Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd
y Cynghorydd Marc Davies am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd
y Cynghorwyr Shelley Childs ac Ann Bowen Morgan am ymuno a’r cyfarfod yn hwyr. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio). |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Dim. |
|
Y diweddaraf am ffrydiau gwaith y Gwasanaeth Cynllunio PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd y
Cynghorydd Clive Davies (Aelod y Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio) fod yr
adroddiad yn disgrifio’r sefyllfa sydd ohoni o ran gwahanol ffrydiau gwaith y
Gwasanaeth Cynllunio yn dilyn penodi Dr Sarah Groves-Phillips yn Rheolwr
Corfforaethol, ac roedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ynghylch
materion cenedlaethol a lleol sydd o ddiddordeb. Rhoddodd Dr Sarah
Groves-Phillips, Rheolwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cynllunio ddiweddariad i'r
Pwyllgor ar y materion canlynol: · Bwrdd Cynllun Rheoli Maethynnau a
Ffosffadau · Gwaith ar y Cynllun Datblygu Lleol a’r
Cynllun Datblygu Strategol · Rheoli Datblygu · Creu Lleoedd · Polisi Cenedlaethol, sef TAN 15 a’r
cyhoeddiad ar Faethynnau Morol · Rheoli Adeiladu Cafodd yr aelodau
gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Dr Sarah Groves-Phillips a’r
Cynghorydd Clive Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Diolchodd yr Aelodau i’r Dr Sarah
Groves-Phillips am ddarparu adroddiad manwl. · Rhoddwyd llongyfarchiadau i bob un o’r 6
Swyddog Rheoli Adeiladu am eu llwyddiant yn yr arholiad cymhwysedd yn
ddiweddar. Roedd hyn yn golygu bod pob un ohonynt bellach wedi’u cofrestru ar y
lefel briodol. · Eglurwyd bod y Bwrdd Rheoli Maethynnau
wedi mabwysiadu ei Gynllun Rheoli Maethynnau ar 2 Hydref 2024 yn unol â’r
bwriad. Byddai angen tri chylch o’r Cynllun Rheoli Maethynnau, cyfanswm o 15
mlynedd, i ddatrys problem y ffosffadau yn Afon Teifi, ond roedd Dŵr Cymru
yn canolbwyntio ar y gwaith hwn a’r disgwyl oedd y byddem yn gweld gostyngiad o
65% yn y 5 mlynedd nesaf. Byddai’r awdurdod lleol yn canolbwyntio ar gyflwyno
mesurau lliniaru fel rhan o’i gylch gwaith gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o
lygredd a oedd yn deillio o anheddau domestig
(e.e. cynnal a chadw tanciau septig) a lobïo Llywodraeth Cymru ar y
defnydd strategol o wlypdiroedd. · Nid oedd asesiad effaith integredig wedi’i
gwblhau o effaith economaidd y cyfyngiadau a oedd yn codi yn sgil y ffosffadau.
Byddai modd ystyried asesiad maes o law.
· Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch y
posibilrwydd y gallai Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion fethu, gan y
gallai unrhyw gyfyngiadau arwain at waharddiad arall ar ddatblygu. Er bod
disgwyl i’r Datganiad ynghylch
Maethynnau Morol gael ei gyhoeddi cyn diwedd 2024, nid oedd dim ymgysylltu â’r
Awdurdodau Cynllunio Lleol wedi digwydd hyd yma er mai dyna’r hyn a gytunwyd
iddo. · Mynegwyd pryderon ynghylch y capasiti a’r cyllid a oedd eu hangen i fwrw ymlaen â’r
Cynllun Datblygu Strategol, sef un o ofynion y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Nodwyd
bod is-grŵp y Cynllun Datblygu Strategol wedi argymell i’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig nad oedd yn briodol parhau â’r gwaith ar hyn o bryd, hyd nes y
byddai rhagor o adnoddau ar gael. · Roedd ffigurau dangosol a gwahanol
opsiynau wedi’u llunio i fynd i’r afael â’r problemau o ran gorfodi cynllunio.
Dywedwyd y byddai’n fuddiol clywed barn y Pwyllgor cyn proses pennu’r gyllideb.
· Roedd gwybodaeth am greu lleoedd ar gael
ar wefan y Cyngor. Y bwriad oedd cynnal sesiwn galw heibio y flwyddyn nesaf i
gefnogi’r Cynghorau Tref a Chymuned lle bynnag y bo hynny’n bosibl. CYTUNWYD i nodi’r
adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol y Fforwm Mynediad Lleol PDF 65 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd y
Cynghorydd Clive Davies (Aelod y Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio) fod y
Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion wedi’i sefydlu o dan Ddeddf Cefn Gwlad a
Hawliau Tramwy 2000 i gynghori Cyngor y Sir, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill
ar sut i wella a rheoli mynediad i gefn gwlad. Roedd y Fforymau Mynediad Lleol
yn cynrychioli ystod eang o ddiddordebau ac roedd aelodau'n chwarae rhan bwysig
wrth wella a rheoli mynediad i gefn gwlad amrywiol a deniadol y Sir. Caiff
aelodau'r Fforwm Mynediad Lleol eu penodi am dair blynedd; penododd Cyngor Sir
Ceredigion fel yr Awdurdod Penodi y Fforwm presennol yn 2022, a bydd yr
aelodau’n eistedd tan 2025. Diolchwyd i’r swyddogion a’r gwirfoddolwyr am eu
gwaith. Rhoddodd Eifion
Jones, Swyddog Llwybrau Cyhoeddus ac Ysgrifennydd y Fforwm Mynediad Lleol
drosolwg o Adroddiad Blynyddol y Fforwm Mynediad Lleol ac o waith a rôl y
Fforwm. Nid yn unig yr oedd y Fforwm yn gorff statudol a anogir i osod ei
agenda ei hun, yr oedd yn allweddol ar gyfer denu grantiau a oedd yn werth dros
£100,000 y flwyddyn. Hefyd roedd yn bartner wrth reoli Hawliau Tramwy a
Mynediad. Lluniwyd yr adroddiad blynyddol yn unol â Rheoliad 16 Rheoliadau
Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001. Cafodd yr aelodau
gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Eifion Jones a’r Cynghorydd Clive
Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Cyfrifoldeb Cyngor Sir Ceredigion fel yr
awdurdod penodi oedd sicrhau bod gan y Fforwm Mynediad Lleol y cydbwysedd cywir
o ran aelodau. Dywedwyd bod denu aelodau yn medru bod yn heriol ar adegau. · Roedd y Fforwm Mynediad Lleol yn
canolbwyntio’n bennaf ar gynnal a chadw Hawliau Tramwy a Mynediad ac roedd
mynediad newydd yn cael ei greu lle bo hynny’n addas. Anogwyd yr Aelodau i
gysylltu â’r tîm pe byddent yn ymwybodol o unrhyw faterion yn lleol. CYTUNWYD i nodi’r
wybodaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith y Fforwm Mynediad Lleol a’r
Adroddiad Blynyddol a baratowyd. |
|
Cerbydau Trydan - y seilwaith ar gyfer gwefru preswyl ar y stryd PDF 89 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y
Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau
Amgylcheddol a Rheoli Carbon) drosolwg o Gam 5 sef y bwriad i osod mannau
gwefru cerbydau trydan ar y stryd ar gyfer preswylwyr / y cyhoedd fel y nodir
yn y Cynllun Gweithredu Sero-Net. Daw’r datblygiad hwn yn dilyn cyflwyno’r
camau cychwynnol sef camau 1 - 3 lle gosodwyd mannau gwefru i’r cyhoedd mewn
meysydd parcio cyhoeddus, canolfannau hamdden, neuadau cymunedol ac ati. Roedd
Cam 4 ar y gweill ar hyn o bryd. Rhannwyd y sefyllfa bresennol fel y'i
cyflwynwyd yn yr adroddiad gyda'r Pwyllgor. Roedd yr Awdurdod Lleol wedi bod yn
llwyddiannus yn ei gais am gyllid o ‘Gronfa Uchelgais Gwefru Cerbydau Trydan ar
y Stryd’ Llywodraeth Cymru. Dim ond dau Awdurdod Lleol fydd yn cael grant o
£120,000 o dan y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn. Dywedodd Phil
Jones, Rheolwr Corfforaethol: Gwasanaethau Priffyrdd ei bod yn bwysig nodi bod
technoleg yn datblygu’n gyflym iawn. Ychwanegodd mai cynllun treial oedd y cam
nesaf ac felly y gallai heriau ddod i’r amlwg ar hyd y ffordd. Cafodd yr aelodau
gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion a’r Cynghorydd Keith
Henson. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Roedd y Swyddogion ac Aelodau’r Cabinet yn
defnyddio pob cyfle posibl i godi
pryderon ynghylch capasiti’r grid. Roedd y
Gweithredwr Rhwydwaith Ardal yn rhoi cyngor am y pŵer trydanol a fyddai ei
angen ar unrhyw seilwaith newydd i sicrhau nad oedd yn cael effaith ar y
cyflenwad presennol. · Roedd y swyddogion mewn trafodaethau â’r
contractwyr i uwchraddio rhai o’r gwefrwyr cyflym a
oedd eisoes ar waith fel y gellid eu troi’n wefrwyr
chwim. Roedd hyn yn amodol ar gyllid. · Parhau oedd y gwaith o ganfod cwmnïau a
fyddai’n medru bodloni gofynion y seilwaith ar gyfer gwefru cerbydau trydan
preswyl ar y stryd o dan fframwaith newydd Llywodraeth Cymru. · Gan fod y cyllid cychwynnol wedi’i
ddarparu tan ddiwedd Mawrth 2025, byddai angen ystyried gwneud cais am gyllid o
ffrydiau cyllido eraill cyn i’r cyfleoedd hyn gau ym mis Rhagfyr 2024. Y
gobaith oedd y byddai modd adrodd yn ôl yng ngwanwyn 2025 ar y cynnydd a oedd
wedi’i wneud. Dywedwyd bod swydd y Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni – Seilwaith
Gwefru Cerbydau Trydan yn dibynnu ar arian grant. CYTUNWYD i nodi’r
adroddiad. |
|
Trosolwg o'r materion ariannol yn ystod y flwyddyn PDF 73 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Duncan
Hall, Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael trosolwg o’r Gyllideb
Refeniw Rheoladwy 24/24 - Perfformiad Ariannol - Chwarter 1 a gyflwynwyd i’r
Cabinet ar 03.09.24. Roedd y broses o bennu Cyllideb 24/25 yn un heriol ac
roedd yn cynnwys cymeradwyo tua 70 o gynigion i gwtogi’r Gyllideb a oedd yn dod
i gyfanswm o tua £5.8m. Mae'r cynnydd wrth gyflawni'r gostyngiadau yma yn y
gyllideb yn cael ei adolygu a'i fonitro gan y Grŵp Arweiniol ar ddiwedd
pob mis. Ar ddiwedd chwarter 1, mae’r sefyllfa ariannol yn parhau’n heriol ac
ar hyn o bryd, rhagwelir gorwariant o £101k yn y Gyllideb Refeniw ar gyfer y
flwyddyn ariannol hon. Fodd bynnag, nid yw’r ffigwr hwn yn cynnwys y risgiau
penodol sy’n bodoli o ran cyflawni arbedion yn ystod y flwyddyn. Rhoddwyd Trosolwg
o’r Prif Heriau o ran Perfformiad y Gyllideb mewn perthynas â materion a oedd
yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor. Ers ysgrifennu'r adroddiad, cytunwyd ar
y Dyfarniadau Cyflog Cenedlaethol 2024/25 ar gyfer staff cyffredinol, sef £1,290
ar gyfer pob pwynt ar y golofn gyflog (hyd at SCP43, gan gynnwys y pwynt hwnnw)
a chynnydd o 2.5% ar gyfer pob gradd sy’n uwch na hynny. Roedd y cynnig cyflog
tua £260k yn uwch na’r hyn a gyllidebwyd ar ei gyfer,
felly mae swm untro o £250k wedi’i neilltuo yn y
cronfeydd wrth gefn fel rhan o sefyllfa alldro 23/24. Cyfeiriwyd at yr
Arbedion yn y Gyllideb fel y’i nodwyd yn yr adroddiad. Roedd statws BRAG 24/25
o ran Gostyngiadau yn y Gyllideb wedi’i ddiweddaru ers cyhoeddi’r adroddiad.
Erbyn hyn, roedd 11 o’r eitemau wedi’u rhoi yn y categori ambr a 2 yn y
categori coch, yn rhannol oherwydd penderfyniadau gwleidyddol yn ddiweddar.
Roedd eitemau 55 (Safle Arriva, Aberystwyth), 56 (Parcio ar y Promenâd yn
Aberystwyth) a 57 (Parcio Ceir – Ffioedd a Chostau) o dan y Cynigion ar gyfer
Lleihau’r Gyllideb ar gyfer 24/25 yn mynd rhagddynt, yn ddibynnol ar
benderfyniad gwleidyddol, tra bo oedi ar hyn o bryd o ran eitem 67 (Safleoedd
Gwastraff Cartref). Darparwyd trosolwg o’r Pethau Cadarnhaol a Sefyllfa’r
Gwasanaethau fel y’i cyflwynwyd yn yr adroddiad. O safbwynt y
Rhaglen Gyfalaf, roedd Cynllun Diogelu Arfordir Aberaeron ar hyn o bryd yn mynd
rhagddo yn unol â’r gyllideb ac roedd y bwrdd yn rheoli’r risgiau. Cafodd yr aelodau
gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Duncan Hall a’r Cynghorydd Gareth
Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: · Ni fyddai unrhyw ddatganiadau am leihau’r
gweithlu yn cael eu gwneud oni bai bod gwir angen eu gwneud. Roedd y broses o
golli swyddi’n naturiol yn cael ei rheoli, ac roedd rheolwyr yn ystyried a oedd
angen llanw swyddi gwag o fewn amser penodol. · Bydd gwerth yr arbedion / incwm o dan eitem 56 (Parcio ar y Promenâd yn Aberystwyth) yn cael ei addasu yn ddibynnol ar y penderfyniad gwleidyddol. Serch hynny, roedd y ffigurau dangosol a oedd yn seiliedig ar y ffigurau a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad yn awgrymu arbediad / incwm o ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i
gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Medi 2024. Materion sy’n
codi: Yn dilyn cwestiwn ynghylch y cynnydd a wnaed o ran cynigion yr Adolygiad ar y Meysydd Parcio
Talu ac Arddangos oddi ar y Stryd a’r Cynigion
ynghylch Codi Tâl am Barcio ar y Stryd – Promenâd Aberystwyth, cytunodd
Phil Jones, y Rheolwr Corfforaethol, y byddai’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am
y ddau gynnig i’r Pwyllgor maes o law. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu PDF 76 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: CYTUNWYD nodi
cynnwys y Flaen raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol: · Diweddariad am y Mannau Gwefru ar gyfer
Cerbydau Trydan (gan gynnwys gwybodaeth am wahanol fathau o wefrwyr
a’r amser y mae’n ei gymryd i wefru’r cerbydau) - gwanwyn 2025 · Diweddariad am y Gwasanaeth Gorfodi - Rhagfyr 2024 · Strategaeth Hamdden Cyfoeth Naturiol Cymru
· Gorfodi parcio gan gynnwys parcio ar
balmentydd · Ystyried trwyddedau parcio ar gyfer
gweithwyr yn Aberystwyth (yn dilyn
canlyniad yr ymgynghoriadau o ran Cynigion yr adolygiad ar y Meysydd
Parcio Talu ac Arddangos oddi ar y stryd a’r Cynigion ynghylch Codi Tâl am Barcio ar y Stryd – Promenâd
Aberystwyth) |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Codwyd pryderon
nad oedd mannau parcio penodol ar gyfer rhieni a phlant ar gael bellach ym maes
parcio archfarchnad Sainsbury’s yn Llanbedr Pont
Steffan ar ôl i waith ailwynebu gael ei wneud yn y
maes parcio. Esboniodd Phil
Jones, Rheolwr Corfforaethol: Gwasanaethau Priffyrdd nad oedd ei faes
gwasanaeth yn gyfrifol am wasanaethau parcio. Serch hynny, bu iddo annog yr
aelod lleol i ailgyflwyno ei hymholiad drwy Clic. |