Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Eryl Evans a Caryl Roberts am na fedrent ddod
i’r cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Hinge na fedrai ddod i’r cyfarfod am ei
fod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Datgelodd y Cynghorwyr Euros Davies, Endaf Edwards, Geraint Hughes a
Cerys Jones fuddiant personol yng nghyswllt eitem 5 ar yr agenda. |
|
Cynnig o ran y Cynllun Tai Cymunedol PDF 7 MB Cofnodion: Ystyriwyd y Cynnig o
ran y Cynllun Tai Cymunedol. Dywedwyd bod Tai Fforddiadwy yng Ngheredigion yn
un o flaenoriaethau allweddol y Strategaeth Gorfforaethol, y Cynllun Llesiant,
y Strategaeth Dai a’r Cynllun Datblygu Lleol a bod y Cyngor yn defnyddio
adnoddau sylweddol i greu a rheoli tai fforddiadwy. Gofynnwyd i’r
Aelodau ystyried y Cynnig o ran y Cynllun Tai Cymunedol. Amcan ‘Tai Cymunedol’ oedd cefnogi pobl i
fodloni eu hanghenion o ran tai fforddiadwy yn eu cymunedau drwy greu llwybr i
berchentyaeth. Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi cynllun o’r fath ym mis
Mawrth 2022. Yn ystod y
trafodaethau, awgrymwyd y dylai’r Swyddogion ystyried y pwyntiau canlynol:
Yn dilyn cwestiynau
o’r llawr, CYTUNWYD i argymell bod y Cabinet yn CYMERADWYO’R Cynllun Tai
Cymunedol, yn amodol ar ystyried y canlynol: (i) opsiynau eraill
o ran y symiau gohiriedig a gaiff eu sicrhau o dan gytundebau adran 106; gallai
hyn gynnwys gofyn am dalu’r swm gohiriedig o flaen llaw i gynorthwyo â’r gwaith
o ddarparu tai fforddiadwy yn y sir, a (ii) cynnwys
Cynghorwyr fel aelodau o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen. |
|
Diweddariad ar Gweithio'n Hybrid PDF 4 MB Cofnodion: Cytunwyd ar Strategaeth
Gweithio Hybrid a Pholisi Hybrid Dros Dro ym mis Gorffennaf 2022, a fyddai’n
cael eu treialu am 12 mis. Mae’r
strategaeth yn cyflwyno’r weledigaeth a’r dulliau cysylltiedig a roddir ar
waith i sicrhau bod gan Gyngor Sir Ceredigion weithlu sydd â’r sgiliau a’r
gallu i weithio mewn ffordd sy’n addas at ddyfodol ein sefydliad, mewn lleoliad
gwaith sy’n diwallu ei anghenion. Datblygwyd y Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro i roi gwybodaeth fanwl am yr
hyn y mae gweithio hybrid yn ei olygu i’r Cyngor. Mae’n cefnogi gweithwyr a’u
rheolwyr i weithio’n hybrid drwy roi gwybodaeth a chyngor ymarferol gan alluogi
gweithwyr i weithio’n effeithiol, yn gynhyrchiol a diogel o’r swyddfa neu o’r
cartref. Lluniwyd y Strategaeth Gweithio Hybrid a’r Polisi Gweithio Hybrid Dros
Dro, drwy ymgysylltu parhaus â staff a rheolwyr a dylanwadodd yr adborth hwn yn
fawr ar y dogfennau. Mae ymgysylltu parhaus wedi dangos cefnogaeth sylweddol
tuag at ddatblygu’r ffordd y mae staff yn gweithio a sut y caiff gwasanaethau
eu cyflenwi. Dengys adborth bod staff yn fwy cynhyrchiol a bod ffyrdd digidol o
weithio wedi gwella mynediad at wasanaethau i nifer o gwsmeriaid. Fel rhan o’r treial, cafodd y defnydd o ddesgiau ac ystafelloedd cyfarfod
eu monitro ac mae’r data a gasglwyd wedi cyfrannu at newidiadau yn yr ardaloedd
hynny. Rhoddwyd cyflwyniad byr ar y math o ddata a oedd yn cael ei gasglu. O
ystyried y data, daeth yn fwyfwy clir y byddai cyfleoedd sylweddol i ddarparu
gwasanaethau newydd ar gyfer y cyhoedd yng Nghanolfan Rheidol yn Aberystwyth,
Penmorfa yn Aberaeron a Neuadd y Sir yn Aberaeron neu wneud defnydd arall o’r
adeiladau hyn. Roedd yn bosibl y byddai cyfleoedd i ad-drefnu a defnyddio eiddo
arall y Cyngor mewn ffyrdd gwahanol hefyd. Fel enghraifft o’r cyfleoedd, cytunodd y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel
Dda y byddai rhan o’r llawr gwaelod yng Nghanolfan Rheidol yn cael ei defnyddio
i ddarparu gwasanaethau ffisiotherapi i gleifion allanol. Byddai hyn ar sail
dros dro tra bo’r cyfnod treialu hybrid yn parhau a’r Cyngor yn ystyried y
defnydd amgen gorau arall o’i swyddfeydd yn yr hirdymor. Roedd arolwg ymgysylltu wedi dod i ben yn ddiweddar a oedd yn gofyn am
farn y cyhoedd ynghylch y modd y gellid ailddefnyddio’r adeiladau. Byddai’r
adborth hwn, ynghyd â thrafodaethau gyda’r rhanddeiliaid, o gymorth wrth
ystyried opsiynau ynghylch y defnydd y gellid ei wneud o’r swyddfeydd yn y
dyfodol ar ddiwedd y cyfnod treialu. CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol. |
|
Cofnodion: Dywedwyd bod adolygiad wedi’i gynnal o’r dogfennau canlynol:-
Wrth adolygu’r dogfennau hyn, paratowyd Asesiad Effaith Diogelu Data ar
raddfa fach. Roedd y dogfennau wedi’u
cymeradwyo gan y Grŵp Arweiniol, ac roeddent wedi’u rhannu â’r Undebau
Llafur perthnasol i gael eu barn. Cyflwynwyd yr holl newidiadau i’r Aelodau. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i
argymell bod y Cabinet yn CYMERADWYO’R canlynol:- (i) y Cod Ymddygiad ar gyfer Cyflogeion Llywodraeth Leol; (ii) y Ffurflen Datgan Buddiannau; a (iii) y Ffurflen Datgan Lletygarwch |
|
Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau bod
cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi’r flaenraglen waith fel y’i
cyflwynwyd yn amodol ar nodi y byddai diweddariad am Weithio Hybrid yn cael ei
gyflwyno yn y cyfarfod ar 19 Hydref 2023. Dywedodd y Cadeirydd y dylai unrhyw
Aelod a oedd yn dymuno cynnwys eitem ar y flaenraglen
waith gysylltu ag ef neu’r Swyddog Cymorth Craffu. |