Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol - Dydd Gwener, 9fed Chwefror, 2024 1.30 pm

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim

8.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Endaf Edwards fuddiant personol mewn perthynas â thrafodaethau ynghylch Cyflogau Staff.

 

 

9.

Adroddiad Ddrafft y Gyllideb 24/25 pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Cadeirydd y Pwyllgor, drefn y cyfarfod a chroesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, y Cynghorydd Gareth Davies, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cyllid a Chaffael, Aelodau'r Pwyllgor, gweddill Aelodau'r Cabinet, Aelodau nad ydynt yn aelodau o'r Pwyllgor a Swyddogion i'r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2024/2025. Dywedodd yr Arweinydd fod hon yn sefyllfa ariannol eithriadol o anodd sy'n wynebu'r Cyngor gyda phwysau ariannol sylweddol. Dywedodd nad yw erioed wedi gwybod sefyllfa ariannol mor heriol yn ystod ei gyfnod fel Cynghorydd gan mai dim ond cynnydd 2.6% a gafodd Ceredigion yn y setliad drafft 24/25 gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd wrth Aelodau'r Pwyllgor ei fod wedi cyfarfod â rhai Cynghorau Tref a Chymuned i drafod y sefyllfa ariannol a bod ganddo ragor o gyfarfodydd wedi'u trefnu'r wythnos nesaf. 

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chaffael, y Cynghorydd Gareth Davies, y wybodaeth sy'n weddill yn yr adroddiad. Dywedodd y Cynghorydd Davies hefyd mai dyma'r sefyllfa ariannol waethaf y mae wedi ei hwynebu o bell ffordd fel Cynghorydd wrth bennu'r gyllideb.

 

Dywedwyd bod meysydd o Atodiad A papurau’r agenda y gallai'r pwyllgor hwn fod am eu hystyried fel a ganlyn:

 

a) Adran 3 - Canlyniad Setliad Dros Dro 24/25 Llywodraeth Cymru ar gyfer Ceredigion.

b) Adran 4 – Ystyriaethau Cyllideb lefel uchel gan gynnwys:

Adran 4b) - Cyfanswm lefel y Pwysau o ran Costau ar y Gyllideb Refeniw.

Adran 4d) - Cyfanswm lefel y cynigion ar gyfer Lleihau’r Gyllideb Refeniw.

Adran 4f) - Cynnig y Cabinet ar Bremiymau Treth y Cyngor

Adran 4g) - Sefyllfa bosibl Treth y Cyngor

c) Adran 5 – Gofyniad y Gyllideb Ddrafft

d) Adran 6 – Risgiau’r Gyllideb

e) Adran 7 – Rhaglen Gyfalaf Aml-Flwyddyn arfaethedig

f) Adran 8 – Cydnerthedd ariannol (gan gynnwys Cronfeydd wrth Gefn a Balansau Cyffredinol)

g) Adran 9 – Rhagolwg ariannol Tymor Canolig

h) Yr 11 Argymhelliad y cytunwyd arnynt gan y Cabinet ar 23/01/24.

i) Unrhyw fater arall ynghylch y Gyllideb y mae’r Pwyllgor yn ei ystyried yn briodol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn agored mai ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 24/25 yw'r ‘llymaf a’r fwyaf poenus ers datganoli’. Dim ond cynnydd 2.6% yn y cyllid y mae Ceredigion wedi'i gael (14eg o'r 22 Awdurdod Lleol), mae hyn hefyd yn cyfateb i Geredigion yn cael y cynnydd isaf y pen o'r boblogaeth ar draws Cymru gyfan. Felly dyma hefyd Gyllideb fwyaf llwm Cyngor Sir Ceredigion eto sy’n waeth nag a ragwelwyd yn flaenorol ac yn llai na’r 3.1% y cyfeiriwyd ato gan Lywodraeth Cymru yn yr Hydref.

 

Y pennawd ynghylch Setliad Ariannol Dros Dro Llywodraeth Leol yn Lloegr oedd bod cynnydd cyffredinol o 6.5% mewn cyllid gyda £1 biliwn o gyllid grant ychwanegol ar gyfer Gofal Cymdeithasol o'i gymharu â 23/24. Gan fod Llywodraeth Cymru yn weinyddiaeth ddatganoledig, mae ganddi’r rhyddid i ddefnyddio ei harian fel y myn. O ganlyniad mae nifer o benderfyniadau ynghylch polisïau gwahanol yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar Ragfyr y 7fed 2023 fel rhai cywir, yn amodol ar nodi ymddiheuriadau’r Cynghorydd Eryl Evans.  Dywedodd y Cynghorydd Evans hefyd ei bod wedi mynegi ymddiheuriadau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar Hydref y 19eg 2023 nad oedd wedi’u cofnodi.

Nid oedd dim materion yn codi o'r cofnodion hynny.

         

Unrhyw fater arall y penderfynodd y Cadeirydd fod arno angen sylw brys gan y Pwyllgor

Ni chodwyd dim materion eraill.

 

 

                                                                        Cadeirydd:____________          

 

                                                                                  Dyddiad:_____________