Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Mercher, 27ain Gorffennaf, 2022 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynhadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Carl Worrall am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Chris James fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 3 a gadawodd y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod.

3.

Strategaeth gwefru cerbydau trydan a cynllun gweithredu Ceredigion pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet, mai’r argymhelliad gan Grŵp Rheoli Carbon a Newid Hinsawdd Cyngor Sir Ceredigion (20/06/2022) oedd i aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus ystyried y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu drafft cyn eu cyflwyno i'r Cabinet i'w mabwysiadu'n ffurfiol. Nodwyd bod y Strategaeth yn y broses o gael ei datblygu.

 

Cyfeiriodd Phil Jones at y cefndir a'r sefyllfa bresennol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd Chris Wilson gyflwyniad i’r Pwyllgor gan ganolbwyntio ar y sefyllfa bresennol a’r lleoliadau (Atodiad 1). Nodwyd mai ffocws cymalau cynnar y rhaglen oedd gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y meysydd parcio sydd dan berchnogaeth neu reolaeth y Cyngor Sir ynghyd â safleoedd y Cyngor. Crybwyllwyd hefyd fod peryglon cwympo yn gysylltiedig â’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan, ac felly bydd yn bwysig rheoli hyn. O ran y 25% o arian cyfatebol oddi wrth Lywodraeth Cymru, mae angen cael cymeradwyaeth gweinidogol; ar ôl cael y cymeradwyaeth, bydd cam un yn cychwyn. Nodwyd y bydd hi’n anodd sicrhau ffrydiau ariannu ar gyfer camau 3 a 4 ynghyd â denu buddsoddiad preifat, a hynny oherwydd natur wledig y sir. Mae’n bosib bod nifer y pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws y sir yn is nag ardaloedd mwy trefol oherwydd nifer y boblogaeth a’r galw amdanynt. Y nod oedd darparu dosbarthiad cytbwys o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar draws y sir. Er gwaethaf yr ansicrwydd o ran technoleg, bydd yn allweddol ystyried pob opsiwn gan gynnwys hydrogen.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau ac atebwyd y rhain gan Phil Jones a Chris Wilson. Y prif bwyntiau a godwyd oedd y canlynol:

         O ran cyllid, derbyniwyd £420,000 oddi wrth Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru (ULEVTF) yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22. Yn ogystal, dyrannwyd hyd at £300,000 o gyllid grant i’r Cyngor gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Dyfarnwyd swm o £273,171 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cyflawni’r ail gam yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23 (£204,878.20 (75%) o Gynllun Pwyntiau Gwefru Preswyl ar y Stryd (ORCS) Swyddfa Cerbydau Allyriadau Sero Llywodraeth y DU (OZEC), a darperir y £68,293 (25%) sy’n weddill fel arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru).

         Yn sgil ansicrwydd ynghylch a fyddai’r arian cyfatebol (25%) yn cael ei roi, roedd Llywodraeth Cymru’n ymwybodol nad oedd unrhyw fuddsoddwyr preifat yn y sir. Gobeithir y daw cadarnhad ysgrifenedig oddi wrth Lywodraeth Cymru ynghylch yr arian maes o law. Roedd ystyried ffynonellau eraill o gyllid dal yn allweddol.

         Roedd Silversone Green Energy wedi cynorthwyo’r Cyngor yn dilyn proses tendro i osod a gweithredu’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gyfer y cyhoedd ym Mhenmorfa a Chanolfan Rheidol. Mae cytundeb ar waith i sicrhau bod y cwmni a’r Cyngor yn cael siâr o’r elw, a effeithiwyd gan y niferoedd isel a oedd yn eu defnyddio.

         Mae’r Strategaeth yn allweddol o ran nod y Cyngor i fod yn garbon net sero erbyn 2030 ac o ran cyflawni Cynllun Gweithredu Net Sero’r Cyngor. Byddai hefyd yn darparu mynediad i bobl sydd eisiau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adolygu'r Gwasanaethau Rheoli Gwastraff - cymorth gan ymgynghorwyr pdf eicon PDF 285 KB

Cofnodion:

Nododd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet, mai pwrpas yr adroddiad oedd gofyn i Aelodau’r Pwyllgor gefnogi’r ffordd ymlaen sy’n cael ei chynnig ar gyfer adolygu gwasanaeth gwastraff Cyngor Sir Ceredigion.

 

Rhoddodd Gerwyn Jones drosolwg o’r Gwasanaethau Rheoli Gwastraff ac amlygodd y ffaith fod gan y gwasanaeth broffil uchel ymhlith y cyhoedd. Darparwyd cefndir y strategaeth flaenorol a’r angen am un newydd er mwyn pennu cyfeiriad y gwasanaeth yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at y safleoedd gwastraff cartref, y gorsafoedd trosglwyddo gwastraff, y cyfleusterau sy’n cael eu rhoi ar gontract a’r model casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd, fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Rhoddwyd esboniad bras o’r gwasanaeth cymysg presennol a weithredwyd yn 2019 ynghyd â’r dull a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef didoli gwastraff wrth ymyl y ffordd, fel y cyhoeddwyd yng Nglasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru yn 2012. Yn y dyfodol bydd pwysau sylweddol i arbed arian – ar hyn o bryd mae 9 lori fawr (sydd gwerth tua £186,000) a 7 lori lai (sydd gwerth tua £136,000) yn y fflyd a bydd angen eu hadnewyddu mewn 3-4 blynedd. Yn sgil yr amser sy’n rhaid aros i’r cerbydau gyrraedd ar ôl eu harchebu, ynghyd â’r broses hirfaith ar gyfer arfarnu opsiynau, mae’n bwysig ystyried y ffordd strategol ymlaen ar gyfer Ceredigion. Mae angen ystyried cyfleoedd megis y cynnig diweddar i brynu dwy lori 26 tunnell am £155,000 yr un yn hytrach na £272,000 gyda chymorth grantiau’r llywodraeth. Rhoddodd y swyddog drosolwg o gwmpas arfaethedig y gwaith y bydd yr ymgynghorwyr yn ymgymryd ag ef.

 

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ynghylch eu meysydd o ddiddordeb ac atebwyd y rhain yn eu tro gan Gerwyn Jones. Y prif bwyntiau a godwyd oedd y canlynol:

·       Dilynir y prosesau arferol ar gyfer penodi’r ymgynghorwyr annibynnol a fydd yn cyflawni’r gwaith.

·       Bydd angen fflyd newydd o gerbydau erbyn 2027-28 - oherwydd y dechnoleg gymhleth sydd ynghlwm wrth hyn a’r angen i ystyried opsiynau gwahanol, mae’n rhaid dechrau’r gwaith yn fuan.

·       Amlygwyd y pwysau o ran staffio – er bod y tîm bron yn llawn, mae’r gwasanaeth yn rhedeg ar 70% o lefelau staffio oherwydd gwyliau blynyddol, hyfforddiant a salwch. Yn ogystal, nid yw’r Cyngor yn ddiogel rhag y diffyg gyrwyr a thechnegwyr cerbydau nwyddau trwm (HGV) – mae rhaglenni hyfforddi ar gael i ddenu staff. Gan fod y gwasanaeth gwastraff yn flaenoriaeth i’r adran, rhennir aelodau staff sydd mewn rolau eraill ac sy’n meddu ar drwydded yrru cerbydau nwyddau trwm a defnyddir staff asiantaeth yn achlysurol. 

·       Codwyd pryderon bod yr un llwybrau’n cael eu heffeithio gan wyliau’r banc gan fod y mwyafrif ohonynt ar ddydd Llun. Gan nad oedd cytundebau’r staff yn cynnwys gweithio ar wyliau’r banc, awgrymwyd y dylid adolygu cytundebau’r staff ynghyd ag ystyried cynllun wrth gefn fel yr hyn a weithredir gan y gwasanaeth tân. Roedd y swyddog yn croesawu awgrymiadau pellach. 

·       Nododd yr Aelodau eu bod yn derbyn mwy a mwy o alwadau oddi wrth y cyhoedd ynghylch casgliadau gwastraff. Awgrymodd y swyddog y dylid cyfeirio’r cyhoedd at Clic  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Trosolwg: Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol pdf eicon PDF 555 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Rhodri Llwyd gyflwyniad i'r Pwyllgor ar y gwasanaethau a'r swyddogaethau a ddarperir, gan amlinellu'r canlynol:

·        Gwasanaethau Craidd

·        Swyddogaethau Allweddol

·        Blaenoriaethau'r Gwasanaeth

·        Gweithlu Rheng Flaen

·        Dangosyddion Perfformiad

·        Ceisiadau am Wasanaeth

·        Cyllidebau- Hanesyddol

·        Gostyngiadau Staff a’r Gyllideb

·        Heriau a Blaenoriaethau

 

Cadarnhaodd y swyddog fod tîm gyda 4 aelod o staff a rheolwr yn cynnal archwiliadau rheolaidd ar y 2260km o ffyrdd cyhoeddus y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt, gan ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Archwilio Priffyrdd. Yn sgil diffyg cyllid, ar y pryd roedd £34 miliwn o waith cynnal a chadw priffyrdd yn aros i’w wneud ac mae’n cynyddu wrth i gyflwr y ffyrdd ddirywio.

 

Yn dilyn cwestiwn gan Aelod, nododd y swyddog y gellir cyflwyno’r ddeddfwriaeth ynghylch parcio ar balmentydd, a gynigiwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru, ar ôl cyflwyno’r terfynau cyflymder o 20mya.

 

Nododd y Cadeirydd y bu cyfathrebu rhwng y swyddogion a’r Aelodau ynghylch nodi’r ffyrdd posib lle gellir gostwng y cyfyngiadau cyflymder i 20mya ymhob ward o dan gynnig Llywodraeth Cymru. Byddai cyfle i ailedrych ar hyn y flwyddyn nesaf.

 

Cydnabu’r Cynghorydd Elizabeth Evans y bu’r gwasanaeth o dan bwysau ariannol sylweddol am nifer o flynyddoedd. Ychwanegodd fod yr ymgynghori rhwng y swyddogion a’r Aelodau ynghylch cyflwyno terfynau cyflymder o 20mya wedi bod yn fuddiol ac yn cael ei werthfawrogi. 

 

Eglurodd y swyddog efallai bod y grantiau a ddyfarnwyd yn hwyr gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol wedi arwain at y £250,000 o danwariant a adroddwyd ar gyfer gwaredu gwastraff.

 

Yn dilyn cwestiynau, cytunodd yr aelodau i nodi’r gwasanaethau a’r swyddogaethau a ddarperir gan Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol.

 

6.

Cynnydd o ran cyflawni'r Strategaeth Economaidd pdf eicon PDF 361 KB

Cofnodion:

Cytunodd yr aelodau i ohirio'r eitem i gyfarfod yn y dyfodol.

7.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 307 KB

Cofnodion:

 Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2022 yn gywir.

 

Materion yn codi: Wrth ymateb i ymholiad y Cadeirydd ynghylch a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymateb i’r llythyr yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2022, cadarnhaodd Lisa Evans na dderbyniwyd unrhyw ymateb er ei bod wedi mynd ar eu hol sawl gwaith.

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y byddai’r Cadeirydd presennol yn anfon llythyr arall at Gyfoeth Naturiol Cymru i nodi siom yr Aelodau a’r angen am ymateb ar frys. 

 

8.

Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 344 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd nodi cynnwys y Flaenraglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·       Diweddariad am Glefyd Coed Ynn – Hydref 2022

·       Y Strategaeth Economaidd (a ohiriwyd yn y cyfarfod heddiw)  

·       Gweithdy ynghylch y Gyllideb cyn Paratoi’r Gyllideb ar gyfer 23-24 - Hydref 2022.