Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Llun, 20fed Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorydd John Roberts am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd y Cynghorydd Wyn Evans y byddai’n gadael y cyfarfod yn gynnar.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio).

3.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Dim.

4.

Cefnogaeth Gorfodaeth Cynllunio pdf eicon PDF 85 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Clive Davies (Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio) yr adroddiad ar ofynion adnoddau cymorth ychwanegol y gwasanaeth gorfodaeth. Eglurodd fod y Gwasanaeth Gorfodi’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi bod yn ei chael hi’n anodd ers peth amser. Yn y gorffennol, roedd ymdrechion recriwtio wedi bod yn aflwyddiannus a defnyddiwyd rolau cyfunol ar draws y tîm Rheoli Datblygu a Gorfodi er mwyn llenwi’r swyddi gwag hyn. Yn anffodus, yn sgìl y llwyth gwaith uchel o achosion o fewn Rheoli Datblygu a natur arbenigol, hynod gyfreithiol gorfodi, roedd y sefyllfa wedi gwaethygu. Gwnaeth Archwilio Cymru dynnu sylw’r awdurdod lleol at hyn yn 2021 ac eto yn 2023. Roedd sicrhau cefnogaeth trydydd parti ychwanegol drwy ymgynghorwyr wedi profi i fod yn ddi-ffrwyth, gyda chostau'n uchel ac achosion wedi cau'n isel.

 

Ar 12/4/24 (dechrau gwaith Gorchwyl a Gorffen), roedd llwyth gwaith achosion yn 432 achos, i lawr o uchafswm o dros 600 yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Ar ben hynny, roedd tua 250 o ymholiadau i ‘clic’ angen ymateb. Ym mlwyddyn ariannol 2023/2024, agorodd y gwasanaeth gorfodi 116 o achosion ac yn ystod yr un cyfnod daeth 220 o achosion i ben. Trafodwyd yr angen i gefnogi'r gwasanaeth gorfodi yng ngrŵp Gorchwyl a Gorffen ehangach y Gwasanaeth Cynllunio a weithredwyd wedi adolygiad Archwilio Cymru. Roedd aelodau a swyddogion yn y grŵp hwnnw o'r farn bod angen adnoddau ychwanegol er mwyn sicrhau bod gwasanaeth gorfodi effeithiol yn cael ei ddarparu.

 

Amlygwyd bod y gwaith o adeiladu tai yn cefnogi 434 o swyddi yn lleol yn uniongyrchol ac yn cyfrannu dros £280,000 mewn treth gyngor ychwanegol y flwyddyn a £1.7 miliwn ychwanegol mewn gwariant cartrefi mewn manwerthu a hamdden yn yr economi leol.

 

Rhoddodd Dr Sarah Groves-Phillips, Rheolwr Corfforaethol drosolwg o’r 4 opsiwn fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad:

·       Platinwm - Dull a Ganiateir Heb Doriadau

·       Aur - Gwasanaeth Gorfodi Rhagweithiol

·       Arian - Gwasanaeth Gorfodi pwrpasol

·       Efydd - Y Gwasanaeth Gorfodi o fewn y gyllideb (cyllideb a chapasiti presennol)

 

Wrth ystyried yr opsiynau a nodir uchod, dywedodd y Swyddog ei bod yn bwysig cofio fod recriwtio pobl i rolau gorfodi yn anodd a bod hyn yn cael ei gydnabod yn genedlaethol. Amlinellwyd y risgiau o beidio â darparu adnoddau digonol ar gyfer y gwasanaeth. 

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Swyddogion a’r Cynghorydd Clive Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Dywedwyd bod dyletswydd statudol i ddarparu gwasanaeth gorfodi ond nad oedd dim deddfwriaeth ar waith a oedd yn nodi lefel y gwasanaeth a oedd angen ei darparu. Er bod y gwasanaeth wedi’i ddirprwyo i’r Swyddogion, awgrymwyd y dylai’r achosion gael eu rhannu â’r Aelodau fel y gallent roi eu hadborth. Roedd nifer o’r Aelodau’n teimlo’n gryf ei bod yn bryd buddsoddi yn y gwasanaeth o gofio’r effaith bosibl ar enw da a gwasanaethau’r Cyngor. Yn hanesyddol, roedd y gwasanaeth gorfodi ymhlith y 10 awdurdod lleol a oedd yn perfformio waethaf yng Nghymru.

·       Esboniodd y Swyddogion fod ffigurau’r adroddiad yn seiliedig ar ffigurau gros,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Gorchymyn Arfaethedig Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd Cyngor Ceredigion 2025 pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon) yr adroddiad ar ymatebion i’r broses ymgynghori i gynigion a gyflwynwyd i fodloni gofyniad incwm ychwanegol cyllideb gymeradwy y Cyngor o feysydd parcio Talu ac Arddangos Oddi ar y Stryd.

 

Eglurodd fod y cynigion yn ymwneud â Llefydd Parcio a reolir dan nawdd Gorchmynion Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd Cyngor Sir Ceredigion wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor ar 11/07/2024 a’r Cabinet ar 03/09/2024. Yn dilyn penderfyniad y Cabinet i ddiwygio’r cynigion i gynnwys eithrio Deiliaid Bathodyn Glas rhag talu costau parcio Talu ac Arddangos, a oedd yn cynnwys diwygio’r strwythur codi tâl arfaethedig i ychwanegu 50c ychwanegol at bob tariff, roedd y cynigion diwygiedig yn ddarostyngedig i’r broses ymgynghori a ragnodir ar gyfer Gorchmynion Rheoleiddio Traffig. Roedd hyn yn cynnwys cyfnod ymgynghori ffurfiol rhwng 19/09/2024 a 11/10/2024 lle cafodd Ymgynghorai Statudol y cyfle i roi sylwadau ar y cynigion. Ar ôl ystyried yr ymatebion hynny mewn perthynas â’r cynigion a gyflwynwyd, dilynwyd hyn gan gyfnod Rhybudd Cyhoeddus yn gwahodd gwrthwynebiadau i gynigion rhwng 12/11/2024 a 04/12/2024. 

 

Rhoddodd Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol gyflwyniad i'r Pwyllgor yn amlinellu'r canlynol:

·       Cefndir

·       Crynodeb o'r Cynigion

·       Argymhellion Craffu

·       Ymgynghoriad

·       Ystyriaethau

·       Ystyriaethau posibl i'r Pwyllgor

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Swyddogion a’r Cynghorydd Keith Henson. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd yr Aelodau’n cefnogi’r strwythur codi tâl arfaethedig ar gyfer Meysydd Parcio Talu ac Arddangos Oddi ar y Stryd y Cyngor a oedd yn seiliedig ar ddau barth gwahanol (Mewndir Ceredigion ac Arfordir Ceredigion) gan fod gwahaniaeth mawr rhwng gwahanol ardaloedd. 

·       Yn hanesyddol, roedd maes parcio Pendre ar gyfer deiliaid trwyddedau yn unig, ond yn ystod Covid-19, ni roddwyd trwyddedau. Nid oedd y trefniant hanesyddol wedi’i adfer hyd yma ond byddai’r Cabinet yn gwneud penderfyniad ar 21.01.25. Yn hanesyddol, maes parcio talu ac arddangos oedd maes parcio Rhes Gloster.

·       Awgrymodd yr Aelodau y dylid ystyried nifer o opsiynau a chael sgwrs â Theatr Mwldan, Aberteifi ynglŷn â’r posibilrwydd o roi cynllun ar waith a fyddai’n cynnig pris gostyngol am barcio i’r rheiny sy’n defnyddio’r theatr; trefniant a fyddai’n debyg i’r un a geir yn archfarchnad Sainsbury’s yn Llanbedr Pont Steffan. Ar hyn o bryd, gallai’r cyhoedd brynu tocynnau tymor ar gyfer maes parcio’r Baddondy a byddai’r cynnig hwn yn parhau.

 

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr ymgynghoriad cyhoeddus, ystyried y cynigion ar gyfer y strwythur codi tâl a meysydd parcio Pendre a Rhes Gloster / Llew Coch yn seiliedig ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ac i gefnogi’r pecyn o gynigion a gyflwynwyd.

6.

Cynigion ynghylch Codi Tâl am Barcio ar y Stryd - Promenâd Aberystwyth pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon) mai pwrpas yr adroddiad oedd i adrodd ar ymatebion i’r broses ymgynghori ar gynigion i godi tâl am barcio ar y stryd ar hyd rhannau o bromenâd Aberystwyth yn unol â chais y Pwyllgor.

 

Cafodd cynigion yn ymwneud â chynigion a gyflwynwyd yn unol â chyflwyno tâl am barcio ar hyd y promenâd yn Aberystwyth eu cyflwyno i’r Pwyllgor ar 11/07/2024 a’r Cabinet ar 03/09/2024. Yn dilyn penderfyniad y Cabinet, cynhaliwyd y cam ymgynghoriad ffurfiol rhwng 03/10/2024 a 25/10/2024 lle gwahoddwyd yr Ymgyngoreion Statudol i roi sylwadau ar y cynigion. Ar ôl ystyried yr ymatebion hynny mewn perthynas â'r cynigion a gyflwynwyd, dilynwyd hyn gan gam yr Hysbysiad Cyhoeddus yn gwahodd gwrthwynebiadau i’r cynigion rhwng 04/12/2024 a 27/12/2024.

 

Rhoddodd Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol gyflwyniad i'r Pwyllgor yn amlinellu'r canlynol:

·       Cefndir

·       Deddfwriaeth Alluogol

·       Y Cynnig

·       Yr Achos dros Newid- Manteision y Cynllun

·       Trefniadau o ran Deilliad Bathodynnau Glas

·       Strwythur Codi Tâl

·       Amseroedd a Lleoliadau Codi Tâl

·       Ymgynghoriad

·       Ystyriaethau

·       Argymhellion i'r Pwyllgor

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Swyddogion a’r Cynghorydd Keith Henson. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Codwyd pryderon fod cyfnod yr hysbysiad cyhoeddus yn rhedeg dros gyfnod y Nadolig. Dywedodd y Swyddogion fod yr ymgynghoriad wedi para am fwy na 3 wythnos. Nid oedd Prifysgol Aberystwyth yn un o’r ymgynghoreion statudol yn y cam ymgynghori ffurfiol. Fodd bynnag, roedd modd i bawb ymateb i gyfnod yr hysbysiad cyhoeddus ac roedd cyhoeddusrwydd eang wedi’i roi i hyn.

·       Awgrymodd yr Aelodau y gellid archwilio opsiynau yn y dyfodol ar gyfer trwyddedau parcio oddi ar y stryd er mwyn cefnogi’r cymudwyr yr oedd y cynnig yn effeithio arnynt. Codwyd pryderon y byddai nifer yn ceisio dod o hyd i lefydd parcio am ddim yn y dref ac y byddai hyn yn cael effaith ar lif y traffig yng nghanol y dref. Dywedwyd bod pris tocyn tymor wedi gostwng o’r pris presennol i’r hyn a oedd yn cyfateb i ychydig o dan £25 y mis dros 12 mis. Roedd deiliaid y tocyn hwn yn medru parcio yn holl  feysydd parcio oddi ar y stryd yr awdurdod lleol ar draws y sir.

·       Roedd parcio i’r anabl yn rhad ac am ddim yn unol â’r ddeddfwriaeth.

·       Dywedwyd bod perchennog gwesty wedi codi pryderon ynglŷn â’r cynnig i godi tâl rhwng 8am a 8pm. Dywedodd y Swyddogion fod hyn yn cael ei gynnig er mwyn hwyluso’r economi liw nos a sicrhau trosiant o ran llefydd parcio. 

 

CYTUNWYD i nodi cynnwys yr ymgynghoriad cyhoeddus a chefnogi'r cynigion a gyflwynwyd.

7.

Trosolwg o'r materion ariannol yn ystod y flwyddyn pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Duncan Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol drosolwg o’r Gyllideb Refeniw Rheoladwy 24/24 - Perfformiad Ariannol - Chwarter 2 a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 03.12.24. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, rhagwelwyd gorwariant rhagamcanol am y flwyddyn o £313k ar y Gyllideb Reoladwy’. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cynnwys rhai risgiau mewn perthynas â chyflawni arbedion yn ystod y flwyddyn.

 

Darparwyd trosolwg o'r canlynol fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad:

  • Perfformiad y Gyllideb – Heriau Allweddol
  • Perfformiad y Gyllideb – Buddion Allweddol
  • Perfformiad y Gyllideb – Arbedion Cyllideb

 

O ran statws BRAG yr eitemau sy’n rhan o’r Gostyngiadau yng Nghyllideb 24/25, roedd gan ddwy eitem (eitem 36b - Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan ac eitem 70 - Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir) statws coch adeg ysgrifennu’r adroddiad. Ers hynny, roedd eitem 43 (taliadau am ofal heb fod mewn man preswyl) wedi newid ei statws i goch am fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â chynyddu’r cap wythnosol o £100 i £120. Yn sgil y penderfyniad hwn, roedd grant gwerth £62,500 wedi dod i law oddi wrth Lywodraeth Cymru i gefnogi’r awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rhoddwyd trosolwg o Berfformiad y Gyllideb o ran Treth y Cyngor a Sefyllfa’r Gwasanaethau yn unol â’r hyn oedd wedi’i gyflwyno yn yr adroddiad. Fel y dywedwyd mewn Gweithdy i’r Aelodau yn ddiweddar, roedd yr awdurdod lleol wedi derbyn £3m yn ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer amrywiol eitemau gan gynnwys pwysau o ran cyflogau a chyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion.

 

O safbwynt y Rhaglen Gyfalaf, roedd Ysgol Dyffryn Aeron wedi agor ei drysau ar ddechrau mis Ionawr. Roedd dyddiad cwblhau Cynllun Amddiffyn yr  Arfordir yn Aberaeron wedi’i ymestyn.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Duncan Hall. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Dywedwyd mai cost yn ystod y flwyddyn oedd y buddsoddiad yn y Gwasanaeth Casglu Gwastraff a bod hyn wedi’i ariannu o’r cronfeydd wrth gefn. Byddai buddsoddiad hirdymor yn y gwasanaeth yn cael ei ystyried yn ystod proses pennu cyllideb 25/26.

·       Roedd cyllid cyfalaf o dan Fenter Benthyca Llywodraeth Leol ar gyfer gwella’r priffyrdd wedi’i gyhoeddi yng Nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. Er nad oedd rhagor o fanylion wedi dod i law, amcangyfrifwyd y byddai’r awdurdod lleol yn derbyn £2.3m.

 

CYTUNWYD i nodi’r adroddiad ac yn craffu ar y wybodaeth a ddarperir fel y mae’n ei ystyried yn briodol ac yn berthnasol i’r meysydd o fewn ei gylch gwaith.

8.

Adroddiad ar yr ymweliad â Chynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r adborth yn dilyn ymweliad y Pwyllgor â Chynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron ar 29 Tachwedd 2024.

 

Diolchodd Aelodau’r Pwyllgor i’r Swyddogion a'r Contractwyr am ymweliad addysgiadol â’r safle.

Diolchodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, yr Aelod Lleol dros Aberaeron ac  Aberarth i’r Pwyllgor am ymweld â’r safle a dywedodd y byddai’n trafod unrhyw newidiadau arfaethedig i’r cynllun â’r Swyddogion perthnasol.

 

Dywedodd Rhodri Llwyd, y Swyddog Arweiniol Corfforaethol fod datganiad i’r wasg wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar a oedd yn nodi’r dyddiadau cwblhau diwygiedig ac ychwanegodd fod y trafodaethau rhwng y Swyddogion a’r Contractwyr ynglŷn â’r cynllun a’r contract yn parhau.

 

CYTUNWYD i nodi’r adroddiad.

9.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2024.

 

Materion sy’n codi: Dim.

 

10.

Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi cynnwys y Flaen raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·       Diweddariad ar Orchymyn Arfaethedig Llefydd Parcio Oddi ar y Stryd Cyngor Sir Ceredigion 2025 yn dilyn gweithredu

·       Diweddariad ar y Cynigion ynghylch Codi Tâl am Barcio ar y Stryd - Promenâd Aberystwyth yn dilyn gweithredu