaeth i’r Cabinet ar 01/10/24 ac yna i’r Cyngor Llawn ar 24/10/24.

 

Yn dilyn trafodaeth a chwestiynau o'r llawr, cytunwyd argymell i'r Cabinet a'r Cyngor Llawn fod Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2024/25 - 2027/28 yn cael ei chymeradwyo.

 

Gofynnwyd hefyd am adroddiad ar yr Incwm a gynhyrchwyd o adeiladau'r Cyngor fel eitem ar y Blaenraglen Waith gan fod sawl adeilad wedi bod yn wag dros gyfnod o amser.

       

 

6.

Craffu cyn penderfynu ar adleoli Llyfrgell Aberaeron pdf eicon PDF 928 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ar y bwriad i adleoli Llyfrgell Aberaeron.  Roedd canfyddiadau allweddol yr ymgynghoriad a'r ymateb iddo ynghlwm wrth yr adroddiad.  Cyflwynodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod o’r Cabinet y wybodaeth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies wrth Aelodau'r Pwyllgor y byddai'r cynnig i adleoli'r llyfrgell i Benmorfa yn:

  1. Darparu ardal benodedig newydd i blant gyda mwy o gasgliad a gwell cyfleoedd i gysylltu â’r ysgol gynradd a’r maes parcio a rennir er mwyn cyflwyno cenhedlaeth newydd i fanteision llyfrgell a dysgu gydol oes.
  2. Cynnydd mewn oriau agor lle bydd y llyfrgell ar gael i'r cyhoedd.
  3. Lleihau ôl troed CO2 drwy symud i ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan ganiatáu i fan gymunedol y llyfrgell weithredu o'r safle, o bosibl fel cerbyd trydan (yn dibynnu ar grant) gyda rhagor o oriau i gefnogi'r gymuned yn well.
  4. Lleihau dyblygu staff gwasanaethau i gwsmeriaid ar draws y ddau adeilad gan leihau costau a sicrhau nad yw oriau'r llyfrgell yn cael eu lleihau'n sylweddol.
  5. Cydlynu Cyswllt Cwsmeriaid mewn un lleoliad er mwyn lleihau dryswch.
  6. Gwella cydweithio a chyfeirio rhwng cyswllt cwsmeriaid a staff y llyfrgell gyda'r ganolfan byw’n annibynnol newydd gan greu cyfleoedd i gefnogi byw'n annibynnol yn well.
  7. Darparu offer a chyfleusterau cynyddol a gwell er mwyn helpu i gefnogi unigolion yn well gyda’u datblygiad personol.
  8. Caniatáu cyfleoedd gwaith ac astudio nad ydynt yn bosibl ar hyn o bryd.
  9. Rhyddhau adeilad hanesyddol yng nghanol y dref i ailddatblygu a darparu eiddo busnes newydd yng nghanol y dref a all o bosibl greu rhagor o ymwelwyr a manteision economaidd.

 

Neu ofyn bod

 

  • Cabinet yn cyfarwyddo swyddogion i fwrw ymlaen â chau gwasanaeth y llyfrgell yn Aberaeron neu Lanbedr Pont Steffan er mwyn cyflawni’r arbedion o £70k sydd eu hangen gan wasanaeth y llyfrgell i gyrraedd y targed arbedion corfforaethol o £5.8M ar gyfer 2024/25.

 

 

Yn dilyn trafodaeth hir, cytunodd Aelodau'r Pwyllgor i argymell bod y Cabinet yn GOHIRIO'r penderfyniad, am y rhesymau canlynol:

 

(i)    Gall Aelodau’r Pwyllgor ymweld â Neuadd y Sir, Aberaeron, ac yna gellir trefnu cyfarfod arbennig o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Adnoddau Corfforaethol yn dilyn cyfarfod y safle, cyn gwneud argymhelliad pellach, a,

(ii)   bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a’i rhannu gyda’r Pwyllgor ynghylch effaith ôl troed carbon yn seiliedig ar deithio’r rheini sy’n mynychu’r llyfrgell yn Neuadd y Sir, o gymharu â Phenmorfa.

 

 

 

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod  cywir.