Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorydd Endaf Edwards a’r Cynghorydd Paul Hinge am na fedrent ddod i’r
cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Adroddiad ynghylch Adroddiad Ystadegol Uwch Grwner Ceredigion ar gyfer 2021 Cofnodion: Ystyriwyd
Adroddiad Ystadegol Uwch Grwner Ceredigion ar gyfer 2021. Dywedwyd bod Uwch
Grwner Ceredigion yn paratoi adroddiad blynyddol ar y marwolaethau a adroddir
i’r Crwner (‘Adroddiad Ystadegol’) ac yn ei anfon at y Weinyddiaeth Gyfiawnder
er mwyn ei gyhoeddi fel rhan o Ystadegau’r Crwner ar wefan Llywodraeth y
Deyrnas Unedig. Roedd
Adroddiad y Prif Grwner i’r Arglwydd Ganghellor (Adroddiad a oedd yn cynnwys y
Chweched Adroddiad Blynyddol 2018-2019 a’r Seithfed Adroddiad Blynyddol
2019-2020) yn cynnwys Glasbrint Enghreifftiol y Crwner. Roedd yn
argymell y dylai’r Uwch Grwner hefyd gyflwyno adroddiad blynyddol byr
(‘Adroddiad Awdurdod Lleol’) i’r Prif Grwner a’r Cyngor bob mis Gorffennaf ac y
dylid ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor gan hefyd gynnwys yr ystadegau perthnasol
ar yr achosion cyfredol / achosion a oedd wedi cau (gan gynnwys ffigurau i
gymharu â blynyddoedd blaenorol), diweddariad ar waith y Crwner a materion
perthnasol, crynodeb am dîm y Crwner a’r trefniadau staffio, ac unrhyw
gynlluniau at y dyfodol. Ni wnaeth yr Uwch Grwner gyflwyno’r adroddiad yma i’r
Cyngor y llynedd a hynny oherwydd llwyth gwaith, galwadau i eistedd yn y llys,
a swydd wag ymhlith y staff. Yng
nghyfarfod y Pwyllgor hwn ar 14 Hydref 2021, penderfynwyd y dylai’r Adroddiad
Ystadegol gael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn flynyddol, ar ôl i’r
Weinyddiaeth Gyfiawnder gyhoeddi adroddiad am yr Ystadegau Cenedlaethol. Cysylltwyd â
Swyddfa’r Crwner i ofyn am ddiweddariad o ran pa bryd y byddai Adroddiad yr
Uwch Grwner i’r Awdurdod Lleol eleni yn cael ei ddarparu ond ni ddaeth yr
adroddiad i law. Cafodd yr
Adroddiad Ystadegol ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor ar 12 Gorffennaf 2022, ar ôl
i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder gyhoeddi’r adroddiad am yr Ystadegau Cenedlaethol.
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r pwyllgor er gwybodaeth. Dylai’r Pwyllgor hefyd nodi
fod gwybodaeth bersonol sensitif wedi ei thynnu allan o’r Adroddiad Ystadegol. Cafwyd
diweddariad gan Swyddfa’r Crwner am eu gwaith nhw ar roi organau. “Bu i Mr
Steve Lloyd, Swyddfa’r Crwner yn Heddlu Dyfed-Powys, drefnu bod nifer o organau
yn cael eu rhoi gan weithio gyda Nyrsys Arbenigol Cymru mewn Rhoi Organau a Mr
Jason Shannon, Archwilydd Meddygol Arweiniol cyntaf Cymru. Roedd ymdrechion
eithriadol ac arbenigedd Mr Lloyd wedi arwain at arbed nifer o fywydau gan gynnwys
baban wyth mis oed. Mae’r profiad a’r
ddealltwriaeth a gafwyd o’r digwyddiad diweddar yma yn rhoi sylfaen dda i
grwneriaid Ceredigion ar gyfer cael cyfleoedd yn y dyfodol i hwyluso rhoi
organau ac arbed bywydau.” Byddai
‘adroddiad Awdurdod Lleol’ yr Uwch Grwner yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn
cyn gynted ag y bo modd ar ôl ei dderbyn oddi wrth Swyddfa’r Crwner. CYTUNWYD i
nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad parthed prynu maes parcio yn Aberteifi Cofnodion: Dywedwyd bod yr
Aelodau, yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar
19 Hydref 2022, wedi codi cwestiynau ynglŷn â’r ffordd yr aethpwyd ati i
brynu safle Feidr Fair yn Aberteifi. Cytunwyd y
byddai adroddiad yn cael ei baratoi a’i gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y
Pwyllgor. Ym Mawrth 2021,
cysylltodd perchennog safle Feidr Fair â'r Cyngor i
ddweud ei fod wedi cael cynnig £680,000 oddi wrth barti arall am y tir a oedd
yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio. Gofynnodd y perchennog a oedd y Cyngor
eisiau prynu'r safle yn hytrach na'i fod yn cael ei werthu i ddatblygwr
preifat. O ystyried y potensial i
ail-ddatblygu’r tir, dywedodd y perchennog ar y pryd fod y tir yn werth £1.25m. Roedd y safle, a
oedd yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio, mewn lleoliad da yn y dref ac roedd
nifer o bobl yn ei ddefnyddio at amrywiol ddibenion. Roedd y ffaith bod y maes
parcio mor gyfleus yn denu pobl i’r dref.
Byddai colli’r llefydd parcio hyn mor agos i'r dref yn tanseilio'r
ymdrechion i adfywio'r dref a’r gwaith o fynd i'r afael ag effaith y dirywiad economaidd. Roedd y safle hefyd
yn cynnwys lleoliad pwysig ar gyfer codi a gollwng disgyblion a oedd yn mynychu
Ysgol Gynradd Aberteifi (430 o ddisgyblion), a phe bai’r safle’n cael ei golli,
ni fyddai lleoliadau amlwg eraill ar gael ar gyfer gwneud hyn. Roedd Ysgol Gynradd
Aberteifi yn safle cyfyng, a dim ond nifer cyfyngedig o lefydd parcio ar gyfer
y staff oedd ar gael ar y safle. Roedd y maes parcio yn allweddol o ran sicrhau
diogelwch disgyblion un o ysgolion cynradd mwyaf y sir wrth iddynt gael eu codi
a’u gollwng. Roedd y gwaith ar yr ysgol, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2022,
wedi dwysáu'r anawsterau ar y safle. Roedd y tir wedi’i
osod ar brydles i’r Cyngor. Roedd y
brydles yn un a oedd yn para 99 mlynedd a byddai’n dod i ben yn 2053. Fel yr
oedd costau pethau ar y pryd hwnnw, roedd yr hyn a delid am y brydles yn rhad
iawn (swm ‘peppercorn’). Cyn i’r cynnig i
brynu’r safle gael ei wneud, roedd defnyddio’r safle fel maes parcio wedi
creu’r incwm canlynol i’r Cyngor: • 2019/20 £68,481 • 2018/19 £70,259 • 2017/18 £68,124 • 2016/17 £68,361 • 2015/16 £55,315 Mewn termau
buddsoddi syml, roedd yr incwm cyson o oddeutu £68,000 y flwyddyn yn golygu y
byddai’n cymryd 8.8 mlynedd i adennill yr arian a fuddsoddwyd h.y. 11.3% y
flwyddyn. Roedd y ffrwd incwm eisoes yn
bodoli, felly nid oedd hyn yn wariant cyfalaf at ddiben adenillion
masnachol hollol newydd, ond roedd yn dangos bod sicrhau'r ffrwd incwm hon yn
rhoi gwerth am arian wrth ystyried y metrigau hyn. Yn ogystal,
cydnabuwyd y byddai gwerth y safle'n cynyddu wrth i nifer y blynyddoedd a oedd
yn weddill ar y brydles leihau. Roedd hyn yn adlewyrchu’r cynnydd cyffredinol a
fu mewn gwerth tir at ddibenion datblygu.
Roedd yr ymatebion cychwynnol i’r cais ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Grwp Datblygu a Grwpiau Ategol Eraill Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad y Grŵp Datblygu a Grwpiau
Ategol eraill (adolygu’r trefniadau presennol a’r cylch gorchwyl). Roedd yr
Aelodau wedi gofyn am yr adroddiad yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 17 Hydref 2022.
Derbyniodd yr Aelodau wybodaeth am y cefndir, y rhesymau dros adolygu’r
trefniadau, y ffordd ymlaen a gynigir, yr aelodaeth a’r Cylch Gorchwyl. Yn dilyn trafodaeth, cytunodd Aelodau’r Pwyllgor
y dylai’r Cabinet ystyried yr argymhellion canlynol:
|
|
Siarter Gwasanaethau Cwsmeriaid Cofnodion: Dywedwyd bod y
Siarter yn nodi’r dulliau gwahanol o gyfathrebu â’r Cyngor. Roedd hyn yn
cynnwys dros y ffôn, yn electronig (ar y we, ar e-bost) drwy lythyr ac wyneb yn
wyneb. Roedd y Siarter yn rhoi rhyw syniad i gwsmeriaid ynghylch pryd y dylent
ddisgwyl ymateb ac roedd yn sicrhau y cyfathrebir â chwsmeriaid yn eu dewis
iaith a’r dull yr oeddent yn ei ffafrio.
Roedd y Siarter yn
rhoi sicrwydd i gwsmeriaid y byddai’r Cyngor yn delio â phawb yn gyfartal, mewn
modd teg a chwrtais ac y byddai dinasyddion yn cael gwybodaeth am ei
wasanaethau a digwyddiadau. Roedd y Siarter yn croesawu sylwadau cadarnhaol a
negyddol am wasanaethau’r Cyngor a sut y gellir gwella. Roedd y siarter
diwygiedig yn awr yn cyd-fynd â’r polisi Cwynion o ran nifer y dyddiau i ymateb
i unrhyw ymholiad. Yn dilyn trafodaeth,
cytunodd yr Aelodau i argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Siarter Cwsmeriaid
ddiwygiedig fel y’i cyflwynwyd. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i nodi cynnwys Blaenraglen Waith
2022/23 fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar nodi bod yr eitem am Bremiwm Treth y
Cyngor ar Ail Gartrefi wedi’i symud i gyfarfod mis Mawrth am nad oedd yr
adroddiad yn barod i’w gyflwyno yn y cyfarfod hwn. Dywedwyd y dylai unrhyw dir a oedd ar gael i’w brynu oddi wrth y Cyngor
neu dir yr oedd y Cyngor yn ei osod ar rent gael ei hysbysebu hefyd yn y wasg
leol yn ogystal â thudalen Facebook y Cyngor gan nad oedd nifer yn defnyddio’r
cyfryngau cymdeithasol. Roedd y tir ym Mlaen-pant, Llanwenog yn ddiweddar
wedi’i hysbysebu ar Facebook yn unig. Serch hynny, cafwyd ymateb llwyddiannus
i’r tendr. |
|
Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau
bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd
Paul Hinge yn bresennol yn y cyfarfod. |