Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Endaf Edwards, y Cynghorydd Paul Hinge a’r Cynghorydd Gareth Davies (Aelod Cabinet) am na fedrent ddod i’r cyfarfod

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Elaine Evans a’r Cynghorydd Eryl Evans fuddiant personol a buddiant a oedd yn rhagfarnu o ran eitem 4, cyn i’r bleidlais ynghylch yr eitem hon gael ei chymryd.

 

3.

Strategaeth Ddrafft ar gyfer Gweithio Hybrid a Pholisi Gweithio Hybrid Dros Dro pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies yr adroddiad ynghylch y Strategaeth Ddrafft ar gyfer Gweithio Hybrid a’r Polisi Dros Dro ar gyfer Gweithio Hybrid. Dywedwyd bod pandemig Covid-19 wedi gorfodi cyfyngiadau cenedlaethol ar symud a bod hynny wedi digwydd yn sydyn ac wedi arwain at y gofyniad i aros gartref a gweithio gartref lle bynnag y bo modd. Roedd y mesurau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhan fwyaf o staff swyddfa’r Cyngor weithio mewn ffordd wahanol iawn. Ymatebodd y staff yn gyflym ac yn gadarnhaol i’r newid hwn. Ar y cyfan, roedd yr ymateb cadarnhaol hwn yn bosibl o ganlyniad i’r camau a gymerwyd eisoes tuag at ffordd fwy hyblyg a doethach o weithio, gan gynnwys buddsoddi mewn offer a meddalwedd digidol, a gwella’r trefniadau gweithio hyblyg presennol a oedd eisoes ar waith.

 

Ar ôl ymateb yn dda i heriau cychwynnol y pandemig, dywedwyd bod y ffocws wedi symud i sut y gallai’r Cyngor ddysgu ac adeiladu o’r profiad. Sefydlwyd y prosiect y Ffordd Rydym yn Gweithio’ i adolygu’r arferion gweithio o bell a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig. Nod y prosiect oedd archwilio’r awydd am newid hirdymor o fewn y gweithlu gan sicrhau mai darparu gwasanaethau oedd y prif ffocws o hyd. Roedd y prosiect yn gyfle i archwilio i ba raddau yr oedd yna newid yn y weledigaeth strategol ehangach o ran ble, pryd a sut y byddai’r sefydliad yn mynd ati i weithio.

 

Yn rhan o’r prosiect, cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu sylweddol â staff i gasglu adborth, profiadau, syniadau a gofynion o ran y gweithle yn y dyfodol er mwyn cefnogi penderfyniadau strategol. Amcangyfrifir bod 74% o’r gweithlu a oedd yn gweithio gartref wedi cymryd rhan mewn o leiaf un o’r gweithgareddau ymgysylltu hyn. Roedd y themâu a deilliai o’r ymarfer ymgysylltu â staff yn ogystal â’r ymchwil, y tueddiadau a’r uchafbwyntiau cenedlaethol wedi bod yn sail i ddatblygiad y strategaeth gweithio hybrid.  

 

Dangosodd yr ymarfer ymgysylltu â staff fod llawer o fanteision i weithio gartref, ond roedd hefyd yn cydnabod bod heriau i rai aelodau o staff. Roedd y manteision a nodwyd yn cynnwys cyfarfodydd rhithiol, gwell cynhyrchiant, gwell cydweithio, llai o bethau i darfu ar eu gwaith a llai o bethau i dynnu eu sylw oddi ar eu gwaith. Roedd yr heriau a nodwyd yn cynnwys cysylltedd band eang gwael, diffyg gwahanu rhwng y gwaith a’r cartref – “byw yn y swyddfa”, teimlo’n unig oherwydd llai o gyfleoedd i gymdeithasu, a dim man gweithio digonol yn eu cartref.

 

Gan ddefnyddio canfyddiadau ymchwil a thystiolaeth o’r ymarferion ymgysylltu â staff, datblygwyd y Strategaeth Gweithio Hybrid, a oedd yn nodi’r egwyddorion a’r broses weithredu ar gyfer model gweithio hybrid a fyddai’n cynnal y lefel uchel ofynnol o ran y gwasanaethau a ddarperir gan hefyd roi mwy o hyblygrwydd i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Polisi Sicrwydd a Bondiau Corfforaethol pdf eicon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd y dylai’r Cyngor gyflwyno polisi bondiau corfforaethol er mwyn i swyddogion fod ag agwedd glir, deg a chyson at gymeradwyo a llunio bondiau gyda thrydydd partïon. Cyflwynwyd yr adroddiad i sicrhau y gellir cael gafael ar fondiau’n hawdd a’u defnyddio’n hawdd os byddai angen, a bod bondiau a warantwyd gyda thrydydd partïon yn cael eu llunio â thrydydd partïon â statws credyd uchel yn unig er mwyn diogelu sefyllfa’r Cyngor.

 

CYTUNWYD:-

(i) mai bond a geir mewn arian parod oedd dewis y Cyngor.

(ii) y byddai bond sy’n cael ei warantu gan drydydd parti yn

ei gwneud yn ofynnol i’r trydydd parti fod â statws credyd A3 gyda Moody’s

neu statws credyd A- gyda Standard & Poor’s neu Fitch.

(iii) argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Polisi Bondiau a Sicrwydd

 

 

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 294 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

 

6.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 345 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar ystyried yr eitemau canlynol yng nghyfarfodydd y dyfodol:

  • Y Cynnig Tai Cymunedol – bwrw ymlaen â rhoi’r cynnig ar waith ac ystyried unrhyw dir sydd ar gael gan y Cyngor i ddarparu tai.
  • Premiwm Ail Gartrefi Treth y Cyngor – derbyn diweddariad am benderfyniadau’r Cyngor ar 03 Mawrth 2022:

“4.a) Lefel Premiwm Ail Gartrefi Treth y Cyngor a godir i’w phennu ar 25% (yn dod i rym o 1 Ebrill 2017); a,

b) bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor (net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi'r Cynllun Tai Cymunedol.”

b)  Bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor rhwng y cyfnod 01/04/17 i 31/03/22 (net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol.

c)    Bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor o 01/04/22 (net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol.

d)    O 01/04/22, bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Cartrefi Gwag Treth y Cyngor (net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol.

e) Diddymu penderfyniad y Cyngor 16/03/17 cofnod 8.b) Premiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi.

  • Ffermydd y Sir
  • Diweddariad am y defnydd o eiddo gwag o fewn yr Awdurdod
  • Adroddiad ynghylch polisi / proses recriwtio’r Awdurdod wrth benodi                 a gwneud y Cyngor yn “gyflogwr o ddewis”
  • Effeithiolrwydd TGCh a meddalwedd o fewn yr Awdurdod