Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa

Eitemau
Rhif eitem

9.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

 Ymddiheurodd y Cynghorydd Paul Hinge am na fedrai ddod i’r cyfarfod.

 

 

10.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

 

11.

Adroddiad ar y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Amlinellodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Cadeirydd y Pwyllgor, weithdrefn y cyfarfod a chroesawodd, y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor;  y Cynghorydd Gareth Davies, yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Chaffael; Aelodau’r Pwyllgor; gweddill Aelodau’r Cabinet; y Cynghorwyr nad oeddent yn Aelodau o’r Pwyllgor hwn a’r Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies, yr adroddiad am gyllideb ddrafft 2023/2024 gan gynnwys y rhaglen gyfalaf aml-flwyddyn ac esboniodd fod y gyllideb yn seiliedig ar setliad dros dro Llywodraeth Cymru a bod disgwyl setliad terfynol Llywodraeth Cymru ar 28 Chwefror 2023. 

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau’r Pwyllgor fod yna groeso i’r cynnydd uwch na’r disgwyl yn setliad dros dro Llywodraeth Cymru ar gyfer 23/24, sef 8.1% (ar sail ariannol). Ar gyfer blwyddyn ariannol 23/24, dylai hyn sicrhau bod modd diogelu’r gwasanaethau i breswylwyr Ceredigion gymaint ag y bo modd ond cydnabuwyd bod hon yn Gyllideb hynod o heriol o hyd. Roedd y prif bwyntiau a godwyd yn yr adroddiad hwn fel a ganlyn:

 

·       Roedd cyfanswm y pwysau yr oedd y Cyngor yn ei wynebu o ran costau yn £22m, swm nas gwelwyd ei debyg o’r blaen, ac roedd hyn yn cyfateb i ffactor chwyddiant penodol yng Ngheredigion o dros 13%. Yn gyffredinol, roedd y lefel chwyddiant ar draws y Deyrnas Unedig yn 10.5% (ffigwr CPI ar gyfer Rhagfyr 2022). Felly roedd angen gwneud yn iawn am y diffyg o £12m yn y gyllideb drwy gyfuniad o ystyriaethau gan gynnwys gwneud Arbedion yn y Gyllideb a chodi Treth y Cyngor.

 

·       Dywedodd yr Arweinydd nad oedd y meysydd lle’r oedd yna bwysau cyffredinol o ran costau yn unigryw i Geredigion. Roedd themâu’n dod i’r amlwg yn gyson a oedd yn debyg i’r rhai y cyfeirir atynt yn y wasg yn genedlaethol. Roedd y rhain yn effeithio ar ystod o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn ogystal ag ar sefyllfa ariannol teuluoedd unigol. Roedd hyn yn cynnwys costau ynni a thanwydd, dyfarniadau cyflog i staff a oedd yn uwch na’r disgwyl a chontractau gyda chymalau a oedd yn gysylltiedig â chwyddiant.

 

·       Hefyd, roedd cynnydd arfaethedig yn ardoll Awdurdod Tân

Canolbarth a Gorllewin Cymru a oedd ar lefel na welwyd ei

thebyg o’r blaen. Roedd y cynnydd arfaethedig o 13% yn ei

Gyllideb yn arwain yn ei dro at bwysau mawr o ran costau,

mewn termau cymharol, ar gyllideb y Cyngor ei hun.

 

·       Roedd y gofynion ar y cyllidebau a oedd yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn dal i gynyddu, ac roedd hefyd angen cyfeirio mwy nag £1.7m o arian yn y Setliad Dros Dro (1.5% o’r cynnydd o 8.1%) i wasanaethau a gomisiynir yn allanol yng Ngheredigion er mwyn sicrhau bod gweithwyr Gofal Cymdeithasol cofrestredig yn dal i dderbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol (a oedd wedi codi o £9.90 i £10.90 yr awr - cynnydd o 10.1%).

 

·       Er gwaethaf yr heriau gweithredol a oedd yn codi ar adegau mewn rhai gwasanaethau, roedd Cyngor Sir Ceredigion yn dal i ddarparu gwasanaeth o safon uchel a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion. pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i gadarnhau bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir.