Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol - Dydd Iau, 19eg Hydref, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Dwynwen Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

I ethol is-Gadeirydd ar gyfer gweddill blwyddyn fwrdeistrefol 2023.2024 i gychwyn yn syth

Cofnodion:

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Elaine Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn fwrdeistrefol 2023/2024, i ddechrau ar unwaith.

2.

Ymddiheuriadau a Materion Personol

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Euros Davies, Eryl Evans a Paul Hinge ynghyd ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Caryl Roberts i’r holl Swyddogion Arweiniol Corfforaethol am ei sylwadau yn y cyfarfod diwethaf, a oedd yn ei barn hi wedi cael eu camddehongli. Serch hynny, dywedodd y Cynghorydd Roberts nad oedd yn briodol gwneud y gymhariaeth a’i bod yn cymryd cyfrifoldeb am ei gweithredoedd.

 

3.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

4.

Adroddiad Blynyddol Mynd i'r Afael a Chaledi 2022.2023 pdf eicon PDF 708 KB

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad hwn yn nodi’r camau a gymerwyd gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion wrth ddarparu ymateb cydgysylltiedig i’r risg gynyddol o galedi yng Ngheredigion. Dyma oedd yr adroddiad olaf am y ‘Strategaeth Mynd i’r Afael â Thlodi’ a oedd yn dod i ben fel

strategaeth ar wahân. Yn y dyfodol, cytunwyd y byddai is-grŵp Tlodi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn sicrhau bod mynd i’r afael â thlodi yn fater trawsbynciol ar draws yr holl feysydd gwaith wrth gyflawni Cynllun Llesiant Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion 2023-28. Roedd cynllun gwaith yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i helpu’r Cyngor i gyflawni hyn.

 

Roedd tri amcan allweddol Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi Ceredigion 2020-2023 fel a ganlyn:

1. Ar y cyd ag asiantaethau sy’n bartneriaid, dod i ddeall effaith esblygol COVID-19 ar galedi yng Ngheredigion, a hynny drwy goladu a dadansoddi data.

2. Cydlynu ac atgyfnerthu gwaith ar y cyd ag asiantaethau sy’n bartneriaid i

hyrwyddo a manteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael.

3. Nodi bylchau o ran y cymorth sydd ar gael ac o ran anghenion caledi wrth iddynt newid er mwyn llunio ymyriadau cynnar effeithiol a fydd yn sicrhau bod unigolion a chymunedau’n fwy cydnerth wrth inni ddygymod ag effaith COVID-19.

 

Roedd y Cyngor wedi cyflawni amcanion y strategaeth. Roedd yr is-grŵp Tlodi wedi cyfarfod yn rheolaidd ac roedd wedi trafod ystod eang o faterion i’n helpu i ddeall effaith caledi ar bobl Ceredigion. Roedd y dangosfyrddau data a ddatblygwyd i gefnogi’r gwaith hwn yn cael eu defnyddio’n eang gan bartneriaid ac roeddent wedi’u cydnabod ledled Cymru fel enghraifft o arfer da.

 

Roedd cynllun gweithredu’r Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi a’r adroddiadau rheolaidd wedi helpu’r Cyngor i gydlynu ei gamau gweithredu. Bu’r dudalen Costau Byw ar wefan y Cyngor a’r daflen Costau Byw, a bostiwyd i holl godau post Ceredigion yn ystod gaeaf 2022, o gymorth i hyrwyddo’r cymorth a oedd ar gael. Roedd y bylchau mewn cymorth wedi’u nodi ac, er nad oedd y Cyngor yn gallu mynd i’r afael â phob un o’r rhain, roedd wedi gallu ymateb i rai ohonynt, e.e. sefydlwyd rhwydwaith o 54 o Fannau Croeso Cynnes a oedd yn cynnig lle cynnes a chyfeillgar i gymunedau ddod at ei gilydd yn ystod gaeaf 2022.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad llawn am y cyfnod rhwng Mawrth 2022 ac Ebrill 2023.

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i dderbyn a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi 2022-23.

 

Hefyd, cytunwyd y dylid anfon e-bost at Glercod y Cynghorau Cymuned lle nad oedd banciau bwyd yn bodoli yn eu wardiau sef Llandyfrïog, Llanddewi Brefi, Tregaron ac Ystrad Fflur ynglŷn â’r broses o sefydlu’r banciau yn y wardiau hyn.

 

5.

Adroddiad Blynyddol Sylwadau o Ganmoliaeth, Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth 2022.2023 pdf eicon PDF 3 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Polisi a Pherfformiad y wybodaeth ynglŷn â gwaith y Cyngor o ran Sylwadau o Ganmoliaeth, Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth benodol ar y nifer a’r mathau o sylwadau o ganmoliaeth a chwynion a dderbyniwyd, gwahanol gamau’r weithdrefn gwynion, perfformiad a chanlyniadau yn ymwneud â’r rhain, a gwybodaeth am gydymffurfio â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. 

 

Hefyd, cyflwynwyd adroddiad am y sylwadau o ganmoliaeth a chwynion mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol a darparwyd gwybodaeth am y gwersi a ddysgwyd o ganlyniad i’r cwynion (corfforaethol). Roedd y prif adroddiad yn cynnwys adran am y cysylltiadau a gafwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) yn ystod y cyfnod adrodd. Yn ogystal, cyflwynwyd Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon at y Cyngor ac roedd hwn yn rhoi rhagor o fanylion am holl weithgarwch yr Ombwdsmon ar gyfer Ceredigion a chynghorau eraill ledled Cymru.

 

Dyma'r pedwerydd adroddiad yn olynol lle na chafodd unrhyw ymchwiliadau eu cychwyn nac unrhyw adroddiadau ffurfiol eu cyhoeddi gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor. Er bod llai o atgyfeiriadau gan yr Ombwdsmon yn ystod y flwyddyn adrodd hon, roedd gan y Cyngor gyfradd gyson uchel o Setliadau Datrysiad Cynnar/Gwirfoddol.

  

Cydnabuwyd felly fod heriau'n parhau mewn perthynas â chymhlethdod y cwynion a dderbyniwyd, y cynnydd cyffredinol mewn gweithgarwch sy'n ymwneud â chwynion, Rhyddid Gwybodaeth, atgyfeiriadau gan yr Ombwdsmon ac atgyfeiriadau at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, yn ogystal â'r heriau sy’n gysylltiedig â darparu’r Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth ei hun. Yn anochel, roedd yr heriau hyn wedi cael effaith ar allu'r Cyngor i gyflawni ei amcanion perfformiad yn unol â’r amserlenni penodedig.

 

Yn gryno:

roedd 465 o sylwadau o ganmoliaeth wedi dod i law

roedd 403 o ymholiadau wedi’u prosesu gan y Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth

roedd 144 o gwynion wedi dod i law: Cam 1 = 96   Cam 2 = 48

cafwyd 35 o ‘Gysylltiadau’ gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

roedd 882 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol wedi’u prosesu gan y Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth

 

Wrth grynhoi, soniwyd am y canlynol:-

•Cafwyd llawer mwy o sylwadau o ganmoliaeth yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Roedd gwella'r ffordd yr oedd sylwadau o ganmoliaeth yn cael eu cyflwyno yn parhau i fod yn waith yr oedd angen i'r Tîm Cwynion a'r Rhyddid Gwybodaeth ei wneud, ond roedd oedi o ran y gwaith hwn oherwydd cyfyngiadau o ran capasiti.

 

•Derbyniodd y gwasanaeth llawer mwy o ymholiadau – roedd llawer ohonynt naill ai wedi’u dyrannu i'r meysydd gwasanaeth priodol i’w datrys yn rhagweithiol, neu roedd angen ymatebion ffurfiol er mwyn egluro pam na ellid ymdrin â materion o'r fath o dan y gweithdrefnau cwynion.  

 

•Roedd yn werth nodi mai nifer y cwynion a dderbyniwyd gan y Cyngor oedd y trydydd isaf yng Nghymru.

 

•Roedd angen gwneud llawer iawn o waith i atal cwynion Cam 1 rhag symud i Gam 2  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Diweddariad ar Gontract Bancio'r Cyngor pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod cais wedi dod i law oddi wrth aelod o’r cyhoedd ar  27 Gorffennaf 2023 yn gofyn iddo ystyried y ddarpariaeth o ran gwasanaethau bancio’r Cyngor yn wyneb pryder am yr angen brys i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chymryd pob cam angenrheidiol i gyrraeddsero net’.

 

Bu i’r aelod o’r cyhoedd nodi’r canlynol:

Teimlwn y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor Craffu ystyried yn drylwyr ac ymchwilio i’r sawl y mae’r awdurdod yn bancio â nhw, yr effaith y gallai hyn ei chael a’r ffordd orau ymlaen ar gyfer yr Awdurdod i sicrhau bod ei arian a’i fuddsoddiadau yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn hytrach na gwaethygu’r sefyllfa. Yn unol â’r gweithdrefnau ar gyfer caniatáu i aelodau’r cyhoedd annerch y Pwyllgor, daeth Mr Grimsell i’r cyfarfod i annerch yr Aelodau ar y mater hwn.

 

Ar ôl hynny, cyflwynodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o’r hyn yr oedd y contract bancio yn ei gwmpasu a’r diweddaraf am y broses dendro bresennol. Bu iddo hefyd nodi fod materion amgylcheddol wedi’u hystyried o fewn y meini prawf sgorio.

 

Yn dilyn cwestiynau gan yr Aelodau, cytunwyd i nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Grimsell am ddod i’r cyfarfod i rannu ei bryderon.

 

 

7.

Ystyried Blaenraglen Waith y Pwyllgor pdf eicon PDF 149 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r flaenraglen waith fel y’i cyflwynwyd.

 

8.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Caryl Roberts newidiadau arfaethedig i’r cofnodion drafft fel a ganlyn:

·       Dileu’r cyfeiriad at Swyddogion yn nhrydydd paragraff yr eitem am Clic gan mai dim ond at y Swyddogion Arweiniol Corfforaethol yr oedd y Cynghorydd Caryl Roberts yn cyfeirio atynt; “fod y Prif Weithredwr wedi dweud wrth yr holl Aelodau yn y cyfarfod cyntaf ar ôl yr etholiad na ddylai’r Aelodau gysylltu ag unrhyw swyddogion yn uniongyrchol i drafod materion, ar wahân i’r Swyddogion Arweiniol Corfforaethol

·       Dileu’r cyfeiriad at “y Rheolwr Corfforaethol” a oedd hefyd yn nhrydydd paragraff yr eitem am Clic; “na ddylai’r Aelodau gysylltu ag unrhyw swyddogion yn uniongyrchol i drafod materion, ar wahân i’r Swyddogion Arweiniol Corfforaethol, y Rheolwr Corfforaethol neu ef ei hunan”

·       Ychwanegu brawddeg “Dywedodd y Prif Weithredwr fod rhywun o amgylch y bwrdd hwn yn dweud celwydd.”

 

Cafwyd trafodaeth ynglŷn ag ychwanegu’r frawddeg a rhoddwyd cyngor gan y Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Gwasanaethau Democrataidd.

Wrth ystyried y newidiadau arfaethedig i’r cofnodion, PENDERFYNWYD cau allan y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitem ar y sail bod y drafodaeth yn ymwneud ag unigolyn/unigolion ac na ddylai gwybodaeth o’r fath, ar ôl pwyso a mesur, gael ei datgelu i’r cyhoedd a’r wasg.

 

Cytunwyd i gau allan y cyhoedd a’r wasg o’r cyfarfod yn unol â pharagraff 12 y rheolau ynghylch Mynediad at Wybodaeth.

 

Yn dilyn trafodaeth, dychwelodd y cyfarfod i fod yn un cyhoeddus.

 

Bu i’r Cynghorydd Caryl Roberts dynnu’n ôl y frawddeg ychwanegol arfaethedig a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Ann Bowen Morgan.

 

Yn dilyn pleidlais, CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod yn amodol ar y newidiadau canlynol:-

·       Dileu’r cyfeiriad at Swyddogion yn nhrydydd paragraff yr eitem am Clic gan mai dim ond at y Swyddogion Arweiniol Corfforaethol yr oedd y Cynghorydd Caryl Roberts yn cyfeirio atynt; “fod y Prif Weithredwr wedi dweud wrth yr holl Aelodau yn y cyfarfod cyntaf ar ôl yr etholiad na ddylai’r Aelodau gysylltu ag unrhyw swyddogion yn uniongyrchol i drafod materion, ar wahân i’r Swyddogion Arweiniol Corfforaethol

·       Dileu’r cyfeiriad at “y Rheolwr Corfforaethol” a oedd hefyd yn nhrydydd paragraff yr eitem am Clic; “na ddylai’r Aelodau gysylltu ag unrhyw swyddogion yn uniongyrchol i drafod materion, ar wahân i’r Swyddogion Arweiniol Corfforaethol, y Rheolwr Corfforaethol neu ef ei hunan”

 

Nid oedd dim materion yn codi o’r cofnodion.