Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Endaf Edwards a Carl Worrall am na fedrent ddod i’r cyfarfod

 

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Caryl Roberts fuddiant personol o ran eitem 3 ar yr agenda.

 

Datgelodd y Cynghorydd Ifan Davies fuddiant personol o ran eitem 3 ar yr agenda.

 

Datgelodd y Cynghorydd Wyn Evans fuddiant personol o ran eitem 3 ar yr agenda.

 

3.

Diweddariad ar Ffermydd y Sir pdf eicon PDF 215 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd y diweddariad ar Ffermydd y Sir. Darparwyd y wybodaeth ganlynol:

  • Cyflwyniad
  • Ystâd Fferm y Cyngor Sir
  • Casgliadau blaenorol
  • Materion cyfredol yn ymwneud ag Ystâd Fferm y Cyngor
  • Tenantiaethau yn y dyfodol

 

Adroddwyd bod y Rheoliadau Rheoli Llygredd newydd yn debygol o gyflwyno heriau pellach o ran hyfywedd strwythur Ffermydd y Sir. Roedd angen gwneud rhagor o waith i ddeall maint yr her. Mae’r papur hwn yn nodi’r cynnydd diweddaraf, opsiynau ar gyfer prosiectau sy’n cynnwys rhwydwaith ffermydd y Cyngor i lywio’r drafodaeth a galluogi’r Pwyllgor Craffu i roi adborth yn y broses.

 

Yn dilyn trafodaeth a chwestiynau o’r llawr, cytunwyd y byddai grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei sefydlu i ystyried materion penodol o fewn Ffermydd y Sir yn fanwl ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. Bydd y Swyddog Cymorth Craffu yn anfon e-bost at holl Aelodau’r Pwyllgor yn gofyn a ydyn nhw’n dymuno bod yn aelod o’r grŵp hwnnw. Dylid hefyd ystyried amserlen i gwblhau’r gwaith hwn.

 

 

4.

Adroddiad ar Waith Datblygu Asedau/Eiddo Gwag pdf eicon PDF 309 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ar Ddatblygu Asedau/Eiddo Gwag. Cyflwynwyd y wybodaeth ganlynol:-

  • CEFNDIR: Cyd-destun Strategol a Dull Gweithredu ac Adnoddau
  • Gwaith ers mis Mawrth 2020
  • Galw
  • Cynllun Gweithredu Eiddo Gwag
  • Ffrydiau Gwaith yn y dyfodol – Prosiectau Strategol, Sicrhau Cydbwysedd Asedau, Gwaredu / Datblygu Asedau, Asesu Blaenoriaethau.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD

(i) nodi’r adroddiad er gwybodaeth

(ii) Cadw’r Panel Asedau

(iii) y byddai adroddiad ynghylch prynu maes parcio Aberteifi yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Rhagfyr;

(iv) y byddai adroddiad cynnydd ar y gwaith wrth symud ymlaen ar asedau’r Cyngor yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac

(v) ystyried asiant allanol i werthu Asedau’r Cyngor er mwyn cael mwy o gynulleidfa o brynwyr

 

5.

Adroddiad Blynyddol Canmoliaethau, Cwynion a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2021/2022 pdf eicon PDF 599 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr Adroddiad Blynyddol am Sylwadau o Ganmoliaeth, Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth (2021-2022). Cyflwynwyd yr adroddiad i roi trosolwg cynhwysfawr i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol o’r Sylwadau o Ganmoliaeth, y Cwynion a’r gweithgarwch Rhyddid Gwybodaeth (gan gynnwys Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol) a dderbyniwyd gan yr Awdurdod yn ystod 2021 – 2022. Roedd yr adroddiad hwn hefyd yn darparu gwybodaeth am gwynion a gyfeiriwyd at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod y cyfnod adrodd.

 

CYTUNWYD

(i) nodi a chymeradwyo cynnwys yr Adroddiad Blynyddol am Sylwadau o Ganmoliaeth, Cwynion a Gweithgarwch Rhyddid Gwybodaeth – 2021/2022 a nodi Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon ar gyfer 2021-2022; a </AI14>

(ii) bod mwy o fanylion yn Adran 4 ar y gwersi a ddysgwyd yn cael eu darparu yn yr adroddiad nesaf

 

 

6.

Siarter Troseddau Casineb ar Ddioddefwyr pdf eicon PDF 645 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ar Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr. Nodwyd bod Cymorth i Ddioddefwyr wedi datblygu Siarter Troseddau Casineb i sefydliadau lofnodi, er mwyn creu rhwydwaith o gynghreiriaid i gefnogi ei waith gyda dioddefwyr ac i godi ymwybyddiaeth am droseddau casineb a’r ffyrdd o’u riportio ledled Cymru.

 

Mae troseddau casineb yn gallu cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr ac mae’r elusen wedi gweld cynnydd amlwg yn y galw am ei gwasanaethau cymorth ynghylch troseddau casineb - hyd at 70% o gynnydd yn ystod y pandemig. Gyrrwyd y cynnydd hwn yn bennaf gan achosion yn ymwneud â hil a homoffobia. Mewn ymateb i’r cynnydd hwn yn y galw lansiodd Cymorth i Ddioddefwyr y Siarter Troseddau Casineb sy’n ymrwymo sefydliadau i roi hawliau i ddioddefwyr â’u cefnogi i adnabod a riportio troseddau ac achosion sy’n ymwneud â chasineb.

 

Adroddwyd bod Cyngor Sir Ceredigion eisoes wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth am Droseddau Casineb a’r ffyrdd o’u riportio. Mae gwaith a wneir drwy’r tîm Cydlyniant Cymunedol a llawer o adrannau’r Cyngor yn ategu’r awydd i sicrhau nad yw troseddau casineb yn dderbyniol, bod pobl yn deall beth yw troseddau casineb a pha gamau y dylai dioddefwyr, tystion a chymunedau eu cymryd pan fyddant yn digwydd. Bydd llofnodi’r Siarter Troseddau Casineb gan Gymorth i Ddioddefwyr yn atgyfnerthu’r gwaith da sydd eisoes ar waith gan yr awdurdod lleol ac yn cynnig fframwaith i sicrhau bod ymrwymiad llawn yn digwydd ar bob lefel o’r sefydliad. Ni ddylai neb yng Ngheredigion ddioddef rhagfarn neu drosedd casineb.

 

Mae sefydliadau sy’n mabwysiadu’r siarter yn ymrwymo i sicrhau bod staff a gwirfoddolwyr yn cadw at addewidion y siarter pa bryd bynnag y dôn nhw i gysylltiad â phobl sydd wedi dioddef trosedd casineb ac yn gweithio i adeiladu cymunedau cryf a chynhwysol. Hefyd bydd gofyn i sefydliadau gymryd camau allweddol ynghylch codi ymwybyddiaeth am Droseddau Casineb. Nid yw’r rhain yn cael eu rhagnodi a gellir eu datblygu mewn ffyrdd priodol yn ôl anghenion y sefydliad a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Darparwyd enghreifftiau o’r gwaith y gall sefydliadau sy’n llofnodi’r Siarter ei wneud.

 

Dywedwyd mai’r camau nesaf pe bai Cyngor Sir Ceredigion yn dewis cefnogi’r Siarter oedd y byddai cyfarfod yn cael ei sefydlu gyda Chymorth i Ddioddefwyr i drafod y camau perthnasol. Mae rhai sefydliadau wedi canolbwyntio ar hyfforddi staff, rhai ar ledaenu gwybodaeth, eraill ar gymysgedd o’r ddau. Ar ôl dod yn bartner ‘gweithredol’ mae sefydliadau’n gallu defnyddio’r marc ymddiriedaeth ar eu gwefannau, deunyddiau hyrwyddo ac ati.

 

CYTUNWYD argymell i’r Cabinet bod y Cyngor Sir yn ymrwymo i’r ymrwymiadau a restrir yn Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr.

 

7.

Strategaeth mynd i'r afael a chaledu pdf eicon PDF 853 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiad ynghylch y Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi. Roedd yr adroddiad yn nodi’r camau a gymerwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion i ddarparu ymateb cydgysylltiedig i’r risg gynyddol o galedi yng Ngheredigion oherwydd effaith Covid-19. Cafodd y cynnydd a wnaed ei fonitro gan Is-grŵp Tlodi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cytunwyd y byddai Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi 2020-22 yn cael ei hymestyn i 2023 i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â Chynllun Llesiant Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion sy’n dod i ben yn 2023.

 

Roedd tri amcan allweddol Strategaeth Mynd i’r Afael â Thlodi Ceredigion fel a ganlyn:

  • Dod i ddeall effaith esblygol COVID-19 ar galedi yng Ngheredigion drwy goladu a dadansoddi data ar y cyd ag asiantaethau partner.
  • Cydlynu ac atgyfnerthu gwaith ar y cyd ag asiantaethau partner i hyrwyddo a manteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael.
  • Nodi bylchau o ran y cymorth sydd ar gael ac o ran anghenion caledi wrth iddynt newid er mwyn llunio ymyriadau cynnar effeithiol a fydd yn sicrhau bod unigolion a chymunedau’n fwy cydnerth wrth inni ddygymod ag effaith COVID-19.
  • Adroddir ynghylch y cynnydd a wneir o ran y strategaeth hon bob blwyddyn, gan fesur statws Coch, Ambr a Gwyrdd y camau gweithredu y mae Is-grŵp Tlodi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gyfrifol amdanynt. Mae’r cynllun gweithredu wedi’i rannu’n dair colofn ar wahân: Costau Byw Hanfodol, Llesiant Corfforol ac Emosiynol, a Chydnerthedd Cymunedol.

 

Rhoddwyd diweddariad ar y sefyllfa bresennol, y cynnydd ynghyd â chasgliadau a chanfyddiadau adroddiad y Cynllun Gweithredu ar gyfer Mynd i’r Afael â Chaledi; a nodwyd y camau nesaf:-

  • Parhau i ddatblygu’r dangosfyrddau data i sicrhau bod gan y Cyngor ddealltwriaeth gyffredin o effaith esblygol caledi yng Ngheredigion.
  • Adolygu’r rhestr o bartneriaid sy’n cyfrannu at y cynllun gweithredu.
  • Rhagwelir y bydd lefelau tlodi yn parhau i godi yng Ngheredigion, a hynny oherwydd y costau byw cynyddol yn hytrach nag effaith uniongyrchol Covid. Mae’n debygol felly y bydd angen newid ffocws a chaiff y cynllun gweithredu ei adolygu i adlewyrchu hyn.
  • Sicrhau bod gwaith yr is-grŵp hwn yn cyfrannu at Gynllun Llesiant Lleol 2023-28.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD nodi a chymeradwyo’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Mynd i’r Afael â Chaledi.

 

 

8.

Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi - Siarad, Gwrando a Gweithio gyda'n Gilydd pdf eicon PDF 611 KB

Cofnodion:

Ystyriwyd ‘Siarad, Gwrando a Gweithio gyda’n Gilydd’, sef polisi Ymgysylltu a Chyfranogi Cyngor Sir Ceredigion, sy’n disgrifio ein dull corfforaethol o ymgysylltu ac ymwneud â phobl Ceredigion. Cafodd y polisi drafft blaenorol ei ystyried gan y Pwyllgor ar 14 Hydref 2021 lle cafodd ei gymeradwyo i ymgynghori’n gyhoeddus yn ei gylch dros y gaeaf yn ystod y flwyddyn honno. Fodd bynnag, gohiriwyd yr ymgynghoriad oherwydd gofynion Rhan 3, adran 41, o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 parthed ymgynghori ac adolygu Strategaeth y Cyngor ar gyfer Ymgysylltu â’r cyhoedd.

 

Cafodd y polisi Ymgysylltu drafft ei ddiwygio wedyn i gynnwys Cyfranogiad ac fe’i cyflwynwyd i’r Cabinet ym mis Gorffennaf 2022. Cytunodd y Cabinet y dylai’r polisi Ymgysylltu a Chyfranogi drafft fynd allan i ymgynghoriad cyhoeddus dros yr haf, 2022. Cafodd y polisi terfynol ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu canfyddiadau’r ymgynghoriad.

 

Ar ôl trafod ac ystyried y polisi, cytunodd Aelodau ar y canlynol ac maent yn awgrymu bod y Cabinet yn gwneud y canlynol:

 

Derbyn a chymeradwyo’r Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi – Siarad, Gwrando a Gweithio Gyda’n Gilydd.

 

9.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 388 KB

Cofnodion:

Cytunwyd cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn rhai cywir.

 

 

10.

I ystyried Cynllun Gwaith y Dyfodol 2022/2023 pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi cynnwys Blaenraglen Waith 2022/23 yn amodol ar y canlynol:-

  • Bod adroddiad ar brynu maes parcio Aberteifi yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod mis Rhagfyr
  • Bod adroddiad ar y premiwm treth ar ail gartrefi yn cael ei gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol
  • Yng nghyfarfod mis Rhagfyr, bod cwestiynau penodol mewn perthynas â phryderon ynghylch gwasanaeth Clic yn cael eu casglu oddi wrth aelodau’r Pwyllgor er mwyn i’r swyddog allu mynd i’r afael â nhw yn y cyfarfod dilynol.
  • Bod adroddiad yn cael ei ddarparu ynghylch y nifer o ddesgiau sydd wedi cael eu harchebu gan staff ym Mhenmorfa a Chanolfan Rheidol ers cyflwyno’r system, ac sy’n cadarnhau a oes digon o le yn ystod misoedd y gaeaf ar gyfer staff sy’n dymuno gweithio mewn swyddfa oherwydd y costau byw cynyddol.