Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Iau, 11eg Gorffennaf, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Cynigion yr adolygiad ar y Meysydd Parcio Talu ac Arddangos oddi ar y stryd, Mehefin 2024 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet, yr adroddiad am  gynigion yr adolygiad ynghylch y Meysydd Parcio Talu ac Arddangos oddi ar y stryd, Mehefin 2024 ac ar ôl hynny, rhoddodd Mr Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol gyflwyniad Pwyntpwer manwl am y cynigion ynghylch adolygu’r meysydd parcio. Rhannwyd y wybodaeth ganlynol:-

 

  • Cefndir
    • Pecyn o gynigion i gyflawni’r targed o ran incwm
    • Angen eu hystyried / eu derbyn yn eu cyfanrwydd
    • Symleiddio’r taliadau a godir a’r trefniadau 
    • Byddai methu â chwrdd â’r targed yn golygu rhagor o doriadau i’r gwasanaethau / swyddogaethau o fewn Priffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddol

 

o   Gwaredu’r opsiynau presennol ar gyfer tocyn tymor penodol mewn maes parcio

o   Sefydlu Tocyn Tymor newydd ar gyfer Parcio Arhosiad Hir yng Ngheredigion

o   Sefydlu Tocyn Tymor newydd o ran Parcio Arhosiad Hir                     ar gyfer Ffordd y Gogledd a Cheredigion

o   Adolygu graddfa’r taliadau ar gyfer Tocynnau Tymor

 

 

 

  • Newid dynodiad maes parcio Rhes Gloster

o   Newid y dynodiad i fod yn faes parcio ar gyfer deiliaid Tocyn Tymor

o   Maes parcio bach ydyw sydd ond â hyn a hyn o lefydd

o   Mynediad i'r maes parcio wedi'i gyfyngu'n fawr oherwydd y lleoliad

o   Ni ystyrir ei fod yn gost effeithiol i osod peiriant talu ac arddangos newydd

 

·       Newid dynodiad maes parcio Pendre

o   Yn hanesyddol, maes parcio i Ddeiliaid Trwyddedau yn unig

o   Gwell ei ddefnyddio fel maes parcio Talu ac Arddangos arhosiad byr

o   Lleoliad dethol, yn agos i’r prif fannau siopa

o   Mynediad gwastad i'r rheiny sydd ag anhawster o ran symudedd

o   Darperir parcio am ddim y tu allan i’r oriau codi tâl

 

·       Symleiddio taliadau / tariffau

o   Pob math o gerbydau yn talu'r un gyfradd mewn maes parcio

o   Dau fand o daliadau – arfordir a mewndir Ceredigion

o   Safoni'r tariffau ym mhob maes parcio 2 awr, 4 awr a 24 awr

o   Cael gwared ar yr opsiwn o brynu tocyn wythnosol

o   Cysondeb o ran codi tâl drwy’r flwyddyn a’r oriau codi tâl

 

·       Lleihau pa mor aml y newidir ffioedd a thaliadau

o   Ar hyn o bryd adolygir hyn yn flynyddol fel rhan o'r broses o bennu ffioedd a thaliadau

o   Cynnig newid i gylch adolygu o 3 blynedd neu 5 mlynedd

o   Lleihau costau

o   Lleihau gwaith gweinyddol 

o   Cysondeb tymor hir

o   Mwy o sicrwydd i gwsmeriaid

o   Sefydlogi’r prisiau am gyfnod

 

·       Newid y dull o godi tâl ar Ddeiliaid Bathodynnau Glas

  • Ar hyn o bryd, dim ond pobl sy’n bodloni meini prawf penodol sy’n medru parcio am ddim
  • Cynnig bod pob deiliaid Bathodyn Glas yn derbyn awr ychwanegol o barcio am ddim ar ben y cyfnod y maent yn talu amdano
  • Cyd-fynd â’r hyn sy’n digwydd mewn awdurdodau cyfagos
  • Haws  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cynigion ynghylch Codi Tâl am Barcio ar y Stryd - Promenâd Aberystwyth pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet yr adroddiad am y

Cynigion ynghylch Codi Tâl am Barcio ar y Stryd – Promenâd Aberystwyth

ac ar ôl hynny, rhoddodd Mr Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol gyflwyniad Pwyntpwer manwl am y cynigion. Rhannwyd y wybodaeth ganlynol:-

 

  • Cefndir
    • Man cychwyn i’w weld yn yr astudiaethau blaenorol:
    • Cynllun Mawr Aberystwyth: Datganiad Trafnidiaeth 2006
    • Adroddiad Capita 2016
    • Angen sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion y trigolion lleol, busnesau, myfyrwyr ac ymwelwyr â’r dref

 

  • Y Ddeddfwriaeth Alluogi
    • Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984
    • Adrannau 45-46 yn galluogi awdurdodau lleol i ddynodi mannau parcio ar y briffordd a chodi tâl am eu defnyddio.
    • Wrth gyflwyno’r newidiadau hyn, bydd angen gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus
    • O dan Adran 55, Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, mae'n ofynnol i'r Cyngor Sir gadw cyfrif o’r incwm a’r gwariant
    • Gellir defnyddio unrhyw warged ar gyfer y canlynol:
    • Unioni diffygion yn y cyfrif parcio
    • Ariannu cost y seilwaith ar gyfer parcio oddi ar y stryd 
    • Gwasanaethau Bysiau Cyhoeddus
    • Gwelliannau i’r priffyrdd
    • Gwelliannau amgylcheddol
    • Y Cynnig

o   Efallai na fydd yr egwyddor codi tâl yn boblogaidd nac ychwaith yn rhywbeth y mae pawb yn ei dderbyn

o   Bydd y cynnig yn arwain at ddarparu mwy o lefydd parcio drwy sicrhau bod mwy o fynd a dod o ran y cerbydau sy’n defnyddio’r llefydd parcio heb fod hyn yn effeithio’n negyddol ar economi’r dref a llesiant y trigolion

 

·       Yr Achos dros Newid – Manteision y Cynllun

o   Mwy o fynd a dod o ran cerbydau sy’n parcio ar y stryd

o   Y cynnydd a ragwelir mewn busnes

o   Defnyddio mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus

o   Lleihau tagfeydd traffig

o   Gwella llif y traffig

o   Mwy o deithio llesol

 

·       Y trefniadau ar gyfer Deiliaid Bathodynnau Glas

  • Byddai Deiliaid Bathodynnau Glas:
  • yn cael eu heithrio o dalu am barcio mewn man y codir tâl amdano
  • yn cael eu heithrio o unrhyw gyfyngiadau amser pan fyddent yn parcio mewn man y codir tâl amdano

 

  • Strwythur Codi Tâl
    • £3.50 am 2 awr
    • £5.00 am 4 awr

 

  • Y tybiaethau o ran codi tâl
  • Codir tâl rhwng Trwyn y Castell a Chraig-glais
  • Rhwng 8am a 8pm
  • Llun – Sul (7 diwrnod yr wythnos)
  • Modd i bobl dalu i barcio am naill ai 2 awr neu 4 awr 
  • Modd i bobl dalu drwy ap / ar y ffôn neu drwy ddefnyddio peiriannau Talu ac Arddangos di-arian

 

 

Yn dilyn cwestiynau o’r llawr ac eglurhad ynghylch y cynigion, gofynnodd y Cadeirydd am unrhyw welliannau / cynigion eraill y byddai modd i’r Pwyllgor  eu hargymell i’r Cabinet ond ni chyflwynwyd yr un gwelliant na chynnig arall. PENDERFYNWYD y byddai pleidlais gofrestredig yn cael ei chynnal ac roedd y bleidlais fel a ganlyn: -

 

O blaid: Y Cynghorwyr Chris James a Maldwyn Lewis (2)

 

Yn erbyn: Gwyn Wigley Evans, Shelley Childs, Gethin Davies, Meirion Davies, Wyn Evans, Sian Maehrlein, John Roberts a Carl Worrall (8)

 

 

Yn ymatal: Y Cynghorydd Marc Davies (1)

 

Felly cytunwyd i beidio â chefnogi’r cynigion ynghylch cyflwyno  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Gwasanaeth y Gaeaf pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Ystyriwyd yr Adroddiad ynghylch Gwasanaeth y Gaeaf a oedd yn rhoi adolygiad cyflawn o Wasanaeth y Gaeaf i aelodau’r Pwyllgor. Darparodd Mr Phil Jones, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau’r Priffyrdd y wybodaeth ganlynol ar ffurf cyflwyniad PwyntPwer:-

 

  • Y Sefyllfa Gyfreithiol
    • Dyletswydd statudol awdurdodau priffyrdd i gynnal a chadw’r briffordd yn unol ag Adran 41(1A) o Ddeddf Priffyrdd 1980.
    • Nid yw’n rhesymol:

           Darparu’r gwasanaeth ar bob rhan o’r Rhwydwaith;

           na chwaith

Sicrhau bod arwynebau rhedeg yn cael eu cadw'n rhydd o rew neu eira drwy’r amser, hyd yn oed ar y rhannau o'r rhwydwaith sydd wedi'u trin.

 

  • Gan ddychwelyd i’r hyn a ystyrir yn ‘rhesymol’, wrth gymharu canran y ffyrdd sirol sy’n cael eu trin ymlaen llaw os bydd rhew neu eira yn cael eu rhagweld yn yr awdurdodau sy’n ffinio â ni, mae Ceredigion ar tua 20% tra bod Sir Benfro a Phowys yn 19%, a Sir Gaerfyrddin yn 22%.

 

  • Adolygiad 2024-25

Bydd angen i'r diweddariad arfaethedig cyn Tymor y Gaeaf 2024-25 gyd-fynd â'r Cod Ymarfer newydd cymeradwy ar gyfer Polisi Arolygu Diogelwch Priffyrdd a Chywiro Diffygion, sy’n argymell blaenoriaethu yn seiliedig ar risg, wedi’i lywio gan ddata.

 

  • Sgoriau Asesiad 2024-25

Mae pob llwybr wedi’i ailasesu gan ddefnyddio’r matrics asesu newydd gyda’r canlyniad bod y sgoriau a briodolir i bob llwybr unigol, neu efallai i rannau o’r llwybrau os yw hynny’n berthnasol, wedi’u hailasesu.

 

  • Cyllideb / Hyd y Llwybrau sy'n cael eu Trin Ymlaen Llaw

Gosodwyd y trothwy ar gyfer triniaeth ymlaen llaw o dan fatrics asesu 2018 ar +2, sy'n cyfateb i driniaeth ymlaen llaw ar hyd 463.1km o’r rhwydwaith. Nododd yr adroddiad bryd hynny y byddai hyn yn gofyn am gynnydd o £18k yn narpariaeth gyllidebol Gwasanaeth y gaeaf, er mwyn prynu halen ar sail gaeaf cyfartalog.

 

Yn dilyn ailasesu/adolygu yn 2024 mae’r hyd rhwydwaith agosaf at 463.1km yn cyd-daro â sgôr o +1 ar 458.1km.

Dyma’r llwybrau o 2018 sy’n cyrraedd sgôr y trothwy yn dilyn ailasesiad 2024 ac a fydd yn cael eu trin ymlaen llaw:

 

Rhodfa’r Felin, Aberteifi, (+2) (0.87km)

 

Dyma’r llwybrau o 2018 nad ydynt yn cyrraedd sgôr y trothwy yn dilyn ailasesiad 2024 ac na fydd yn cael eu trin ymlaen llaw:

 

B4570 Manarafon i Gwm Cou, (-1) (13.7km)

          C1001C cyffordd â’r C1007 Comins Coch - Capel Dewi, (-7) (1.9km)

         

  • Cwtogiadau Costau / Pwysau Cyllidebol

Y gyllideb ar gyfer darparu gwasanaeth y gaeaf yn 2023-24 oedd £232,000.

Ar 29/02/24 pennodd Cyngor Sir Ceredigion ei gyllideb ar gyfer 2024-2025. Roedd y cynigion hyn yn cynnwys gostyngiad o £25k yn y gyllideb ar gyfer Gwasanaeth y Gaeaf, ac felly ar gyfer 2024-25 roedd y gyllideb hon wedi'i lleihau i £207,000, gostyngiad o 11%.

Roedd adolygiad 2024-25 wedi nodi pwysau cost ychwanegol wrth ddarparu'r gwasanaeth, ac roedd y rhain yn cynnwys cynnydd oherwydd,

  1. Peiriannau
  2. Diesel +31%
  3. Llafur +13%
  4. Deunyddiau (halen) +29%

 

  • Cynigion ynghylch Arbed Costau

Er mwyn lliniaru cymaint ag y bo modd y pwysau costau a osodir gan doriadau cyllideb a phwysau chwyddiant ar beiriannau, llafur, diesel a deunyddiau, roedd y Gwasanaeth yn cynnig bod y mesurau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfodydd blaenorol.

7.

Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cynnwys y Flaenraglen Waith yn amodol ar ychwanegu adroddiad am gasglu sbwriel oherwydd y problemau diweddar o ran methu â chasglu sbwriel yn ne’r Sir.