Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Elizabeth Evans ynghyd â’r Aelodau
Cabinet canlynol, y Cynghorwyr Catrin Miles a Ray Quant. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Gorffennaf
2021 is-grŵp Tlodi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ar y cynnydd a wnaed
o ran y Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Ellen ap
Gwynn. Adroddodd fod Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi
2020-22 wedi ei chyhoeddi ym mis Awst 2020, yn olynydd i Strategaeth Brwydro yn
erbyn Tlodi Ceredigion 2016-20. Roedd
gan y Strategaeth dri amcan allweddol ac mae’r Cynllun Gweithredu yn cynnwys 65
cam gweithredu i’w cyflawni gan amrywiaeth o bartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus (BGC). Roedd y Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi yn
cael ei monitro gan Is-grŵp Tlodi BGC Ceredigion, a oedd yn cyfarfod
bedair gwaith y flwyddyn. Mae'r adroddiad yn dangos cynnydd o ran cyflawni'r
strategaeth, yn ogystal â'r camau nesaf arfaethedig ac mae’r rhain wedi’u nodi
isod: 1.Byddai Is-grŵp Tlodi'r BGC yn parhau i
ddatblygu'r dangosfyrddau data i sicrhau
dealltwriaeth cyffredin o effaith esblygol COVID-19 ar galedi yng Ngheredigion
drwy gasglu a dadansoddi data. 2. Roedd angen adolygu'r
rhestr o bartneriaid sy'n cyfrannu.
Roedd cyfleoedd i gydweithio â mwy o asiantaethau partner, er mwyn
hyrwyddo a manteisio ar yr holl gymorth a’r holl help sydd ar gael. 3.Roedd y Cynllun Gweithredu yn ddogfen fyw a oedd
wedi'i chynllunio i gael ei diweddaru yn ystod oes y Strategaeth Mynd i’r Afael
â Chaledi. Roedd rhai partneriaid sy'n cyfrannu wedi cwblhau eu camau
gweithredu tra bo camau gweithredu eraill yn dal i fynd rhagddynt. Byddai’r
Cynllun Gweithredu yn cael ei adolygu i sicrhau bod y partneriaid yn
cydweithio'n effeithiol i gryfhau cydnerthedd
unigolion a chymunedau ac addasu i effaith COVID-19. 4. Nid yw'r fframwaith a sefydlwyd i fonitro'r
gwaith o gyflawni'r Strategaeth Mynd i’r Afael â Chaledi yn cynnwys modd i
bartneriaid dynnu sylw at faterion penodol sy'n peri pryder – yn arbennig, y
materion hynny y mae’n bosibl y gallai’r BGC fynd i'r afael â hwy'n effeithiol
ar sail amlasiantaethol. Byddai’r fframwaith monitro
yn cael ei addasu er mwyn iddo gynnwys ffordd glir o nodi’n rhagweithiol y
materion penodol sy'n peri pryder ac y gall darparwyr cymorth, dinasyddion ac
aelodau is-grŵp y BGC eu codi. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i wneud y
canlynol: (i) nodi’r
cynnydd a wnaethpwyd tuag at gyflawni tri amcan Strategaeth Mynd i’r Afael â
Chaledi Ceredigion a chefnogi’r ‘camau nesaf’ a gyflwynwyd; a (ii) diolch i
Gydgysylltydd Teuluoedd yn Gyntaf a Ffoaduriaid am ei gwaith ar y strategaeth
hon |
|
Siarad, Gwrando a Gweithio gyda’n Gilydd - fersiwn ddrafft y Polisi Ymgysylltu PDF 1 MB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad ar ‘Siarad,
Gwrando a Gweithio gyda’n Gilydd’ - fersiwn ddrafft Polisi Ymgysylltu Cyngor
Sir Ceredigion. Adroddodd yr Arweinydd,
y Cynghorydd Ellen ap Gwynn fod y polisi yn amlinellu’r ymagwedd gorfforaethol
at ymgysylltu â phobl Ceredigion. Wrth sôn am ymgysylltu, adroddwyd am y ffyrdd y
mae’r Cyngor yn gwneud y canlynol - ·
Rhoi gwybod. Rhoi gwybodaeth
gytbwys a gwrthrychol i’r cyhoedd. ·
Ymgynghori. Cael adborth y
cyhoedd ynghylch cynigion. ·
Cynnwys. Gweithio’n
uniongyrchol â’r cyhoedd drwy gydol y broses, er mwyn sicrhau cysondeb o ran
deall ac ystyried pryderon a dyheadau’r cyhoedd. ·
Cydweithio. Gweithio law yn
llaw â’r cyhoedd ym mhob agwedd ar benderfyniad neu ym mhob agwedd ar y modd y
darperir y gwasanaeth, gan gynnwys diffinio’r broblem, datblygu dewisiadau
eraill a nodi a darparu’r atebion a ffefrir. ·
Galluogi. Edrych am ffyrdd o
roi camau terfynol y broses benderfynu a darparu gwasanaeth yn nwylo’r cyhoedd
- dirprwyo. Mae’r polisi yn cynnwys dulliau arloesol o
ymgysylltu, gan gynnwys defnyddio platfformau ymgysylltu ar-lein. Mae’r polisi
yn cynnwys pecyn cymorth o adnoddau a thechnegau. Mae’r polisi hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu
sy’n amlinellu gwell rheolaeth gorfforaethol a gwell rheolaeth ar ymgysylltu ac
atebolrwydd, er enghraifft drwy amserlen ymgysylltu gorfforaethol ac
adroddiadau blynyddol. Adroddodd y Swyddog Ymgysylltu a Chydraddoldeb fod
y Polisi Ymgysylltu â’r Gymuned sydd gennym ar hyn o bryd yn dyddio’n ôl i 2012
a bod angen polisi newydd yn lle hwnnw, a fydd yn ystyried dulliau newydd o
ymgysylltu, ac a fydd hefyd yn ystyried deddfwriaeth a chanllawiau diweddar. Yn
ogystal â hynny, roedd angen rhoi ystyriaeth i’r defnydd cynyddol o ymgysylltu
digidol. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD ar y
canlynol:- (i) derbyn a chymeradwyo ‘Siarad, Gwrando a Gweithio gyda’n Gilydd’, sef fersiwn
ddrafft Polisi Ymgysylltu Cyngor Sir Ceredigion cyn mynd allan i ymgynghoriad
cyhoeddus yn ystod gaeaf 2021-22; a (ii) nodi y byddai’r adroddiad yn cael ei
gyflwyno i’r Cabinet ar 2 Tachwedd 2021. |
|
Diweddariad ar y Gwasanaeth CLIC PDF 479 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad a oedd yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â’r Gwasanaeth Clic. Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet,
y Cynghorydd Dafydd Edwards, ynghyd â Rheolwr Corfforaethol – Clic a’r Rheolwr
Gwasanaethau Cwsmeriaid. Adroddwyd bod y
gwasanaeth CLIC yn cynnwys y Ganolfan Gyswllt
Gorfforaethol, Ystafell y Post Corfforaethol, Cyswllt Uniongyrchol (Wyneb yn
Wyneb), Tîm y Bathodyn Glas a’r Llyfrgelloedd. Dywedwyd wrth yr Aelodau i’r Ganolfan Gyswllt (CLIC) ddechrau cymryd
galwadau ym mis Medi 2017 ac erbyn hyn roedd yn darparu’r gwasanaeth cyswllt
cychwynnol i bron bob un o’r meysydd gwasanaeth. Yn ystod y misoedd nesaf, byddai’r maes gwasanaeth olaf, Gofal
Cymdeithasol, yn cael ei drosglwyddo i CLIC drwy’r Rhaglen Gydol Oes a
Llesiant, gan sicrhau mai CLIC fyddai’r pwynt cyswllt cyntaf i’r holl
wasanaethau. Roedd dwy garfan o staff y
Gwasanaethau Cwsmeriaid wedi dilyn hyfforddiant i baratoi ar gyfer cyflwyno
galwadau Gofal Cymdeithasol yn unol â’r Rhaglen Gydol Oes a Llesiant. Roedd Cyswllt Cwsmeriaid hefyd wedi ymwneud â
datblygu’r ffurflenni cyswllt cychwynnol a fyddai, maes o law, yn cael eu
defnyddio gan staff i ymdrin ag ymholiadau Gofal Cymdeithasol. Adroddwyd bod tîm y Ganolfan Gyswllt wedi bod yn gweithio’n gyfan gwbl o
gartref, ers dechrau’r pandemig a’r cyfnod clo
cyntaf, 23 Mawrth 2020, gan weithredu gwasanaeth llawn gydag ychydig iawn o newid i oriau neu
ddyletswyddau. Roedd y Tîm hefyd wedi darparu oriau ychwanegol o wasanaeth, yn ystod penwythnos y Pasg yn 2020 ac wedi cefnogi’r
gwasanaethau etholiadol yn ystod etholiadau Llywodraeth Cymru ac etholiadau
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2021, gan gynnig gwasanaeth dros y
ffôn rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod yr etholiadau. Yn ogystal â darparu
cymorth dros y ffôn, mae’r tîm hefyd yn derbyn taliadau, yn rheoli blychau post
corfforaethol ac yn darparu gwasanaeth ychwanegol sy’n cynnig gwybodaeth am COVID-19. Mae’r
gwasanaeth wedi profi llawer o gyfnodau heriol oherwydd prinder staff a rhai
problemau technegol ond mae bob amser yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth o safon uchel
i’r cwsmeriaid. Cyflwynwyd yr wybodaeth ganlynol a oedd yn
seiliedig ar ymholiadau a dderbyniwyd rhwng 01/09/2020 a 31/08/2021. Cyfanswm y galwadau a dderbyniwyd = 113,203 Saesneg Cymraeg Cyfanswm Medi-20 8820 1549 10369 Hydref-20 8667 1527 10194 Tachwedd-20 7478 1277 8755 Rhagfyr-20 5530 887 6417 Ionawr-21 8106 1405 9511 Chwefror-21 7483 1335 8818 Mawrth-21 9509 1755 11264 Ebrill-21 8236 1513 9749 Mai-21 7517 1379 8896 Mehefin-21 8419 1399 9818 Gorffennaf-21 8389 1453 9842 Awst-21 8191 1379 9570 Cyfanswm 96,345 16,858 Cyfanswm y ddwy iaith 113,203 Galwadau y rhoddwyd y gorau iddynt = Saesneg 4% /
Cymraeg 1% • Cyfanswm
yr e-byst a dderbyniwyd = 17,980 • Cyfanswm
yr ymholiadau a gofnodwyd = 68,698 O ran Ymholiadau CLIC (Rheoli Cofnodion
Cwsmeriaid) nodwyd bod gan y system 79 categori
gwahanol (fe’u diffinnir yn feysydd gwasanaeth) a 407
isgategori.
Roedd galwadau/ymholiadau yn cael eu cofnodi ar y system Rheoli Cofnodion
Cwsmeriaid (CRM) er mwyn sicrhau bod cofnod o unrhyw gyswllt â chwsmeriaid.
Roedd pob ymholiad yn cael rhif cyfeirnod.
Cyflwynwyd dadansoddiad o’r ymholiadau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Adroddiad Safonau Llyfrgelloedd PDF 980 KB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar Safonau
Llyfrgelloedd. Nodwyd bod yn rhaid i’r
Llyfrgell adrodd i Lywodraeth Cymru unwaith y flwyddyn ar safonau Llyfrgelloedd
Cyhoeddus Cymru. Yr adroddiad dan sylw
oedd yr adroddiad a oedd wedi ei lunio ar gyfer 2019/20. CYTUNWYD i dderbyn yr adroddiad. . |
|
Adroddiad ar Ystadegau 2020 Uwch Grwner Ceredigion PDF 2 MB Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad ar Ystadegau Uwch
Grwner Ceredigion 2020. Nodwyd bod adroddiad ar farwolaethau a adroddwyd i
Grwner Ceredigion yn cael ei baratoi’n flynyddol gan yr Uwch Grwner (‘Adroddiad
Ystadegau’) ac yn cael ei anfon i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn ei gyhoeddi
fel rhan o Ystadegau’r Crwner ar wefan Llywodraeth y DU. Dywedwyd bod Adroddiad y Prif Grwner i’r Arglwydd
Ganghellor yn cynnwys glasbrint
Model y Crwner. Mae hwn yn argymell y dylai’r Uwch Grwner gyflwyno adroddiad
blynyddol byr hefyd i’r Prif Grwner a’r Cyngor bob mis Gorffennaf a dylid ei
gyhoeddi ar wefan y Cyngor gan gynnwys ystadegau perthnasol ar yr achosion
cyfredol/ achosion sydd wedi cau (gyda ffigyrau i gymharu â blynyddoedd
blaenorol), diweddariad ar waith y Crwner a materion perthnasol, crynodeb am
dîm y Crwner a threfniadau staffio ac unrhyw gynlluniau i’r dyfodol. Nid oes
Adroddiad o’r fath wedi ei ddarparu i’r Cyngor. Adroddwyd bod yr Adroddiad ar Ystadegau yn cynnwys gwybodaeth
berthnasol parthed gwasanaethau Crwner Ceredigion er mwyn sicrhau tryloywder
i’r cyhoedd. Gan fod yr Ystadegau Gwladol bellach wedi eu cyhoeddi cyflwynwyd
yr Adroddiad ar Ystadegau i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau
Corfforaethol. Nododd y Swyddog Llywodraethu yr argymhellir y dylid
cyhoeddi’r Adroddiad ar Ystadegau’n flynyddol ar dudalen Gwasanaethau’r Crwner
ar wefan y Cyngor, ar ôl i’r Pwyllgor ystyried yr Adroddiad ar Ystadegau (gan
fod yn ofalus i beidio â chyhoeddi’r Adroddiad cyn i’r Ystadegau Cenedlaethol
gael eu cyhoeddi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder). Hysbyswyd Uwch Grwner
Ceredigion a Gwasanaethau Dadansoddi Ystadegau Cyfiawnder / Cyfiawnder Sifil a
Gweinyddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder am y cynnig hwn. Estynnwyd gwahoddiad i Uwch Grwner Ceredigion gyflwyno Adroddiad i’r Cyngor
a/neu ddarparu sylwadau/ testun ychwanegol ac roedd wedi cadarnhau yn sgil y
llwyth gwaith cyfredol, argaeledd i eistedd mewn llys a swydd wag (sydd bellach
wedi ei llenwi) nad oedd modd iddo baratoi yr adroddiad blynyddol eleni.
Gobeithir y bydd y Crwner yn medru darparu Adroddiad blynyddol y
flwyddyn nesaf. Yn dilyn cwestiynau o’r llawr, CYTUNWYD i wneud y
canlynol:- (i) nodi cynnwys Adroddiad
Ystadegol 2020 Uwch Grwner Ceredigion; a (ii) sicrhau bod fersiwn wedi’i golygu o’r cyhoeddiad blynyddol sef
Adroddiad Ystadegol Uwch Grwner Ceredigion yn cael ei rhoi ar wefan y Cyngor
(ar dudalen Gwasanaethau’r Crwner). |
|
Cofnodion: Cytunwyd ar y Flaenraglen Waith fel y’i
cyflwynwyd ond bod angen nodi y byddai’r grŵp Gorchwyl a Gorffen yn
ystyried Ffermydd y Sir ymhellach ym mis Ionawr 2022, gan fod gwasanaeth yr
ystadau yn methu cyflwyno adroddiad cyn hyn, oherwydd blaenoriaethau eraill o
ran gwaith. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 07 Gorffennaf 2021. |