Lleoliad: Siambr y Cyngor - Penmorfa
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Endaf Edwards, y Cynghorydd Paul Hinge a’r Cynghorydd Gareth Davies (Aelod Cabinet) am na fedrent ddod i’r cyfarfod |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Datgelodd
y Cynghorydd Elaine Evans a’r
Cynghorydd Eryl Evans fuddiant
personol a buddiant a oedd yn
rhagfarnu o ran eitem 4, cyn i’r bleidlais
ynghylch yr eitem hon gael ei chymryd. |
|
Strategaeth Ddrafft ar gyfer Gweithio Hybrid a Pholisi Gweithio Hybrid Dros Dro Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd
Bryan Davies yr adroddiad ynghylch y Strategaeth Ddrafft ar gyfer
Gweithio Hybrid a’r Polisi Dros Dro
ar gyfer Gweithio Hybrid. Dywedwyd bod pandemig Covid-19 wedi gorfodi cyfyngiadau cenedlaethol ar symud a bod hynny wedi digwydd yn
sydyn ac wedi arwain at y gofyniad i aros gartref a gweithio gartref lle bynnag y bo
modd. Roedd y mesurau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r
rhan fwyaf o staff swyddfa’r
Cyngor weithio mewn ffordd wahanol iawn. Ymatebodd y staff yn gyflym ac yn gadarnhaol
i’r newid hwn. Ar y cyfan, roedd yr ymateb cadarnhaol hwn yn bosibl
o ganlyniad i’r camau a gymerwyd eisoes tuag at ffordd fwy hyblyg a doethach
o weithio, gan gynnwys buddsoddi mewn offer a meddalwedd digidol, a gwella’r trefniadau gweithio hyblyg presennol a oedd eisoes ar waith. Ar ôl ymateb yn dda
i heriau cychwynnol y pandemig, dywedwyd bod y ffocws wedi symud
i sut y gallai’r Cyngor ddysgu ac adeiladu o’r profiad. Sefydlwyd y prosiect y ‘Ffordd
Rydym yn Gweithio’ i adolygu’r arferion gweithio o bell a fabwysiadwyd yn ystod y pandemig. Nod y prosiect oedd archwilio’r
awydd am newid hirdymor o fewn y gweithlu gan sicrhau mai darparu gwasanaethau oedd y prif ffocws o hyd. Roedd y prosiect yn gyfle i archwilio
i ba raddau yr oedd
yna newid yn y weledigaeth strategol ehangach o ran ble, pryd a sut
y byddai’r sefydliad yn mynd ati i weithio. Yn rhan
o’r prosiect, cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu sylweddol â staff i gasglu adborth, profiadau, syniadau a gofynion o ran y gweithle yn y dyfodol er mwyn cefnogi penderfyniadau
strategol. Amcangyfrifir
bod 74% o’r gweithlu a oedd yn
gweithio gartref wedi cymryd rhan
mewn o leiaf un o’r gweithgareddau ymgysylltu hyn. Roedd y themâu a deilliai o’r ymarfer
ymgysylltu â staff yn ogystal â’r ymchwil, y tueddiadau a’r uchafbwyntiau cenedlaethol wedi bod yn sail i ddatblygiad y strategaeth gweithio hybrid. Dangosodd yr ymarfer ymgysylltu â staff fod llawer o fanteision
i weithio gartref, ond roedd hefyd
yn cydnabod bod heriau i rai aelodau o staff. Roedd y manteision a nodwyd yn cynnwys
cyfarfodydd rhithiol, gwell cynhyrchiant, gwell cydweithio, llai o bethau i darfu ar eu
gwaith a llai o bethau i dynnu eu sylw oddi
ar eu gwaith. Roedd yr heriau a nodwyd yn cynnwys cysylltedd band eang gwael, diffyg gwahanu
rhwng y gwaith a’r cartref – “byw yn y swyddfa”,
teimlo’n unig oherwydd llai o gyfleoedd i gymdeithasu, a dim
man gweithio digonol yn eu cartref. Gan ddefnyddio canfyddiadau ymchwil a thystiolaeth o’r ymarferion ymgysylltu â staff, datblygwyd y Strategaeth Gweithio Hybrid, a oedd yn nodi’r egwyddorion a’r broses weithredu ar gyfer model gweithio hybrid a fyddai’n cynnal y lefel uchel ofynnol o ran y gwasanaethau a ddarperir gan hefyd roi mwy o hyblygrwydd i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Polisi Sicrwydd a Bondiau Corfforaethol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiwyd y dylai’r
Cyngor gyflwyno polisi bondiau corfforaethol er mwyn i swyddogion fod ag agwedd glir, deg a chyson at gymeradwyo a llunio bondiau
gyda thrydydd partïon. Cyflwynwyd yr adroddiad i sicrhau y gellir cael
gafael ar fondiau’n hawdd a’u defnyddio’n hawdd os byddai angen, a bod bondiau
a warantwyd gyda thrydydd partïon yn cael eu llunio â thrydydd partïon â statws
credyd uchel yn unig er mwyn diogelu sefyllfa’r Cyngor. CYTUNWYD:- (i) mai bond a geir mewn arian parod oedd dewis y Cyngor. (ii) y byddai bond sy’n cael ei warantu gan drydydd parti yn ei gwneud yn ofynnol i’r trydydd parti fod â statws credyd A3 gyda
Moody’s neu statws credyd A- gyda Standard & Poor’s neu Fitch. (iii) argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo’r Polisi Bondiau
a Sicrwydd |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd
ar y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar ystyried yr eitemau canlynol yng nghyfarfodydd y
dyfodol:
“4.a) Lefel
Premiwm Ail Gartrefi Treth y Cyngor a godir i’w phennu ar 25% (yn dod i rym
o 1 Ebrill 2017); a, b) bod yr holl arian a godir o
Bremiwm 25% Ail Gartrefi Treth y Cyngor (net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn
cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi'r Cynllun Tai Cymunedol.” b) Bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail
Gartrefi Treth y Cyngor rhwng y cyfnod 01/04/17 i 31/03/22 (net o ad-daliadau
Treth y Cyngor), yn cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai
Cymunedol. c) Bod yr holl arian a godir o Bremiwm 25% Ail
Gartrefi Treth y Cyngor o 01/04/22 (net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn cael
ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol. d) O 01/04/22, bod yr holl arian a godir o
Bremiwm 25% Cartrefi Gwag Treth y Cyngor (net o ad-daliadau Treth y Cyngor), yn
cael ei glustnodi a’i ddefnyddio i gefnogi’r Cynllun Tai Cymunedol. e) Diddymu penderfyniad y
Cyngor 16/03/17 cofnod 8.b) Premiymau Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi.
|