Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol - Dydd Iau, 7fed Rhagfyr, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Ceris Jones, Hugh R M Hughes a Caryl Roberts am na fedrent ddod i’r cyfarfod. 

 

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Adroddiad monitro chwe-misol y Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi pdf eicon PDF 635 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Matthew Vaux, yr Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, a Diogelu’r Cyhoedd, adroddiad monitro chwe-misol y Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi. Nododd fod adroddiad am y cynnydd a wnaed o ran y cynllun gweithredu yn ystod 2022-23 wedi’i gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Mehefin 2023. Cytunwyd y byddai adroddiad monitro chwe-misol yn cael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2023.

 

Adroddwyd bod Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi Ceredigion, ‘Siarad, Gwrando a Gweithio Gyda’n Gilydd’, yn cynnwys cynllun gweithredu a oedd yn sail i’r adroddiad hwn. Yn ogystal, cyhoeddwyd y Polisi ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

 

Cytunodd y Cabinet ag argymhellion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol sef:

y dylai pawb sy’n cymryd rhan yn yr ymarferion ymgysylltu dderbyn y canlyniadau;

bod adroddiad monitro chwe-misol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr.

 

Roedd Pecyn Cymorth Ymgysylltu ac Ymgynghori diwygiedig, a gyflwynwyd yn Atodiad 1, wedi’i baratoi ac roedd yn cynnwys adran ynghylch darparu adborth i’r sawl a oedd yn cymryd rhan yn yr ymarferion. Byddai pwysigrwydd rhoi adborth yn cael ei bwysleisio yn yr hyfforddiant ynghylch defnyddio’r pecyn cymorth. Roedd nifer o’r camau gweithredu a oedd yn goch neu’n oren yn yr adroddiad blaenorol wedi gwneud cynnydd erbyn hyn, a hynny’n bennaf oherwydd y pecyn cymorth diwygiedig. Roedd y cynllun gweithredu’n cynnwys pedwar nod. Roedd system Coch / Oren / Gwyrdd ar waith er mwyn monitro’r cynnydd a wnaed. Coch (dim cynnydd wedi’i wneud), Oren (rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud), Gwyrdd (cam gweithredu ar y trywydd iawn neu wedi’i gwblhau).

 

1. Prif ffrydio gwaith ymgysylltu a chyfranogi effeithiol ar draws Cyngor Sir Ceredigion.

Gwnaed cynnydd o ran statws y camau gweithredu, o 2 x Gwyrdd ac 1 x Oren i 3 x Gwyrdd.

2. Sicrhau ein bod yn ymgysylltu â phobl Ceredigion yn y ffordd orau.

Gwnaed cynnydd o ran statws y camau gweithredu, o 1 x Gwyrdd, 1 x Oren ac 1 x Coch i 1 x Gwyrdd a 2 x Oren.

3. Bodloni ein cyfrifoldebau a’n dyletswyddau statudol o dan y ddeddfwriaeth.

Gwnaed cynnydd o ran statws y camau gweithredu, o 1 x Gwyrdd a 2 x Oren i 3 x Gwyrdd.

4. Cadw llygad ar y datblygiadau a’r arferion gorau diweddaraf ym maes ymgysylltu.

Gwnaed cynnydd o ran statws y camau gweithredu, o 2 x Gwyrdd ac 1 x Oren i 3 x Gwyrdd.

 

Roedd rhagor o fanylion i’w gweld yn yr adroddiad cynnydd yn Atodiad 2.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i wneud y canlynol:

(i)             nodi cynnwys yr adroddiad monitro chwe-misol ynghylch y Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi; a

(ii)       nodi’r pecyn cymorth newydd ar gyfer Ymgysylltu ac Ymgynghori.

 

Byddai Rheolwr Corfforaethol – Partneriaethau a Pherfformiad yn rhannu â’r Aelodau ystadegau a grëwyd yn genedlaethol ynghylch cyfraddau ymateb i ymgynghoriadau.

 

4.

Trafod gyda'r Swyddogion y posibilrwydd o sefydlu Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael

Cofnodion:

Yn dilyn cyflwyniad gan y swyddogion am Gaffael, CYTUNWYD i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Byddai trafodaeth bellach ynghylch dogfen cwmpasu’r grŵp yn cael ei hystyried yn dilyn y cyfarfod gyda’r posibilrwydd o gynnwys eitemau megis y Strategaeth Gaffael a Chomisiynu, capasiti o fewn y gwasanaeth, a gwiriadau ansawdd a gwerth am arian.

 

        Roedd yr holl Aelodau a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael eisiau diolch i George Ryley (Rheolwr Corfforaethol – Caffael a Thaliadau) am ei holl waith ac ymroddiad. Byddai George yn ymddeol yn fuan. Dymunodd pawb yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.

 

 

 

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gywir

6.

Ystyried Blaenraglen Waith y Dyfodol pdf eicon PDF 150 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar gytuno y dylid canslo’r cyfarfod nesaf gan mai dim ond un adroddiad oedd yn cael ei gyflwyno oherwydd nid oedd Openreach yn gallu dod i’r cyfarfod ond byddent yn darparu datganiad ysgrifenedig i’r Pwyllgor. Cytunwyd y byddai’r adroddiad chwe-misol ar ganmoliaeth, cwynion a rhyddid gwybodaeth pob gwasanaeth yn cael ei ystyried yn un o’r cyfarfodydd dilynol.