Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol - Dydd Llun, 6ed Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan am ei hanallu i fynychu’r cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Dim.

4.

Adroddiad Diweddariad Gwasanaeth Crwneriaid Ceredigion 23-24 pdf eicon PDF 301 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd yr adroddiad ar adroddiad 2023 Uwch Grwner Ceredigion.

Dywedwyd bod adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor ar 16 Gorffennaf 2024 yn amlinellu’r ystadegau cenedlaethol, a nodwyd nad oedd datganiad ystadegol ar gyfer 2023 ar gyfer Ceredigion wedi dod i law.

 

Ar hyn o bryd, adroddwyd:-

1) Datganiad Ystadegol Ceredigion ar gyfer 2023

Yn anffodus, nid oedd y Cyngor wedi derbyn y wybodaeth eto ar gyfer ffurflen ystadegol 2023 ar gyfer Ceredigion.

 

2)Cwestau

Cynhaliwyd 26 cwest rhwng 26 Mehefin 2024 a 1 Rhagfyr 2024.

Roedd 7 ohonynt yn gwestau cyhoeddus a 19 yn gwestau ysgrifenedig. Mae dau gwest wedi'u

trefnu ar gyfer dyddiadau yn y dyfodol - 02.12.2024 a 05.02.2025. Gwasanaethau Crwner - Cyngor Sir Ceredigion

 

3)Tocsicoleg

Bu cynnydd mewn achosion tocsicoleg yn y blynyddoedd diwethaf

 

4) Cefnogaeth i Wasanaeth y Crwner

Mae trefniadau swyddfa’r Crwner wedi newid yn yr ystyr bod cwmni cyfreithiwr preifat y Crwner a swyddfa’r crwner a leolir yn yr un man wedi uno â chwmni arall yn ddiweddar. Mae hyn wedi cael effaith ar gefnogaeth staffio gweinyddol mewn perthynas â gwasanaeth y Crwner. Er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth, mae'r Cyngor yn y broses o fynd i'r afael â chefnogaeth staffio i'r Crwner.

 

Ailadroddodd yr aelodau eu siom nad oedd y Crwner wedi darparu adroddiad yr Awdurdod Lleol a data ystadegol ar gyfer 2023; gan fod angen y wybodaeth hon ar gyfer trefniadau tryloywder ac atebolrwydd y Cyngor oherwydd arian cyhoeddus yn darparu cefnogaeth ariannol i'r gwasanaeth.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD:-

(i)             nodi’r adroddiad er gwybodaeth ;

(ii)            bod llythyr pellach yn cael ei anfon at Swyddfa’r Crwner yn gofyn am adroddiad yr Awdurdod Lleol a data ystadegol ar gyfer 2023 cyn gynted â phosibl ac os na cheir ymateb mewn amser priodol bod y llythyr yn cael ei anfon at y Prif Grwner; ac

(iii)          yr angen i ystyried uno Gwasanaeth Crwner Ceredigion ag ardaloedd crwneriaid Sir Gaerfyrddin/Sir Benfro yn y dyfodol.

 

5.

Adroddiad Absenoldeb Salwch pdf eicon PDF 637 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad ar Adroddiad Absenoldeb Salwch. Nododd bod yr adroddiad yn gosod rheolaeth o absenoldeb salwch yn y Cyngor a darparodd drosolwg o ganlyniadau monitro absenoldeb ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024.

 

Mewn perthynas â Rheolaeth Absenoldeb Salwch, adroddwyd bod y Polisi a'r Gweithdrefnau ar gyfer Rheoli Absenoldeb Salwch yn y Gweithle wedi'i gwmpasu ar gyfer staff corfforaethol, Rheoli Absenoldeb Salwch yn y Gweithle, ac ar gyfer staff ysgolion. Mae’r ddau bolisi yn dilyn yr un egwyddorion a gellid eu rhannu’n ddwy ran benodol a darparwyd naratif manwl ar gyfer y ddau absenoldeb ar y ddau:

 

a) absenoldeb salwch tymor byr - cyfnod byr o absenoldeb, yn aml ond ychydig ddiwrnodau o ganlyniad i fan anhwylderau

b) absenoldeb salwch tymor hir - absenoldeb parhaus o fwy na 28 diwrnod

 

Yn 2017-18 y Cyngor oedd wedi adrodd y nifer uchaf o ddiwrnodau a gollwyd am bob gweithiwr, cyfwerth ag amser llawn, o blith holl awdurdodau lleol Cymru, sef 13.6 diwrnod. Mewn ymateb i hyn cyflwynwyd nifer o fentrau a oedd yn canolbwyntio ar gyfradd yr absenoldebau. Roedd y rhain yn cynnwys: • Cyflwyno rôl Swyddog Iechyd a Lles Gweithwyr

• Cyflwyno polisi diwygiedig Rheoli Absenoldeb yn y Gwaith

• Hyfforddiant i reolwyr ar reoli absenoldeb salwch tymor hir mewn modd effeithiol

• Gweithredu gweithdrefnau diwygiedig o ran monitro absenoldebau salwch

 

 

Mae’r mentrau hyn wedi gweld gostyngiad yn nifer y diwrnodau a gollwyd am bob gweithiwr, cyfwerth ag amser llawn, a thros y pedair blynedd diwethaf mae’r nifer wedi bod yn gyson o dan y cyfartaledd ar gyfer awdurdodau lleol Cymru. Adroddwyd ar gyfer 2022-23 bod y gymhariaeth ddiweddaraf sydd ar gael ar gyfer holl awdurdodau lleol yng Nghymru ac roedd 9.6 o ddiwrnodau a gollwyd yng Ngheredigion am bob gweithiwr, cyfwerth ag amser llawn, yn gyfforddus o fewn y chwartel isaf.

Fodd bynnag, bu cynnydd yng Ngheredigion ar gyfer 2023/24 a oedd wedi gweld nifer y diwrnodau’n codi i 11.1 diwrnod am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn, ond nodwyd bod hyn yn gynnydd sydd wedi’i weld ledled y DU.

 

Roedd Adroddiad Iechyd a Lles yn y Gwaith 2023, gan Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), wedi nodi fod absenoldeb o achos salwch ar ei lefel uchaf ers dros ddegawd. Y gyfradd gyfartalog yn y sector cyhoeddus oedd 10.6 diwrnod o absenoldeb mewn sefydliadau oedd â rhwng 1,000 a 4,999 o weithwyr. Y gyfradd ar gyfer y rheiny oedd â dros 5,000 o weithwyr oedd 13.3 diwrnod o absenoldeb. Y prif resymau a nodwyd am absenoldeb tymor byr oedd mân afiechydon, anafiadau cyhyrysgerbydol ac iechyd meddwl, a’r prif resymau am absenoldeb tymor hir oedd afiechyd meddwl, anafiadau cyhyrysgerbydol, cyflyrau meddygol acíwt, a straen.

 

Nid oedd y data cymharol ar gyfer holl awdurdodau lleol Cymru wedi’i gyhoeddi eto ond darparwyd canlyniadau dros dro. Roedd y ddau chwarter cyntaf 2024/25 yn debyg iawn, yn fras, i’r un cyfnod y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Adroddiad Bwlch Cyflog y Rhywiau a Cydraddoldeb yn y Gweithlu pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth fod gofyn i Gyngor Sir Ceredigion, ynghyd â’r holl awdurdodau cyhoeddus rhestredig yng Nghymru, wneud adroddiadau ar gyflogau rhywedd a chyhoeddi gwybodaeth am gyflogaeth yn flynyddol.

 

Mae’r gofyniad i adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi’i gynnwys yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017. Mae’r Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i wneud chwe chyfrifiad ynglŷn â’r gweithlu ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ddata a gymerwyd am y gweithle ar 31 Mawrth 2024.

Cymedr y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Y gwahaniaeth rhwng enillion fesul awr gyfartalog gweithwyr gwryw perthnasol ar gyflog llawn a gweithwyr benyw perthnasol ar gyflog llawn.

Canolrif y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Y gwahaniaeth rhwng canolrif enillion fesul awr gweithwyr gwryw perthnasol ar gyflog llawn a gweithwyr benyw perthnasol ar gyflog llawn

Cymedr bonws y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Y gwahaniaeth rhwng cymedr y tâl bonws a delir i weithwyr gwryw perthnasol a'r hynny a delir i weithwyr benyw perthnasol.

Canolrif bonws y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Y gwahaniaeth rhwng canolrif y tâl bonws a delir i weithwyr gwryw perthnasol a'r hynny a delir i weithwyr benyw perthnasol.

Y cyfrannau sy’n derbyn taliadau bonws

Cyfran y gweithwyr gwryw a benyw berthnasol a dderbyniodd daliadau bonws yn ystod y cyfnod perthnasol.

Bandiau cyflog chwartel

Cyfran y gweithwyr gwryw a benyw berthnasol ar gyflog llawn sydd yn y chwartel isaf, y chwartel canol isaf, y chwartel canol uchaf a’r chwartel uchaf.

 

 

Fodd bynnag, yn sgil cyflwyno'r Cytundeb Statws Sengl yn 2012, nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud taliadau bonws (perfformiad neu benodol) felly ni chyhoeddir ffigurau ar gyfer pwyntiau 3, 4 a 5 yn y tabl uchod.

 

Ar 31 Mawrth 2024, cymedr y bwlch cyflog oedd 7.0% a chanolrif y bwlch cyflog oedd 6.6% rhwng dynion a menywod. Mae hyn yn ostyngiad o 31 Mawrth 2023, lle 7.8% oedd cymedr y bwlch cyflog a 10.4% oedd canolrif y bwlch cyflog. Mae hyn yn cymharu'n ffafriol â chyfartaledd cenedlaethol 2024, lle'r oedd canolrif Cymru yn 8.9% a chanolrif y DU yn 13.1%.

 

Adroddiad Cydraddoldeb yn y Gweithlu 2024

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus 2011, sy’n rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi amrywiaeth o ddata am ein gweithlu o dan bob un o’r nodweddion gwarchodedig a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb.

• Oedran

•Anabledd

•Ailbennu rhywedd

•Beichiogrwydd a mamolaeth

•Hil

Crefydd neu gred (gan gynnwys dim cred)

•Rhyw

•Cyfeiriadedd Rhywiol

•Priodas a Phartneriaeth Sifil

 

Mae’r data a gasglwyd yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 ac mae’n adrodd ar bob nodwedd warchodedig yn y canlynol:

• ein gweithlu presennol ar 31 Mawrth 2024;

• y rhai a wnaeth gais am swyddi yn ystod y cyfnod

• y rhai a adawodd ein cyflogaeth yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Diweddariad 6 mis Cwynion, Canmoliaethau a Rhyddid Gwybodaeth pdf eicon PDF 324 KB

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth wybodaeth yn ymwneud â gweithgaredd Canmoliaeth a Chwynion y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2024 a 30 Medi 2024. Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi manylion nifer a math y ganmoliaeth a dderbyniwyd, y gwahanol gamau cwynion a gwybodaeth ynghylch perfformiad a chanlyniadau. 

 

Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau’r Awdurdod Safonau Cwynion, a gyflwynwyd fel rhan o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, dylai’r Cabinet a Phwyllgor(au) Trosolwg a Chraffu perthnasol gael adroddiad sy’n nodi nifer y cwynion y mae’r Cyngor wedi’u cael, a’u math, o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

 

I grynhoi: :

• Cafwyd 124 gair o Ganmoliaeth

• Cafwyd 176 Cwyn: Cam 1 = 137 Cam 2 = 39

• Cafwyd 16 ‘Cysylltiad’ trwy Ombwdsmon Cymru

• Proseswyd 134 Ymholiad gan y Gwasanaeth Cwynion a RhG

• Proseswyd 556 cais RhG a RhGA gan y Tîm Cwynion a RhG

 

Mae’r adroddiad hwn yn dangos y bu cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion a gafwyd o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd. Mae nifer yr ymchwiliadau ffurfiol yng Ngham 2 wedi aros yn gymharol sefydlog (fel y dangosir yn Nhabl 3.2 yr adroddiad), er bod nifer y cwynion Cam 1, anffurfiol wedi dyblu bron.

Mae’n bwysig nodi y gallai sawl ffactor fod yn cyfrannu at gynnydd mewn gweithgarwch cwyno ac mae gwasanaethau unigol yn gwneud gwaith rhagweithiol i reoli’r holl gwynion a geir ynghylch y gwasanaethau y maent yn eu darparu.

 

Mae’n amlwg o’r data yn yr adroddiad bod y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (HES) wedi cael nifer uchaf y cwynion yn ystod hanner cyntaf 2024/25, ac roedd Tudalen 41 Eitem Agenda 72mwyafrif y rhain yn ymwneud â’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff. At ei gilydd, cofrestrwyd 81 o gwynion yn erbyn HES, ond mae’n galonogol gweld bod nifer y cwynion ffurfiol (yng Ngham 2) wedi aros yn gymharol sefydlog ac yn gyson gyda’r niferoedd a welwyd mewn adroddiadau blaenorol. Mae hyn yn awgrymu, er gwaethaf llif y cwynion yng Ngham 1, y bu modd datrys y rhain heb orfod eu huwchgyfeirio i’r

cam ymchwilio ffurfiol (Cam 2).

 

Dyma rai o’r elfennau cyd-destunol y mae’n rhaid eu hystyried wrth geisio dehongli unrhyw themâu a thueddiadau ynghylch gweithgarwch sy’n ymwneud â chwynion. Yn yr achos hwn, mae’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff yn rheoli swm sylweddol o ‘gysylltiadau gyda chwsmeriaid’ yn ddyddiol, er y cydnabyddir bod y gwasanaeth wedi cael rhai anawsterau gweithredol mewn rhai rhannau o Geredigion yn gynnar eleni. Fel y nodwyd uchod, nid oedd y duedd gynyddol yn nifer y cwynion yn erbyn y Gwasanaeth Casglu Gwastraff yn amlwg wrth archwilio uwchgyfeirio cwynion i’r cam ymchwilio ffurfiol, a dim ond 2 gŵyn a atgyfeiriwyd at yr Ombwdsmon ynghylch casglu gwastraff. Fodd bynnag, fel y gwelir gyda phob dadansoddiad o themâu a thueddiadau, bydd gweithgarwch am gwynion yn parhau i gael ei fonitro yn rheolaidd, yn ogystal â’r gwaith o wneud gwelliannau sy’n deillio o gwynion.

 

Ar y cyfan, mae’r Tîm  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

Strategaeth Digidol (wedi'r ymgynghoriad) pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid rhwng 06 Mai 2024 a 09 Gorffennaf 2024, ymgynghorodd Cyngor Sir Ceredigion â thrigolion a rhanddeiliaid ar y Strategaeth Ddigidol ddrafft.

 

Cafwyd 29 o ymatebion i’r ymgynghoriad ac mae’r ymatebion hyn wedi’u pwyso a’u mesur. Mae nifer o’r sylwadau a wnaed wedi’u hymgorffori yn fersiwn derfynol y strategaeth.

 

Paratowyd dogfen sy’n nodi’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad a’r prif

ganfyddiadau ac yn sgil hyn, mae fersiwn ddiwygiedig o’r strategaeth wedi’i chreu.

 

Roedd y strategaeth yn barod i’r Cyngor ei hystyried.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r Polisi diwygiedig.

 

9.

Polisi Diogelu Gwybodaeth pdf eicon PDF 706 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid y wybodaeth ddiweddaraf am y Polisi Diogelwch Gwybodaeth. Amcanion y polisi yw diogelu uniondeb gwybodaeth, data a systemau rhag camddefnyddio colled ac unrhyw gamdriniaeth neu ddifrod.

 

Nod y polisi yw sicrhau bod hawliau mynediad data yn cael eu cynnal a bod systemau'n hygyrch ac yn perfformio'n iawn. Yn ogystal, mae'r polisi yn sicrhau bod cynlluniau a threfniadau priodol ar waith i ddelio â thrychinebau a darparu parhad ar gyfer gwasanaethau hanfodol. Mae hefyd yn canolbwyntio ar sut mae defnyddwyr yn defnyddio systemau gwybodaeth, archwilio, canfod toriadau, a dal defnyddwyr a gwasanaethau yn atebol am eu defnydd.

Mae hwn yn ail-lunio'r polisi presennol i foderneiddio canllawiau a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am arfer gorau.

 

Mae'r polisi yn cynnwys mân ddiweddariadau a diwygiadau i'r polisi presennol a oedd yn ddyledus ar gyfer adolygiad 5 mlynedd llawn

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i anfon y polisi ymlaen i Gabinet i’w gymeradwyo.

 

 

10.

Polisi Deallusrwydd Artiffisial pdf eicon PDF 514 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid mai pwrpas y ddogfen bolisi hon oedd darparu fframwaith ar gyfer defnydd diogel a moesegol o Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol (AI), Dysgu Peirianyddol a Model Iaith Mawr, gan gyflogai a chynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion. Mae hyn yn cynnwys offer fel COPilot, Bard, Bing neu ChatGPT ond mae llawer o offer eraill hefyd ar gael ac yn cael eu hymgorffori mewn cyfresau cynnyrch eraill.

 

Ar hyn o bryd, doedd dim polisi sy’n llywodraethu’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial i gefnogi darpariaeth gwasanaethau’r cyngor.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, argymhellwyd y polisi i gael ei hystyried a’i fabwysiadu gan y Cabinet.

 

11.

Trosolwg o'r materion ariannol yn ystod y flwyddyn pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Duncan Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael y diweddariad canlynol ar sefyllfa ariannol y Cyngor:-

• Y sefyllfa ariannol chwarterol ddiweddaraf fel yr adroddwyd i'r Cabinet, (i gynnwys y

sefyllfa ddiweddaraf o ran statws BRAG ar ostyngiadau yn y gyllideb 24/25)

• Roedd hyn yn cynnwys yr adroddiadau Monitro Refeniw a Chyfalaf.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i ddiweddaru fel y darparwyd.

 

 

12.

Ystyried Blaenraglen Waith y Pwyllgor pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Blaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar y canlynol:-

(i)             bydd e-bost pellach yn cael ei hanfon at y gwasanaeth Ystadau gan nad oedd yr adroddiad y gofynnwyd amdano yng nghyfarfod mis Gorffennaf i’w gyflwyno yng nghyfarfod mis Hydref ar werthu asedau’r Cyngor wedi dod i law hyd yma. Mynegodd yr Aelodau eu siom gan nad oedd Swyddogion wedi ymateb i sawl e-bost a anfonwyd gan yr Is-gadeirydd a’r Swyddog Cymorth Craffu; a

(ii)            byddai e-bost pellach hefyd yn cael ei anfon at y gwasanaeth Ystadau yn gofyn am grŵp gorchwyl a gorffen i gwrdd i drafod ffermydd Sirol; fel ymateb i’r cais hwnnw a oedd hefyd heb ei dderbyn.

 

 

13.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol (8.10.24) ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gywir