Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorydd Sian
Maehrlein am nad oedd yn gallu bod yn
bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio). |
|
Cynnydd o ran cyflawni'r Strategaeth Economaidd Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
Clive Davies, yr Aelod
Cabinet, wybodaeth am y cefndir,
y camau gweithredu a oedd wedi’u rhoi
ar waith yn y Strategaeth a’r meysydd ffocws
ar gyfer y dyfodol fel yr
amlinellwyd hwy yn yr adroddiad
gan gynnwys yr heriau o ran y 4 maes ymyrraeth (Pobl, Lleoedd, Menter a Chysylltedd) yn y Strategaeth Economaidd. Dywedwyd bod y data ynghylch cysylltedd yn y sir wedi gwella
ers i'r adroddiad
gael ei ysgrifennu.
Gofynnodd yr Aelodau
nifer o gwestiynau am faterion a oedd o ddiddordeb iddynt. Atebwyd y cwestiynau hyn gan y Cynghorydd Clive Davies and Arwyn Davies. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn: · Codwyd pryderon ynghylch a fyddai’r cyllid cyfalaf i ardaloedd gwledig
ar ffurf grantiau oddi wrth
Lywodraeth Cymru yn parhau ar yr
un lefel â’r blynyddoedd diwethaf o ystyried yr hinsawdd
economaidd bresennol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi lansio Cronfa
Arloesi Arfor yn ddiweddar ond
nid oedd y cyllid wedi’i ryddhau
eto. Cydnabuwyd llwyddiant Cynghorau Ceredigion a
Phowys o ran sicrhau Cytundeb y Fargen Lawn ar gyfer rhaglen
buddsoddi cyfalaf a fyddai gwerth £110m. ·
Roedd gwaith yn parhau
yn Llanbedr Pont Steffan a
Llandysul i ailddefnyddio
asedau canol tref at ddibenion economaidd a gwella’r seilwaith gwyrdd. · Ystyriwyd bod y prosiect a oedd yn caniatáu
i gwmnïau sefydlu mentrau dros dro mewn
siopau gwag yn bwysig i
fusnesau annibynnol newydd. Y gobaith oedd y byddai’r prosiect hwn yn
cael ei ehangu
y tu hwnt i Aberystwyth. ·
Roedd angen gwneud gwaith
i ddatblygu canol y trefi, yn enwedig canol tref Aberystwyth, yn fannau aml-bwrpas. Dylid ystyried cyflwyno eithriadau o ran talu ardrethi annomestig
fel ffordd o ddenu busnesau i ganol y trefi. ·
Roedd yr adran yn
gweithio’n galed wrth ymgeisio am grantiau gan wneud
hynny weithiau o fewn amserlenni byr iawn. Roedd
yn allweddol bwysig sicrhau bod unrhyw gyllid grant yn berthnasol i’r
Strategaeth Economaidd. ·
Dywedwyd bod rhaglen Helix Canolfan Bwyd Cymru ar hyn
o bryd ar ail flwyddyn contract 3 blynedd gyda Llywodraeth Cymru. Roedd y Ganolfan yn un o dair canolfan
yng Nghymru. Awgrymwyd cynnal diwrnod agored i’r cyhoedd a busnesau. · Yn dilyn pryderon ynghylch cysylltedd yn y sir, nodwyd bod gan 88% o eiddo/adeiladau
fand eang â chyflymder o fwy na 30Mb ond
roedd y sir yn parhau i fod
ar ei hôl
hi o gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru.
Roedd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiadau
marchnad agored er mwyn deall y sefyllfa
bresennol felly roedd y
broses o gyflwyno cysylltiad
ffeibr i’r adeilad wedi arafu
ychydig. Roedd croeso i’r Aelodau
gysylltu â’r Aelod Cabinet neu swyddogion os oedd ganddynt
unrhyw gwestiynau. ·
Adeg y cyfarfod, roedd swydd y Swyddog Datblygu Trefi yn wag. · Wrth ymateb i awgrymiadau y gellid gosod finyl ar ffenestri siopau gwag, dywedwyd bod cyfleoedd o dan y Rhaglen Trawsnewid Trefi i ymgeisio am grantiau i wella adeiladau. Anogwyd yr Aelodau a oedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Gwywiad Coed Ynn - Diweddariad er gwybodaeth Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y Cynghorydd Keith
Henson, yr Aelod Cabinet, at ddiben yr adroddiad, y rheswm yr oedd y Pwyllgor
Craffu wedi gofyn am y wybodaeth a'r cefndir a oedd wedi’i gynnwys yn yr
adroddiad. Roedd yn bwysig ystyried y diffyg adnoddau a deall y gost ychwanegol
a’r holl waith fyddai angen ei wneud i sicrhau diogelwch y dinasyddion. Esboniodd Phil Jones fod y
swyddogion wedi ymchwilio i weld a fyddai modd gwneud y gwaith hwn yn fewnol a
defnyddio’r sgil-gynnyrch i fwydo biomas yr Awdurdod. Cyfeiriwyd at y tri
atodiad a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd bod Gwywiad Coed Ynn yn
fater corfforaethol. Roedd y Cyngor yn delio â’r mater drwy flaenoriaethu ar
sail risg. Ers dechrau archwilio
asedau’r Cyngor ar sail blaenoriaeth, daethpwyd i’r casgliad nad oedd maint y
broblem ar y tir yr oedd y cyngor berchen arno gynddrwg â’r hyn a ragwelwyd yn
y lle cyntaf. Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau am
faterion a oedd o ddiddordeb iddynt. Atebwyd y cwestiynau hyn gan Phil
Jones, Norman Birch a Rhodri Llwyd. Roedd y prif
bwyntiau a godwyd fel a ganlyn: ·
Yn y lle cyntaf, bwriad rhaglen y prosiect oedd
gwneud y gwaith dros gyfnod o 10 mlynedd gan wneud rhan fwyaf y gwaith rhwng y
drydedd a’r chweched flwyddyn. Yn ddibynnol ar y gyllideb a’r contractwyr a
fyddai ar gael, y gobaith oedd y byddai modd cwblhau’r gwaith yn gynharach ond
byddai’r gwaith o ddelio â’r clefyd a drosglwyddir drwy’r awyr yn parhau. ·
Roedd rhan fwyaf y coed wrth ymyl y priffyrdd a’r
hawliau tramwy cyhoeddus ym mherchnogaeth perchnogion y tir. Nhw felly oedd yn
gyfrifol am archwilio’r coed. Wrth gynnal archwiliadau, os byddai swyddog yn
ystyried bod coeden ar dir, nad oedd yr awdurdod yn berchen arno, yn anniogel,
byddai Hysbysiad Adran 154, Deddf y Priffyrdd yn cael ei roi i’r perchennog
tir. Yn sgil hynny, byddai angen i’r perchennog tir hurio contractwyr o fewn 14
diwrnod. Byddai modd i’r Awdurdod gynorthwyo â’r broses honno, pe byddai angen. ·
O ran blaenoriaeth, roedd y coed yn cael eu rhoi
mewn 4 dosbarth yn ddibynnol ar y graddau yr oeddent wedi dirywio. Byddai
hysbysiadau i berchnogion coed yn nosbarth 4 yn cael eu blaenoriaethu. Byddai
rhai coed yn Nosbarth 1 a 2 yn gwrthsefyll y clefyd ac yn goroesi. Roedd hyn yn
bwysig o ran cadw coed cynhenid. ·
Pe byddai gorchymyn cadw coed ar waith, byddai
angen cyflwyno hysbysiad ynghylch gwneud cais am gwympo coeden. ·
Codwyd pryderon nad oedd dim ymgynghori wedi bod
â’r sector amaethyddol yng Ngheredigion o ran cynorthwyo â’r gwaith o dorri
coed mewn cyfnewid am y naddion pren. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch arbedion
maint gan fod y gofynion o ran cwympo coed unigol yn wahanol iawn i’r gofynion
o ran cyflawni’r gwaith yng nghyswllt coedwig. ·
Teimlai’r Aelodau na fyddai'n gwneud synnwyr
busnes cyflawni’r gwaith yn fewnol er y byddai hynny’n golygu yn yr hirdymor y
byddai’r cyfarpar ym meddiant yr awdurdod. · Er mwyn sicrhau bod gan bawb y cyfle i dendro am y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cynllun Gweithredu Sero Net - diweddariad ar y cynnydd Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorydd Keith Henson, yr Aelod Cabinet, mai diben yr adroddiad oedd rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran y camau a
oedd wedi’u nodi yn y Cynllun Gweithredu Sero Net. Cyfeiriwyd at y cefndir fel
yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Esboniodd Bethan Lloyd Davies fod adroddiadau yn cael eu
paratoi fel rhan o’r Cynllun Rheoli Carbon ers 2017/18. Yn 2021/22, roedd
ffynonellau ychwanegol ar gyfer allyriadau wedi cael eu hychwanegu ac felly
roedd angen gwneud llawer o waith cyn adrodd ar yr allyriadau yn y dyfodol. Rhoddwyd
y cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau. Atebwyd y cwestiynau hyn gan Bethan Lloyd
Davies a Rhodri Llwyd. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn: ·
Cododd yr Aelodau bryderon nad oedd gan y grid
ddigon o gapasiti i wasanaethu’r sir a
chefnogi ymrwymiad yr Awdurdod i fod yn Sero Net erbyn 2030. Dywedwyd bod y
mater hwn yn cael ei godi’n aml mewn cyfarfodydd a bod awdurdodau cyfagos yn ei
godi hefyd. Roedd National Grid a Scottish Power yn eistedd ar fyrddau a oedd
yn llunio cynlluniau ynni lleol. Serch hynny, prin oedd eu cyllidebau a byddent
yn buddsoddi yn y mannau lle ystyrir bod angen gwneud hynny. ·
Er bod gweithwyr yn teithio llai i’r gwaith am eu
bod yn gweithio gartref, codwyd pryderon y byddai angen gwresogi mwy o gartrefi
yn ystod y dydd yn nhymor y gaeaf. Dywedwyd bod yr allyriadau o weithio gartref
yn cael eu hystyried yn Adroddiadau Allyriadau Llywodraeth Cymru. ·
Roedd y trydan a oedd yn dod o’r paneli solar a
osodwyd ar adeiladau’r Cyngor yn cael ei ddefnyddio gan yr adeiladau yn y lle
cyntaf ac roedd gweddill y trydan yn cael ei anfon i’r grid. Os oedd yna daliad
Tariff Cyflenwi Trydan ynghlwm, roedd y taliadau’n cael eu gwneud yn ganolog
i’r awdurdod. Yn gyffredinol, roedd yn cymryd 10 mlynedd i adennill yr arian a
fuddsoddwyd ynddo. ·
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad
rheoli tir ynghylch Canolfan Rheidol ac Ysgol Bro Teifi; nid oedd y
canfyddiadau wedi dod i law hyd yma. Byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi maes o
law i fatris er mwyn storio’r ynni a oedd dros ben. ·
Nodwyd bod y bwriad o ddod yn Sero Net erbyn 2030
yn uchelgeisiol o ystyried y sefyllfa ariannol. Ar hyn o bryd, ni fyddai
Llywodraeth Cymru yn cosbi’r awdurdod am beidio â chyrraedd Sero Net erbyn
2030, ond dyma oedd yr amcan yn genedlaethol ar gyfer cyrff yn y sector
cyhoeddus. ·
O ran fflyd yr awdurdod, byddai’r posibilrwydd o
drosi’r cerbydau i rai a oedd yn defnyddio Olew Llysiau wedi’i drin â dŵr (HVO),
a oedd yn ddrutach, yn cael ei archwilio ynghyd â hydrogen. Nodwyd bod HVO 20%
yn well na disel ar y cyfan ond fel yr oedd pethau, o ddefnyddio methodoleg
Llywodraeth Cymru, byddai hyn yn arwain at welliant bach yn y ffigurau yn unig. · Dywedwyd y byddai plannu coed yn cael ei ystyried yn yr hirdymor i wrthbwyso carbon ac am bob coeden a fyddai’n ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf
2022 yn gywir. Materion yn
codi: ·
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans ei fod yn bresennol
yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022 a gofynnodd am ychwanegu ei enw at fersiwn Gymraeg y cofnodion. · Esboniodd y Cadeirydd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi anfon llythyr yn ôl yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022; roedd copi o’r llythyr wedi’i anfon at aelodau’r pwyllgor cyn y cyfarfod heddiw. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd nodi cynnwys
y Flaen raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar
gynnwys y canlynol: ·
Cyfarfod dilynol gyda Chyfoeth
Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ynglŷn â’r ffosffadau ·
Adroddiad am yr angen i
nodi mannau y gellid eu hail-agor megis
rheilffyrdd nad ydynt yn cael
eu defnyddio · Diweddariad am gynnydd – Gwaith Rheoli Datblygu a Gorfodi (yn dilyn cyfarfodydd y gyllideb) |