Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Dwynwen Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Peter Davies MBE ac Endaf Edwards am na fedrent ddod i’r cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: Ystyriwyd Adroddiad
ynglŷn â Gweledigaeth y Grŵp Annibynnol ynghylch creu llwybr i
Genhedlaeth Ifanc Ceredigion berchen ar eu tŷ eu hunain. Roedd y Cadeirydd
am i’r mater gael ei ystyried oherwydd y sefyllfa economaidd sy’n wynebu pobl
ifanc Ceredigion a’r diffyg cyfleoedd iddynt brynu eu cartref cyntaf. Dywedwyd bod y Grŵp
Annibynnol wedi datblygu cynnig i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol ei ystyried gan greu llwybr i bobl ifanc Ceredigion berchen ar eu
tŷ eu hunain. Cyflwynwyd adroddiad gan y Grŵp Annibynnol yn amlinellu
‘Gweledigaeth ynghylch
creu llwybr i Genhedlaeth Ifanc Ceredigion berchen ar eu tŷ eu hunain.’ Dywedwyd bod
cais wedi’i wneud am ddata i gefnogi’r papur a chafodd y wybodaeth hon ei
chyflwyno hefyd. Roedd tystiolaeth yn dangos mai prin oedd y cyfleoedd i bobl
ifanc fedru prynu eu cartref cyntaf o achos yr economi yng Ngheredigion. Dywedwyd mai nod y cynnig hwn oedd cynnig cynllun a fyddai’n cynorthwyo pobl ifanc i
brynu eu cartref cyntaf. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried yr
adroddiad a’r cynigion a geir
ynddo, gyda’r bwriad o ofyn i’r Swyddogion am adroddiad pellach ynghylch ei
ymarferoldeb. Pe byddai’r Aelodau yn
cytuno i ofyn i’r Swyddogion ystyried ymarferoldeb y cynigion, cynigiwyd y
byddai’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad pellach ar 13 Ionawr 2022, cyn belled â
bod y Swyddogion yn medru ystyried y cynnig erbyn y dyddiad hwnnw. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r
cynnig a gwnaeth pawb gydnabod yr angen i ddatblygu cynllun a fyddai’n cefnogi
ac yn galluogi pobl ifanc i brynu eu cartref cyntaf. Dywedwyd hefyd y byddai
hyn o fudd i economi a diwylliant y Sir. Yn dilyn
cwestiynau a sylwadau o’r llawr, CYTUNWYD yn unfrydol i wneud y canlynol:- (i) cefnogi’r
‘Weledigaeth ynghylch creu llwybr i Genhedlaeth Ifanc Ceredigion berchen ar eu
tŷ eu hunain’ a’i throsglwyddo i’r Swyddogion er mwyn iddynt lunio
adroddiad ar ymarferoldeb y cynllun; (ii) ar
ôl i’r swyddogion ystyried y cynllun, gofyn iddynt ddod yn ôl i’r pwyllgor craffu
hwn i gyflwyno eu hargymhellion; ac (iii)
os caiff y cynllun ei gymeradwyo gan y Cabinet / y Cyngor yn y pen draw, gosod
yr opsiwn ariannu a ffefrir yn y drefn o bennu’r
gyllideb. |