Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Eryl Evans a Caryl Roberts am na fedrent ddod i’r cyfarfod.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Hinge na fedrai ddod i’r cyfarfod am ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. 

 

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorwyr Euros Davies, Endaf Edwards, Geraint Hughes a Cerys Jones fuddiant personol yng nghyswllt eitem 5 ar yr agenda. 

 

3.

Cynnig o ran y Cynllun Tai Cymunedol pdf eicon PDF 7 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd y Cynnig o ran y Cynllun Tai Cymunedol. Dywedwyd bod Tai Fforddiadwy yng Ngheredigion yn un o flaenoriaethau allweddol y Strategaeth Gorfforaethol, y Cynllun Llesiant, y Strategaeth Dai a’r Cynllun Datblygu Lleol a bod y Cyngor yn defnyddio adnoddau sylweddol i greu a rheoli tai fforddiadwy.

 

Gofynnwyd i’r Aelodau ystyried y Cynnig o ran y Cynllun Tai Cymunedol.  Amcan ‘Tai Cymunedol’ oedd cefnogi pobl i fodloni eu hanghenion o ran tai fforddiadwy yn eu cymunedau drwy greu llwybr i berchentyaeth. Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi cynllun o’r fath ym mis Mawrth 2022.

 

Yn ystod y trafodaethau, awgrymwyd y dylai’r Swyddogion ystyried y pwyntiau canlynol:

 

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i argymell bod y Cabinet yn CYMERADWYO’R Cynllun Tai Cymunedol, yn amodol ar ystyried y canlynol:

(i) opsiynau eraill o ran y symiau gohiriedig a gaiff eu sicrhau o dan gytundebau adran 106; gallai hyn gynnwys gofyn am dalu’r swm gohiriedig o flaen llaw i gynorthwyo â’r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy yn y sir, a

(ii) cynnwys Cynghorwyr fel aelodau o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen.

 

4.

Diweddariad ar Gweithio'n Hybrid pdf eicon PDF 4 MB

Cofnodion:

Cytunwyd ar Strategaeth Gweithio Hybrid a Pholisi Hybrid Dros Dro ym mis Gorffennaf 2022, a fyddai’n cael eu treialu am 12 mis.  Mae’r strategaeth yn cyflwyno’r weledigaeth a’r dulliau cysylltiedig a roddir ar waith i sicrhau bod gan Gyngor Sir Ceredigion weithlu sydd â’r sgiliau a’r gallu i weithio mewn ffordd sy’n addas at ddyfodol ein sefydliad, mewn lleoliad gwaith sy’n diwallu ei anghenion. 

Datblygwyd y Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro i roi gwybodaeth fanwl am yr hyn y mae gweithio hybrid yn ei olygu i’r Cyngor. Mae’n cefnogi gweithwyr a’u rheolwyr i weithio’n hybrid drwy roi gwybodaeth a chyngor ymarferol gan alluogi gweithwyr i weithio’n effeithiol, yn gynhyrchiol a diogel o’r swyddfa neu o’r cartref. 

 

Lluniwyd y Strategaeth Gweithio Hybrid a’r Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro, drwy ymgysylltu parhaus â staff a rheolwyr a dylanwadodd yr adborth hwn yn fawr ar y dogfennau. Mae ymgysylltu parhaus wedi dangos cefnogaeth sylweddol tuag at ddatblygu’r ffordd y mae staff yn gweithio a sut y caiff gwasanaethau eu cyflenwi. Dengys adborth bod staff yn fwy cynhyrchiol a bod ffyrdd digidol o weithio wedi gwella mynediad at wasanaethau i nifer o gwsmeriaid. 

 

Fel rhan o’r treial, cafodd y defnydd o ddesgiau ac ystafelloedd cyfarfod eu monitro ac mae’r data a gasglwyd wedi cyfrannu at newidiadau yn yr ardaloedd hynny.

 

Rhoddwyd cyflwyniad byr ar y math o ddata a oedd yn cael ei gasglu. O ystyried y data, daeth yn fwyfwy clir y byddai cyfleoedd sylweddol i ddarparu gwasanaethau newydd ar gyfer y cyhoedd yng Nghanolfan Rheidol yn Aberystwyth, Penmorfa yn Aberaeron a Neuadd y Sir yn Aberaeron neu wneud defnydd arall o’r adeiladau hyn. Roedd yn bosibl y byddai cyfleoedd i ad-drefnu a defnyddio eiddo arall y Cyngor mewn ffyrdd gwahanol hefyd.

 

Fel enghraifft o’r cyfleoedd, cytunodd y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda y byddai rhan o’r llawr gwaelod yng Nghanolfan Rheidol yn cael ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau ffisiotherapi i gleifion allanol. Byddai hyn ar sail dros dro tra bo’r cyfnod treialu hybrid yn parhau a’r Cyngor yn ystyried y defnydd amgen gorau arall o’i swyddfeydd yn yr hirdymor.

 

Roedd arolwg ymgysylltu wedi dod i ben yn ddiweddar a oedd yn gofyn am farn y cyhoedd ynghylch y modd y gellid ailddefnyddio’r adeiladau. Byddai’r adborth hwn, ynghyd â thrafodaethau gyda’r rhanddeiliaid, o gymorth wrth ystyried opsiynau ynghylch y defnydd y gellid ei wneud o’r swyddfeydd yn y dyfodol ar ddiwedd y cyfnod treialu.

 

CYTUNWYD i nodi’r sefyllfa bresennol.

 

5.

Adroddiad ar fersiynau diwygiedig y Cod Ymddygiad ar gyfer cyflogeion Llywodraeth Leol, y ffurflen Datgan Buddiant a'r ffurflen Datgan Lletygarwch pdf eicon PDF 319 KB

Cofnodion:

Dywedwyd bod adolygiad wedi’i gynnal o’r dogfennau canlynol:-

  • Y Cod Ymddygiad ar gyfer Cyflogeion Llywodraeth Leol (‘y Cod’)
  • Y Cod Ymddygiad ar gyfer Cyflogeion Llywodraeth Leol (‘y Cod’)
  • Ffurflen Datgan Buddiannau Swyddogion 
  • Ffurflen Datgan Lletygarwch a Rhoddion Swyddogion

 

Wrth adolygu’r dogfennau hyn, paratowyd Asesiad Effaith Diogelu Data ar raddfa fach.  Roedd y dogfennau wedi’u cymeradwyo gan y Grŵp Arweiniol, ac roeddent wedi’u rhannu â’r Undebau Llafur perthnasol i gael eu barn. 

 

Cyflwynwyd yr holl newidiadau i’r Aelodau. Yn  dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i argymell bod y Cabinet yn CYMERADWYO’R canlynol:-

(i) y Cod Ymddygiad ar gyfer Cyflogeion Llywodraeth Leol;

(ii) y Ffurflen Datgan Buddiannau; a

(iii) y Ffurflen Datgan Lletygarwch

 

6.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 145 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i gadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir.

 

7.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 140 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi’r flaenraglen waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar nodi y byddai diweddariad am Weithio Hybrid yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod ar 19 Hydref 2023. Dywedodd y Cadeirydd y dylai unrhyw Aelod a oedd yn dymuno cynnwys eitem ar y flaenraglen waith gysylltu ag ef neu’r Swyddog Cymorth Craffu.