Lleoliad: Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ac o bell trwy fideo gynhadledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Hugh Hughes a Carol Worral am eu
hanallu i fynychu’r cyfarfod. Byddai’r Cynghorydd Elizabeth Evans yn mynychu’r cyfarfod yn hwyr oherwydd dyletswyddau eraill y Cyngor. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies fel Arweinydd ac Aelod
Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a
Threfniadaeth yr adroddiad yn amlinellu’r Polisïau AD newydd. Roedd y
Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth wedi bod yn parhau i adolygu, datblygu a
diweddaru polisïau allweddol. Yn dilyn ymgynghoriad, roedd y polisïau canlynol
wedi cael eu trafod, eu diwygio a’u cytuno gan yr undebau llafur
cydnabyddedig: • Polisi Urddas
yn y Gweithle • Cwynion
Cyflogaeth • Polisi Iechyd
a Diogelwch • Polisi
Recriwtio a Dethol • Polisi Gallu • Polisi
menopos (ysgolion) Pwrpas yr holl bolisïau a gweithdrefnau gweithwyr oedd
nodi’n glir yr ymddygiad, y prosesau a’r gweithdrefnau sydd eu hangen, sut y
gallent gael cyngor a chefnogaeth ac, lle bo hynny’n berthnasol, canlyniadau
peidio â chadw at y polisi a/neu’r weithdrefn. Cafodd cyflwyno’r polisïau hyn
effaith ariannol ddibwys, ac roedd disgwyl iddynt arwain at arbediad cost
cyffredinol trwy leihau absenoldeb salwch a’r gost gysylltiedig o ddarparu
yswiriant ar gyfer yr absenoldeb hwnnw. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i argymell i’r
Cabinet fod y polisïau canlynol wedi’u CYMERADWYO:- i. Polisi
Urddas yn y Gweithle ii. Cwynion
Cyflogaeth iii. Polisi
Iechyd a Diogelwch iv. Polisi
Recriwtio a Dethol v. Polisi Gallu vi. Polisi
menopos (ysgolion) |
|
Canfyddiadau Arolwg Pobl 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Bryan Davies, fel Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth yr adroddiad ar yr Arolwg Pobl. Adroddwyd fel rhan o ymrwymiad y Cyngor Sir i wella ymgysylltiad gweithwyr a meithrin gweithle cefnogol a chynhwysol, bod Arolwg Pobl ar draws Tîm Ceredigion wedi’i gynnal. Nod yr arolwg oedd darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o brofiad y gweithwyr, gan gwmpasu meysydd fel: • Boddhad Swydd • Rheolaeth ac arweinyddiaeth • Cyfleoedd datblygu • Iechyd, Diogelwch a Lles • Perthnasoedd yn y Gweithle • Cyfathrebu a newid mewn rheolaeth • Gwerthoedd ac ymddygiadau sefydliadol Er mwyn sicrhau meincnodi yn erbyn safonau’r sector, fe wnaethant ymgorffori cwestiynau o arolygon cenedlaethol sefydledig, gan gynnwys Mynegai Gwaith Da Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, Arolwg Pobl GIG Cymru, ac Arolwg y Gwasanaeth Sifil. Yn ogystal, cafodd mesurau meincnodi newydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu cynnwys, ynghyd â chwestiynau dethol o’n Harolwg Iechyd a Lles Gweithwyr blynyddol i olrhain tueddiadau dros amser. Roedd yr arolwg yn hygyrch trwy sawl sianel, gan gynnwys llwyfannau ar-lein mewnol, posteri, copïau papur ar gyfer timau sydd ag ymgysylltiad hanesyddol is. Roedd yr arolwg yn anhysbys ac felly rydym yn hyderus bod y cyfranogwyr wedi gallu bod yn onest yn eu hymatebion. Roedd yr arolwg ar agor o ddiwedd mis Tachwedd 2024 a daeth i ben yn ail wythnos mis Ionawr 2025. Yn ystod y cyfnod hwn cymerodd 1,017 o’r gweithlu corfforaethol ran yn yr arolwg ac mae hyn yn cyfateb i 50.3%. • Mae ein cyfartaledd corfforaethol yn fwy na’r holl gymaryddion cenedlaethol (weithiau yn sylweddol). • Lle gellir olrhain tueddiadau, mae naill ai sefydlogrwydd neu welliant cadarnhaol ar draws yr holl ddangosyddion, ac eithrio ‘llwyth gwaith y gellir eu rheoli’ (sydd wedi gostwng o 81% i 76%) a ‘Rwy’n cael fy nghefnogi’n dda gan fy rheolwr llinell’ (sydd wedi gostwng o 91% i 88%). Dyma’r dangosyddion sydd wedi dangos gwelliant. Mae’r arolwg wedi rhoi cipolwg gwerthfawr ar brofiadau a chanfyddiadau ein gweithlu. Mae’r lefel uchel o gyfranogiad a’r adborth cadarnhaol ar draws pob maes yn adlewyrchu ymroddiad ac ymgysylltiad Tîm Ceredigion. Bydd y canlyniadau hyn yn gofyn am ddadansoddi ac asesu pellach fel y gellir deall a defnyddio’r canlyniadau llawn at ddibenion cynllunio yn y dyfodol. Er ein bod yn falch o weld bod ein cyfartaledd corfforaethol yn fwy na’r cymaryddion cenedlaethol, a bod tueddiadau sefydlog neu dueddiadau o welliant yn y rhan fwyaf o ddangosyddion, rydym hefyd yn cydnabod y bydd rhai meysydd a fydd angen cefnogaeth ac ymgysylltiad pellach. Roedd trafodaeth yn deillio o'r feirniadaeth gyson o weithwyr y Cyngor yn y wasg leol ac ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn gwbl annerbyniol oherwydd eu hymrwymiad i'r Sir. Awgrymwyd hefyd y dylai'r Cyngor uwchsgilio eu gweithwyr drwy ddarparu cymwysterau a fyddai'n gwella eu llwybr gyrfa ac i feithrin pobl ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD
cadarnhau bod Cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gywir yn
amodol ar nodi bod y Cynghorydd Amanda Edwards yn bresennol yn y cyfarfod. |