Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y
Cynghorydd Wyn Thomas am na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod gan fod storm
Eunice wedi arwain at doriad yn y cyflenwad trydan. Ymddiheurodd y Cynghorydd
Lyndon Lloyd MBE am na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod. Ymddiheurodd y
Eifion Evans, Prif Weithredwr, am na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod. |
||
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelwyd dim
buddiannau personol na buddiannau a oedd yn rhagfarnu. |
||
Adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft 2022/2023 Cofnodion: Amlinellodd y Cynghorydd Ivor Williams, Cadeirydd y Pwyllgor, weithdrefn
y cyfarfod a chroesawodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yr
Aelodau Cabinet a’r Swyddogion i'r cyfarfod. Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yr adroddiad
ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/2023 gan gynnwys y rhaglen gyfalaf tair
blynedd, gan esbonio mai setliad dros dro yw hwn, a disgwylir y setliad
terfynol ar 1 Mawrth, 2022. Cyfanswm y setliad refeniw, a elwir yn Gyllid
Allanol Cyfun, a ddyrannwyd i Geredigion ar gyfer 2022/23 yw £119.419m. Mae hyn
yn cymharu â dyraniad 2021/22 o £110.006m (wedi’i addasu ar gyfer
trosglwyddiadau) ac mae’n gynnydd o 8.6%. Mae Cymru gyfan wedi gweld cynnydd o
9.4% ar gyfartaledd gyda Cheredigion yn 19eg. Dywedodd yr Arweinydd wrth
Aelodau'r Pwyllgor fod £50 miliwn o arbedion wedi'u gwneud ers ei phenodiad yn
2012. Dywedodd
yr Arweinydd hefyd fod llythyr wedi dod i law ar 17 Chwefror 2022 gan Rebecca Evans
AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn cyhoeddi cynnydd o £50m ar gyfer
y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2021-2022. Nid oedd y swm a fyddai’n cael
ei ddyrannu i Gyngor Sir Ceredigion yn hysbys hyd yma ond roedd yn debygol o
fod tua £1m. Nid oedd y cyllid wedi'i neilltuo (h.y. heb ei ddyrannu i
wasanaethau penodol) a gellir ei gario ymlaen mewn cronfeydd wrth gefn i
flwyddyn ariannol 2022-2023. Esboniwyd y byddai angen ystyried goblygiadau'r
cyllid ychwanegol hwn a sut y byddai hynny'n cael ei ddyrannu ar gyfer cyllideb
2022-2023. Croesawodd
yr aelodau’r cyllid ychwanegol ond mynegwyd siom bod y cyhoeddiad yn hwyr ac
nad oedd yn caniatáu i waith craffu ddigwydd yn seiliedig ar y wybodaeth
newydd. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai gwybodaeth yn cael ei chyflwyno
i'r Cyngor ar 3 Mawrth 2022 ac y byddai cyfle i drafod yr opsiynau ar gyfer y cyllid
ychwanegol.
Mae
model y Gyllideb wedi'i ddrafftio i gynnwys yr addasiadau o ran y setliad dros
dro. Bydd angen ystyried unrhyw addasiadau sydd eu hangen sy’n codi yn y
setliad terfynol a'u hymgorffori'n briodol yn y gyllideb. Mae'r
gwaith asesu manwl, a wnaed i nodi’r pwysau anochel o ran costau sy'n wynebu'r Gwasanaethau, wedi'i gwblhau, ac mae hwn wedi nodi cyfanswm net o £13.1m, a grynhoir yn Atodiad 1 ym mhapurau’r agenda. Mae'r swm yma bron yn ddwbl y blynyddoedd cynt ac yn £3.8m yn fwy na'r swm uwch sydd ar gael yn y setliad a byddai hyn gyfystyr â'r angen i gynyddu Treth y Cyngor o bron i 8%, fodd bynnag mae rhai arbedion ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |