Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Iau, 5ed Medi, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Wyn Evans a John Roberts am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio).

3.

Diweddariad i'r Aelodau ynghylch Cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon) ddiweddariad i’r Pwyllgor ynghylch Cynllun Amddiffyn yr Arfordir Aberaeron. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn caffael amddiffynfeydd yr arfordir yn Aberaeron ers Medi 1995 a bu’n comisiynu astudiaethau ac adroddiadau niferus gan nifer o ymgynghorwyr.

 

Cafodd cymal cychwynnol cynllun amddiffyn yr arfordir ar hyd Traeth y Gogledd ei gwblhau yn 2009. Cyflwynodd Cyngor Sir Ceredigion Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru a chafodd hwn ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 28 Gorffennaf 2023 ynghyd â chadarnhad o’r £1,943,548 o gyllid oddi wrth y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol. Cyflwynwyd adroddiad i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion ar 4 Gorffennaf 2023 yn gofyn am gymeradwyaeth i ‘gadarnhau cytundeb i ymrwymo i gontract gyda'r Contractwr a ffefrir yn amodol ar drafodaethau ynghylch prisiau tendro, dyraniad cyllid a chymeradwyaeth ffurfiol ar gyfer yr Achos Busnes Llawn gan Lywodraeth Cymru’.

 

Yn dilyn proses gaffael drwy broses dendro fach gystadleuol, o’r fframwaith peirianneg sifil a oedd yn bodoli, ac yn unol â chofnod Cabinet 41 o gyfarfod 4 Gorffennaf 2023, dyfarnwyd y contract i BAM Nuttall Ltd a hynny ar 31 Awst 2023 gyda dyddiad cymryd meddiant gohiriedig o 4 Rhagfyr 2023. Cymerodd BAM feddiant o'r safle yn unol â’r rhaglen a gwnaethant sefydlu eu safle waith cyn dechrau ar y gwaith adeiladu ym mis Ionawr 2024.

 

Cafwyd trosolwg o’r canlynol fel y cyflwynwyd yn yr adroddiad a ddarparwyd:

-       Llywodraethu’r Prosiect

-       Trosolwg o’r Prosiect a’r Newyddion Diweddaraf

-       Diweddariad ar y Cynnydd

-       Y Rhaglen a’r Gyllideb

 

Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, roedd Bwrdd y Prosiect yn fodlon yn gyffredinol gyda chynnydd y gwaith a bod y prosiect hwn yn cael ei lywodraethu yn ddigonol.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Keith Henson. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

-       Gwnaeth yr Aelodau longyfarch pawb oedd yn gysylltiedig â chynnydd y cynllun a mynegwyd diddordeb i ymweld â’r safle cyn iddo gael ei gwblhau; Cytunodd swyddogion i drefnu dyddiad addas.

-       Nodwyd bod creigiau o Norwy wedi’u defnyddio ar gyfer y cynllun gan eu bod fel arfer yn llawer mwy na’r creigiau a gynhyrchir gan chwareli yng Nghymru a hefyd ar gael yn haws yn y meintiau gofynnol, ac fe’u defnyddiwyd ar gyfer cynlluniau tebyg ledled y Deyrnas Unedig. Yn ogystal, drwy drosglwyddo’r creigiau ar y môr, roedd yn lleihau’r difrod i ffyrdd ac aflonyddwch i’r cyhoedd.

-       Roedd datblygiad Cynllun Amddiffyn yr Arfordir Aberystwyth yn y cam Achos Busnes Amlinellol a byddai'n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2024. Os oedd gan yr Aelodau unrhyw sylwadau, fe'u hanogir i ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus sydd ar agor ar hyn o bryd tan 8 Hydref 2024.

-       Roedd Aelodaeth y Bwrdd Prosiect yn cynnwys trawstoriad o Swyddogion o wahanol wasanaethau ar draws yr awdurdod lleol. Roedd yr adran Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol wedi datblygu'r cynllun o'r cychwyn cyntaf gyda mewnbwn gan wasanaethau fel Cynllunio ac Ecoleg a byddai'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2024.

 

Materion sy’n codi:

i.      Nododd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans ei fod yn bresennol yn y cyfarfod, er nad oedd ei enw'n cael ei gynnwys ar y cofnodion.

ii.     Dywedodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan ei bod wedi anfon ymddiheuriadau iddi am y cyfarfod.

iii.    Nodwyd y byddai cynigion Adolygiad Maes Parcio Talu ac Arddangos y Stryd a'r Cynigion Codi Tâl am Barcio ar y Stryd - Promenâd Aberystwyth, yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cyn ystyriaeth a phenderfyniad terfynol gan y Cabinet.