Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Ellen ap Gwynn a Ray Quant (Aelodau'r Cabinet) am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: Adroddodd y Swyddog
Arweiniol Corfforaethol – Pobl a Threfniadaeth y datblygwyd y ddau bolisi newydd hwn
gan y Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth ar y cyd â Phriffyrdd
a Gwasanaethau Amgylcheddol.
Ymgynghorwyd gyda’r Undebau Llafur perthnasol ar y ddau bolisi ac roedd eu diwygiadau
nhw wedi cael eu cynnwys
lle bo
hynny’n briodol. Diben yr
holl bolisïau a gweithdrefnau staff yw nodi’n glir yr
ymddygiad, y prosesau a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan
staff, sut y gallant gael cyngor neu gymorth,
a phan fo hynny’n berthnasol, canlyniadau peidio cydymffurfio â’r polisi a/neu’r
weithdrefn. Mewn perthynas
â’r Polisi Gyrru yn y Gwaith
– Fflyd y Cyngor, adroddwyd
y cynhaliwyd adolygiad Rheoli Risg Fflyd
a Gyrwyr gan ymgynghorydd ar ran Zurich, cwmni yswiriant y Cyngor. Ei brif ddiben
oedd adolygu polisïau a threfniadau’r Cyngor yn erbyn safonau
arfer gorau, a darparu argymhellion sy’n cynorthwyo wrth sicrhau cydymffurfiaeth,
diogelu ein gweithlu rhag niwed
a lleihau’r risg o ddigwyddiadau. Un o brif
argymhellion yr Adolygiad oedd cyflwyno Polisi Gyrru yn y Gwaith
gyda Chytundeb Gyrrwr yn rhan
ohono, sy’n cynnig “disgwyliad diamwys clir ynghylch
safonau gyrru”. Mae Polisi Gyrru yn
y Gwaith – Fflyd y Cyngor yn un o gyfres o fentrau sy’n ceisio
safoni gweithgarwch cofnodi a chydymffurfiaeth ar draws y fflyd cerbydau a sicrhau safonau gyrru sy’n
gwella diogelwch gyrwyr a theithwyr, nifer y digwyddiadau a’r damweiniau sy’n gysylltiedig â’r fflyd. Mae mentrau eraill yn cynnwys cyflwyno
modiwl e- ddysgu hyfforddiant ar gyfer gyrwyr a systemau archwilio cadarn ar gyfer
cerbydau a thrwyddedau. Nodwyd bod y Polisi
Gyrru yn y Gwaith – Fflyd y Cyngor yn cyflwyno’r canlynol; •Cytundeb Gyrrwr/Gweithredwr Peirianwaith i’w lofnodi bob blwyddyn; •Y gofyniad i hysbysu
eu rheolwr o unrhyw newid i’w
hiechyd neu namau corfforol/synhwyraidd ac asesiad iechyd blynyddol •Gydag achos,
sgrinio cyffuriau ac
alcohol •Y cyflogai yn
talu cyfraniad o hyd at £250 at gostau dros-ben yswiriant yn dilyn gweithdrefn
ddisgyblu, os achosir y difrod o ganlyniad i’w hesgeulustod
nhw neu os
byddant wedi bod yn gyrru heb
ofal a sylw priodol Mewn perthynas
â’r Polisi Gyrru yn y Gwaith
– Defnyddio Cerbyd Preifat (Fflyd Llwyd), nodwyd bod y Polisi’n nodi disgwyliadau
ar gyfer y cyflogeion hynny sy’n defnyddio eu cerbyd preifat
at ddibenion busnes y
Cyngor. Datblygir modiwl e-ddysgu hefyd i gyd-fynd â’r polisi.
Mae’r Polisi
Gyrru yn y Gwaith – Defnyddio Cerbyd Preifat (Fflyd Llwyd) yn
cyflwyno’r canlynol; • Datganiad defnyddiwr
Cerbyd Preifat i’w lofnodi bob blwyddyn; •Y gofyniad i hysbysu
eu rheolwr o unrhyw newid i’w
hamgylchiadau, y gallent effeithio ar
ddefnyddio cerbyd preifat at ddibenion gwaith • Gydag achos,
sgrinio cyffuriau ac
alcohol • Y cyflogai yn
cadarnhau bod eu cerbyd yn addas
i’r ffordd fawr, bod ganddo dystysgrif MOT (pan fo
hynny’n briodol) a’i fod wedi
cael ei yswirio’n
gywir at ddibenion busnes. Yn dilyn trafodaeth a chwestiynau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cofnodion: Adroddodd y Swyddog Arweiniol Corfforaethol – Pobl a Threfniadaeth fod y polisïau canlynol wedi cael eu datblygu
a'u diweddaru gan y Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth, ac os cânt eu cymeradwyo
byddant yn cael eu darparu i bob corff llywodraethu ysgolion yng Ngheredigion
gydag argymhelliad i'w hystyried a'u mabwysiadu. Mae'r ddau bolisi enghreifftiol
wedi bod yn destun ymgynghoriad â'r undebau llafur staff addysgu a staff
cymorth lleol trwy'r Fforwm Undebau Llafur Ysgolion. Mae'r Undebau Llafur
perthnasol wedi trafod, diwygio a chytuno ar y polisïau. Pwrpas yr holl bolisïau a gweithdrefnau staff yw nodi'n glir yr
ymddygiadau, prosesau a gweithdrefnau sy'n ofynnol gan staff, sut y gallant gael cyngor neu gefnogaeth a, lle bo hynny'n
berthnasol, canlyniadau peidio â dilyn y polisi a/neu'r weithdrefn. Nodwyd fod
y Polisi Enghreifftiol Urddas yn y Gwaith i Ysgolion yn amlinellu gwerth amgylchedd gwaith cynhyrchiol a
chefnogol a'r ymrwymiad i ddileu bwlio ac aflonyddu. Mae gan bob gweithiwr yr
hawl i gael ei drin ag urddas a pharch yn y gwaith, ac ni chaiff unrhyw fath o
erledigaeth, gwahaniaethu, bygwth neu ymddygiad a ystyrir yn fath o fwlio neu
aflonyddu ei oddef. Yn ogystal â'r staff ysgol hynny a gyflogir gan y Corff
Llywodraethu, mae'r polisi hwn hefyd yn cwmpasu gwirfoddolwyr, hyfforddeion a
myfyrwyr sydd ar leoliad yn yr ysgol. Roedd y polisi hwn yn darparu fframwaith
i helpu i atal bwlio ac aflonyddu gweithwyr ysgol ac mae'n esbonio'r weithdrefn
y dylid ei dilyn os bydd digwyddiadau o'r fath yn codi. Roedd y Polisi Enghreifftiol Rheoli Absenoldeb Salwch yn y Gwaith i
Ysgolion wedi cael ei ddiwygio i sicrhau bod y polisi a'r weithdrefn yn cydymffurfio â newidiadau mewn
deddfwriaeth, ac ar yr un pryd cryfhau'r broses ar gyfer rheoli salwch. Mae'r
polisi yn amlinellu gwerth sicrhau ac annog presenoldeb rheolaidd yn y gwaith
i'w holl weithwyr ac yn nodi achosion o absenoldeb er mwyn cynorthwyo ei
weithwyr. Ei nod yw creu amgylchedd gwaith iach a chefnogol sy'n creu lefelau
uchel o bresenoldeb. Mae'r polisi yn cydnabod y gall afiechyd neu anaf
effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg ac mae'n ymrwymo i drin y rhai na allant
weithio oherwydd afiechyd yn deg, yn gyfrinachol ac mewn modd sensitif. Mae'r
polisi hwn yn amlinellu gweithdrefnau i ddarparu fframwaith teg a chyson ar
gyfer delio ag absenoldeb salwch tymor hir a thymor byr gweithwyr. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD (i) Argymell cymeradwyo
Polisi a Gweithdrefn Enghreifftiol Urddas yn y Gwaith i Ysgolion a bod Cyrff
Llywodraethu yn eu mabwysiadu yn ysgolion Ceredigion. (ii) Cymeradwyo bod Polisi a Gweithdrefn Enghreifftiol
Rheoli Salwch yn y Gwaith i Ysgolion yn cael eu cyflwyno i Gyrff Llywodraethu
er mwyn eu mabwysiadu yn ysgolion Ceredigion. |
|
Adroddiad Blynyddol am Ganmoliaeth, Cwynion a Cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth 2020-2021 PDF 555 KB Cofnodion: Ystyriwyd yr Adroddiad Blynyddol am Ganmoliaeth, Cwynion a cheisiadau
Rhyddid Gwybodaeth – 2020/2021. Roedd yr adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth ynghylch gwaith Gwasanaeth Cwynion a
Rhyddid Gwybodaeth y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021. Rhoddwyd
manylion penodol am y nifer a’r math o gwynion a dderbyniwyd, camau gwahanol y
weithdrefn gwynion, perfformiad a chanlyniadau yn ymwneud â’r rhain, a
gwybodaeth am gydymffurfio â deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau
Gwybodaeth Amgylcheddol. Roedd adran hefyd ar y cysylltiadau a dderbynnir gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod y cyfnod adrodd. Mae Llythyr Blynyddol
yr Ombwdsmon at y Cyngor yn darparu manylion pellach ar waith yr Ombwdsmon ar gyfer Ceredigion, yn ogystal ag ar gyfer Cynghorau eraill ar draws Cymru. Dyma’r ail
adroddiad olynol lle na chafodd unrhyw ymchwiliadau eu cychwyn nac unrhyw adroddiadau
ffurfiol eu cyhoeddi gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas
â chwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor. Er bod gwelliannau wedi cael eu gwneud o’i gymharu â’r blynyddoedd
blaenorol, mae’r adroddiad hwn hefyd yn tynnu sylw at yr heriau a wynebir gan y
Cyngor oherwydd y pandemig a swyddogion yn gorfod
addasu i ffyrdd newydd o weithio. Yn ogystal, yn ystod y cyfnod o dan sylw yn
yr adroddiad hwn, roedd pwysau sylweddol ar y Gwasanaeth Cwynion a Rhyddid
Gwybodaeth a gafodd effaith anochel ar ein gallu i weithredu yn unol â’r
amserlenni a bennwyd a’r amserlenni statudol. Mae’r sefyllfa bresennol fel a ganlyn: Trosolwg byr o’r ffigurau ar gyfer 2020 – 2021:
·
435 o ymholiadau wedi eu prosesu gan y Gwasanaeth Cwynion
a Rhyddid Gwybodaeth ·
103 o gwynion wedi eu derbyn (61 yng Ngham 1 a 42 yng
Ngham 2) ·
32 o ‘gysylltiadau’ gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru ·
756 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth
Amgylcheddol ·
4 Adolygiad Mewnol o dan ddeddfwriaeth Rhyddid
Gwybodaeth/Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol Darparwyd pigion y flwyddyn:-
|