Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Ceris Jones ac Ann
Bowen Morgan am eu hanallu i fynychu’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Datganodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies fuddiant personol
mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth yn ymwneud â staff addysg yr Awdurdod. Datganodd y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet, fuddiant personol mewn
perthynas ag unrhyw drafodaeth yn ymwneud â’r Awdurdod Tân. Datganodd y Cynghorydd Keith Henson fuddiant personol
mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau staffio yn y cyfarfod. Datganodd y Cynghorydd Raymond Evans fuddiant personol mewn
perthynas ag unrhyw drafodaeth yn ymwneud â’r Awdurdod Tân. Datganodd y Cynghorydd Rhodri Evans fuddiant personol
mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth yn ymwneud â staff addysg yr Awdurdod. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: None |
|
Adroddiad ddrafft ar y Gyllideb 25/26 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Amlinellodd y Cynghorydd Elaine Evans, Cadeirydd
y Pwyllgor, y drefn gyfarfod a chroesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod Cabinet
dros Gyllid a Chaffael, Aelodau’r Pwyllgor, a’r Aelodau o’r Cabinet sy’n
weddill, Aelodau a Swyddogion nad oedd yn rhan o’r Pwyllgor i’r cyfarfod. Bu i’r Cabinet
ystyried a chytuno ar 9 argymhelliad mewn perthynas ag adroddiad Gyllideb
ddrafft 25/26. Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies yr
adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/2026. Cyflwynodd y Cynghorydd
Gareth Davies, Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chaffael, y wybodaeth sy’n
weddill. Yna darparodd Duncan Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyllid a
Chaffael diweddariad llafar byr ar sefyllfa ddiweddaraf y Gyllideb. Cododd Arweinydd y Cyngor fater yn ymwneud â’r ardoll tân a’r Adolygiad
Diwylliannol Annibynnol diweddar o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a
Gorllewin Cymru. Mynegwyd y byddai’r Cyngor fel Awdurdod cyfansoddol am graffu
ar y sefyllfa a gofyn cwestiynau i Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. Roedd cyfle i gael
cwestiynau a mewnbwn gan Aelodau’r Cabinet a swyddogion ynghylch y meysydd
gwasanaeth perthnasol. Y prif bwyntiau a godwyd yn ystod y drafodaeth oedd: · A yw’r
Cyngor yn sicrhau ei fod yn gwneud y mwyaf o incwm o’n hasedau? Amlinellodd Swyddog Arweiniol Corfforaethol
Economi ac Adfywio'r ystod eang o fentrau sydd ar y gweill ar hyn o bryd a fydd
yn cynhyrchu incwm neu’n darparu arbedion ac mae’r ffocws ar y meysydd hynny
sy’n darparu’r enillion mwyaf: o
Ystâd fasnachol o
Datblygu asedau o
Cyfleoedd ar gyfer defnydd ein hasedau o
Cyfleusterau cyhoeddus o
Egni. 1.
Cyfeiriwyd at y defnydd o Awel Deg, Llandysul a beth oedd
cynlluniau'r Cyngor ar gyfer yr ased, gan holi a ellid ei ddefnyddio ar gyfer
llety plant yn Ne'r Sir mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor
Sir Penfro. 1.
Cyfeiriwyd
hefyd at Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ffermydd y
Sir. Dywedodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, yr Economi
ac Adfywio y bydd cyfarfod yn cael
ei gynnal gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor yn fuan i
drafod yr amserlen a'r weledigaeth ar gyfer Ffermydd Sirol. 1.
Gofynnodd
y Cynghorydd Euros Davies a oedd y Cyngor yn colli arian oherwydd premiwm Treth y Cyngor ar eiddo gwag tymor hir. Dywedodd y Swyddog A151 y byddai angen iddo
edrych ymhellach ar hyn ac adrodd yn
ôl i'r Pwyllgor. 1.
Gofynnodd
y Cynghorydd Elizabeth Evans a fyddai trwyddedau stryd yn cael eu
gorfodi eleni ac felly'n dod ag incwm ychwanegol i'r Awdurdod. Yn dilyn trafodaeth,
gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor ystyried yr argymhellion canlynol: Argymhellion: Ar gyfer y Gwasanaethau priodol sydd o
fewn cylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hwn: 1. I ystyried: a)
sefyllfa gyffredinol cyllideb ddrafft 25/26. b) yr elfennau
perthnasol o ran y symudiadau yn y Gyllideb Refeniw. c) yr elfennau
perthnasol yng nghyswllt y pwysau o ran costau yn y Gyllideb Refeniw. d) yr elfennau
perthnasol o ran y cynigion ynghylch gwneud arbedion yn y Gyllideb Refeniw. e) yr elfennau perthnasol o ran y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 17. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
fel cofnod cywir. Nid oedd unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion hynny. Diolchodd y Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor i’r
Swyddogion am eu gwaith caled wrth baratoi papurau’r agenda. Diolchodd y
Cadeirydd i Lisa Evans am ei chefnogaeth drwy gydol y cyfarfod. |