Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd
y Cynghorydd John Roberts am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd
y Cynghorydd Wyn Evans y byddai’n gadael y cyfarfod yn gynnar. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio). |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim. |
|
Cefnogaeth Gorfodaeth Cynllunio Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Clive Davies (Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio) yr
adroddiad ar ofynion adnoddau cymorth ychwanegol y gwasanaeth gorfodaeth.
Eglurodd fod y Gwasanaeth Gorfodi’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi bod yn ei
chael hi’n anodd ers peth amser. Yn y gorffennol, roedd ymdrechion recriwtio
wedi bod yn aflwyddiannus a defnyddiwyd rolau cyfunol ar draws y tîm Rheoli
Datblygu a Gorfodi er mwyn llenwi’r swyddi gwag hyn. Yn anffodus, yn sgìl y
llwyth gwaith uchel o achosion o fewn Rheoli Datblygu a natur arbenigol, hynod
gyfreithiol gorfodi, roedd y sefyllfa wedi gwaethygu. Gwnaeth Archwilio Cymru
dynnu sylw’r awdurdod lleol at hyn yn 2021 ac eto yn 2023. Roedd sicrhau
cefnogaeth trydydd parti ychwanegol drwy ymgynghorwyr wedi profi i fod yn
ddi-ffrwyth, gyda chostau'n uchel ac achosion wedi cau'n isel. Ar 12/4/24
(dechrau gwaith Gorchwyl a Gorffen), roedd llwyth gwaith achosion yn 432 achos,
i lawr o uchafswm o dros 600 yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Ar ben hynny,
roedd tua 250 o ymholiadau i ‘clic’ angen ymateb. Ym mlwyddyn ariannol
2023/2024, agorodd y gwasanaeth gorfodi 116 o achosion ac yn ystod yr un cyfnod
daeth 220 o achosion i ben. Trafodwyd yr angen i gefnogi'r gwasanaeth gorfodi
yng ngrŵp Gorchwyl a Gorffen ehangach y Gwasanaeth Cynllunio a weithredwyd
wedi adolygiad Archwilio Cymru. Roedd aelodau a swyddogion yn y grŵp hwnnw
o'r farn bod angen adnoddau ychwanegol er mwyn sicrhau bod gwasanaeth gorfodi
effeithiol yn cael ei ddarparu. Amlygwyd bod y
gwaith o adeiladu tai yn cefnogi 434 o swyddi yn lleol yn uniongyrchol ac yn
cyfrannu dros £280,000 mewn treth gyngor ychwanegol y flwyddyn a £1.7 miliwn
ychwanegol mewn gwariant cartrefi mewn manwerthu a hamdden yn yr economi leol. Rhoddodd Dr Sarah
Groves-Phillips, Rheolwr Corfforaethol drosolwg o’r 4 opsiwn fel yr amlinellwyd
yn yr adroddiad: · Platinwm - Dull a Ganiateir Heb Doriadau · Aur - Gwasanaeth Gorfodi Rhagweithiol · Arian - Gwasanaeth Gorfodi pwrpasol · Efydd - Y Gwasanaeth Gorfodi o fewn y
gyllideb (cyllideb a chapasiti presennol) Wrth ystyried yr
opsiynau a nodir uchod, dywedodd y Swyddog ei bod yn bwysig cofio fod recriwtio
pobl i rolau gorfodi yn anodd a bod hyn yn cael ei gydnabod yn genedlaethol.
Amlinellwyd y risgiau o beidio â darparu adnoddau digonol ar gyfer y
gwasanaeth. Cafodd yr aelodau
gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Swyddogion a’r Cynghorydd Clive
Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Dywedwyd bod dyletswydd statudol i
ddarparu gwasanaeth gorfodi ond nad oedd dim deddfwriaeth ar waith a oedd yn
nodi lefel y gwasanaeth a oedd angen ei darparu. Er bod y gwasanaeth wedi’i
ddirprwyo i’r Swyddogion, awgrymwyd y dylai’r achosion gael eu rhannu â’r
Aelodau fel y gallent roi eu hadborth. Roedd nifer o’r Aelodau’n teimlo’n gryf
ei bod yn bryd buddsoddi yn y gwasanaeth o gofio’r
effaith bosibl ar enw da a gwasanaethau’r Cyngor. Yn hanesyddol, roedd y
gwasanaeth gorfodi ymhlith y 10 awdurdod lleol a oedd yn perfformio waethaf yng
Nghymru. · Esboniodd y Swyddogion fod ffigurau’r adroddiad yn seiliedig ar ffigurau gros, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Gorchymyn Arfaethedig Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd Cyngor Ceredigion 2025 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a’r Gwasanaethau
Amgylcheddol a Rheoli Carbon) yr adroddiad ar ymatebion i’r broses ymgynghori i
gynigion a gyflwynwyd i fodloni gofyniad incwm ychwanegol cyllideb gymeradwy y
Cyngor o feysydd parcio Talu ac Arddangos Oddi ar y Stryd. Eglurodd fod y
cynigion yn ymwneud â Llefydd Parcio a reolir dan nawdd Gorchmynion Llefydd
Parcio Oddi ar y Stryd Cyngor Sir Ceredigion wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor ar
11/07/2024 a’r Cabinet ar 03/09/2024. Yn dilyn penderfyniad y Cabinet i
ddiwygio’r cynigion i gynnwys eithrio Deiliaid Bathodyn Glas rhag talu costau
parcio Talu ac Arddangos, a oedd yn cynnwys diwygio’r strwythur codi tâl
arfaethedig i ychwanegu 50c ychwanegol at bob tariff, roedd y cynigion
diwygiedig yn ddarostyngedig i’r broses ymgynghori a ragnodir ar gyfer
Gorchmynion Rheoleiddio Traffig. Roedd hyn yn cynnwys cyfnod ymgynghori
ffurfiol rhwng 19/09/2024 a 11/10/2024 lle cafodd Ymgynghorai Statudol y cyfle
i roi sylwadau ar y cynigion. Ar ôl ystyried yr ymatebion hynny mewn perthynas
â’r cynigion a gyflwynwyd, dilynwyd hyn gan gyfnod Rhybudd Cyhoeddus yn gwahodd
gwrthwynebiadau i gynigion rhwng 12/11/2024 a 04/12/2024. Rhoddodd Rhodri
Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol gyflwyniad i'r Pwyllgor yn amlinellu'r
canlynol: · Cefndir · Crynodeb o'r Cynigion · Argymhellion Craffu · Ymgynghoriad · Ystyriaethau · Ystyriaethau posibl i'r Pwyllgor Cafodd yr aelodau
gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Swyddogion a’r Cynghorydd Keith
Henson. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Roedd yr Aelodau’n cefnogi’r strwythur
codi tâl arfaethedig ar gyfer Meysydd Parcio Talu ac Arddangos Oddi ar y Stryd
y Cyngor a oedd yn seiliedig ar ddau barth gwahanol (Mewndir Ceredigion ac
Arfordir Ceredigion) gan fod gwahaniaeth mawr rhwng gwahanol ardaloedd. · Yn hanesyddol, roedd maes parcio Pendre ar
gyfer deiliaid trwyddedau yn unig, ond yn ystod Covid-19, ni roddwyd
trwyddedau. Nid oedd y trefniant hanesyddol wedi’i adfer hyd yma ond byddai’r
Cabinet yn gwneud penderfyniad ar 21.01.25. Yn hanesyddol, maes parcio talu ac
arddangos oedd maes parcio Rhes Gloster. · Awgrymodd yr Aelodau y dylid ystyried
nifer o opsiynau a chael sgwrs â Theatr Mwldan,
Aberteifi ynglŷn â’r posibilrwydd o roi cynllun ar waith a fyddai’n cynnig
pris gostyngol am barcio i’r rheiny sy’n defnyddio’r theatr; trefniant a
fyddai’n debyg i’r un a geir yn archfarchnad Sainsbury’s
yn Llanbedr Pont Steffan. Ar hyn o bryd, gallai’r cyhoedd brynu tocynnau tymor
ar gyfer maes parcio’r Baddondy a byddai’r cynnig hwn yn parhau. CYTUNWYD i nodi
cynnwys yr ymgynghoriad cyhoeddus, ystyried y cynigion ar gyfer y strwythur
codi tâl a meysydd parcio Pendre a Rhes Gloster /
Llew Coch yn seiliedig ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ac i gefnogi’r pecyn o
gynigion a gyflwynwyd. |
|
Cynigion ynghylch Codi Tâl am Barcio ar y Stryd - Promenâd Aberystwyth Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Eglurodd y Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a’r
Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon) mai pwrpas yr adroddiad oedd i adrodd
ar ymatebion i’r broses ymgynghori ar gynigion i godi tâl am barcio ar y stryd
ar hyd rhannau o bromenâd Aberystwyth yn unol â chais y Pwyllgor. Cafodd cynigion yn ymwneud â chynigion a gyflwynwyd yn unol â chyflwyno
tâl am barcio ar hyd y promenâd yn Aberystwyth eu cyflwyno i’r Pwyllgor ar
11/07/2024 a’r Cabinet ar 03/09/2024. Yn dilyn penderfyniad y Cabinet,
cynhaliwyd y cam ymgynghoriad ffurfiol rhwng 03/10/2024 a 25/10/2024 lle
gwahoddwyd yr Ymgyngoreion Statudol i roi sylwadau ar
y cynigion. Ar ôl ystyried yr ymatebion hynny mewn perthynas â'r cynigion a
gyflwynwyd, dilynwyd hyn gan gam yr Hysbysiad Cyhoeddus yn gwahodd
gwrthwynebiadau i’r cynigion rhwng 04/12/2024 a 27/12/2024. Rhoddodd Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol gyflwyniad i'r
Pwyllgor yn amlinellu'r canlynol: ·
Cefndir ·
Deddfwriaeth Alluogol ·
Y Cynnig ·
Yr Achos dros Newid- Manteision y Cynllun ·
Trefniadau o ran Deilliad Bathodynnau Glas ·
Strwythur Codi Tâl ·
Amseroedd a Lleoliadau Codi Tâl ·
Ymgynghoriad ·
Ystyriaethau ·
Argymhellion i'r Pwyllgor Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan
Swyddogion a’r Cynghorydd Keith Henson. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: ·
Codwyd pryderon fod cyfnod yr hysbysiad cyhoeddus yn
rhedeg dros gyfnod y Nadolig. Dywedodd y Swyddogion fod yr ymgynghoriad wedi
para am fwy na 3 wythnos. Nid oedd Prifysgol Aberystwyth yn un o’r ymgynghoreion statudol yn y cam ymgynghori ffurfiol. Fodd
bynnag, roedd modd i bawb ymateb i gyfnod yr hysbysiad cyhoeddus ac roedd
cyhoeddusrwydd eang wedi’i roi i hyn. ·
Awgrymodd yr Aelodau y gellid archwilio opsiynau yn
y dyfodol ar gyfer trwyddedau parcio oddi ar y stryd er mwyn cefnogi’r cymudwyr
yr oedd y cynnig yn effeithio arnynt. Codwyd pryderon y byddai nifer yn ceisio
dod o hyd i lefydd parcio am ddim yn y dref ac y byddai hyn yn cael effaith ar
lif y traffig yng nghanol y dref. Dywedwyd bod pris tocyn tymor wedi gostwng
o’r pris presennol i’r hyn a oedd yn cyfateb i ychydig o dan £25 y mis dros 12
mis. Roedd deiliaid y tocyn hwn yn medru parcio yn holl feysydd parcio oddi ar y stryd yr awdurdod
lleol ar draws y sir. ·
Roedd parcio i’r anabl yn rhad ac am ddim yn unol
â’r ddeddfwriaeth. ·
Dywedwyd bod perchennog gwesty wedi codi pryderon
ynglŷn â’r cynnig i godi tâl rhwng 8am a 8pm. Dywedodd y Swyddogion fod
hyn yn cael ei gynnig er mwyn hwyluso’r economi liw nos a sicrhau trosiant o
ran llefydd parcio. CYTUNWYD i nodi cynnwys yr ymgynghoriad cyhoeddus a chefnogi'r cynigion a gyflwynwyd. |
|
Trosolwg o'r materion ariannol yn ystod y flwyddyn Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Duncan Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol drosolwg o’r
Gyllideb Refeniw Rheoladwy 24/24 - Perfformiad Ariannol - Chwarter 2 a
gyflwynwyd i’r Cabinet ar 03.12.24. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, rhagwelwyd
gorwariant rhagamcanol am y flwyddyn o £313k ar y
Gyllideb Reoladwy’. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cynnwys rhai risgiau mewn
perthynas â chyflawni arbedion yn ystod y flwyddyn. Darparwyd trosolwg o'r canlynol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad:
O ran statws BRAG yr eitemau sy’n rhan o’r Gostyngiadau yng Nghyllideb
24/25, roedd gan ddwy eitem (eitem 36b - Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan ac
eitem 70 - Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir) statws coch adeg ysgrifennu’r
adroddiad. Ers hynny, roedd eitem 43 (taliadau am ofal heb fod mewn man
preswyl) wedi newid ei statws i goch am fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu
peidio â chynyddu’r cap wythnosol o £100 i £120. Yn sgil y penderfyniad hwn,
roedd grant gwerth £62,500 wedi dod i law oddi wrth Lywodraeth Cymru i
gefnogi’r awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rhoddwyd trosolwg o
Berfformiad y Gyllideb o ran Treth y Cyngor a Sefyllfa’r Gwasanaethau yn unol
â’r hyn oedd wedi’i gyflwyno yn yr adroddiad. Fel y dywedwyd mewn Gweithdy i’r
Aelodau yn ddiweddar, roedd yr awdurdod lleol wedi derbyn £3m yn ychwanegol
oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer amrywiol eitemau gan gynnwys pwysau o ran
cyflogau a chyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion. O safbwynt y Rhaglen Gyfalaf, roedd Ysgol Dyffryn Aeron wedi agor ei
drysau ar ddechrau mis Ionawr. Roedd dyddiad cwblhau Cynllun Amddiffyn yr Arfordir yn Aberaeron wedi’i ymestyn. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Duncan
Hall. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: ·
Dywedwyd mai cost yn ystod y flwyddyn oedd y
buddsoddiad yn y Gwasanaeth Casglu Gwastraff a bod hyn wedi’i ariannu o’r
cronfeydd wrth gefn. Byddai buddsoddiad hirdymor yn y gwasanaeth yn cael ei
ystyried yn ystod proses pennu cyllideb 25/26. ·
Roedd cyllid cyfalaf o dan Fenter Benthyca
Llywodraeth Leol ar gyfer gwella’r priffyrdd wedi’i gyhoeddi yng Nghyllideb
ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. Er nad oedd rhagor o fanylion wedi
dod i law, amcangyfrifwyd y byddai’r awdurdod lleol yn derbyn £2.3m. CYTUNWYD i nodi’r adroddiad ac yn craffu ar y wybodaeth a ddarperir fel y
mae’n ei ystyried yn briodol ac yn berthnasol i’r meysydd o fewn ei gylch
gwaith. |
|
Adroddiad ar yr ymweliad â Chynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron Cofnodion: Rhoddwyd
ystyriaeth i'r adborth yn dilyn ymweliad y Pwyllgor â Chynllun Amddiffyn
Arfordir Aberaeron ar 29 Tachwedd 2024. Diolchodd
Aelodau’r Pwyllgor i’r Swyddogion a'r Contractwyr am ymweliad addysgiadol â’r
safle. Diolchodd y
Cynghorydd Elizabeth Evans, yr Aelod Lleol dros Aberaeron ac Aberarth i’r Pwyllgor am ymweld â’r safle a
dywedodd y byddai’n trafod unrhyw newidiadau arfaethedig i’r cynllun â’r
Swyddogion perthnasol. Dywedodd Rhodri
Llwyd, y Swyddog Arweiniol Corfforaethol fod datganiad i’r wasg wedi’i
gyhoeddi’n ddiweddar a oedd yn nodi’r dyddiadau cwblhau diwygiedig ac
ychwanegodd fod y trafodaethau rhwng y Swyddogion a’r Contractwyr ynglŷn
â’r cynllun a’r contract yn parhau. CYTUNWYD i nodi’r
adroddiad. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i
gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2024. Materion sy’n
codi: Dim. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD nodi
cynnwys y Flaen raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol: ·
Diweddariad ar Orchymyn Arfaethedig Llefydd Parcio
Oddi ar y Stryd Cyngor Sir Ceredigion 2025 yn dilyn gweithredu ·
Diweddariad ar y Cynigion ynghylch Codi Tâl am
Barcio ar y Stryd - Promenâd Aberystwyth yn dilyn gweithredu |