Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi a Pherfformiad a Phobl a Threfniadaeth am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio).

3.

Gwasanaeth Casglu Gwastraff pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd y Cadeirydd mai diben y cyfarfod oedd gwrando ar y rhesymau dros yr amharu a fu i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff ym mis Rhagfyr 2022, a cheisio canfod ffordd ymlaen i ddatrys y materion sy’n effeithio ar y gwasanaeth.

 

Diolchodd Eifion Evans, y Prif Weithredwr, i’r Cadeirydd a’r Pwyllgor am eu hamynedd gan ganiatáu i’r swyddogion ganolbwyntio ar y gyllideb cyn trefnu’r cyfarfod heddiw. Cydnabuwyd y bu tarfu ar y gwasanaeth yn ystod mis Rhagfyr 2022, a oedd wedi arwain at anfodlonrwydd ymhlith y cyhoedd. Roedd y Gwasanaeth Casglu Gwastraff yn darparu gwasanaeth ardderchog a chanmolwyd y staff am eu parodrwydd i barhau i gasglu gwastraff drwy gydol y pandemig COVID-19. Cyfrannodd nifer o ffactorau at y tarfu a welwyd ym mis Rhagfyr 2022 a byddai’r cyd-destun yn cael ei amlinellu maes o law ynghyd ag opsiynau amrywiol i geisio datrys y materion, ond roedd yn bwysig iawn nodi nad oedd unrhyw fai ar y staff. Roedd swyddogion wedi cael eu herio’n rheolaidd gan aelodau etholedig, a oedd wedi cael eu herio gan aelodau’r cyhoedd ynghylch y mater ac roedd nifer o drafodaethau wedi’u cynnal rhwng y swyddogion ac arweinwyr y grwpiau gwleidyddol.

 

O ran y Gwasanaeth Casglu Gwastraff, cyflogir tua 28 aelod o staff ym mhob un o’r 2 depo gweithredol ac oherwydd natur eu contractau, roedd uchafswm o 4 aelod o staff yn cael bod ar wyliau ar unrhyw adeg, heb ystyried y staff a oedd yn absennol oherwydd salwch. Gan fod gwyliau banc a ‘chwmni’ (tri diwrnod o wyliau sefydlog rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd) yn cael eu gweithio ar sail goramser gwirfoddol ar hyn o bryd, nid oedd swyddogion wedi gallu cael digon o staff i ddarparu’r gwasanaeth yn ystod y cyfnodau hyn. Yn hanesyddol roedd mwy o gydnerthedd yn y gwasanaeth ond yn ystod y degawd diwethaf collwyd £72 miliwn o arian craidd oddi wrth Lywodraeth Cymru a chollwyd 750 o swyddi ar draws gwasanaethau’r Cyngor. Pan nad oedd unrhyw faterion yn codi, roedd y gwasanaeth yn rhedeg yn effeithiol ac yn effeithlon gyda lefel uchel iawn o ddibynadwyedd, ond roedd gallu ymateb i argyfyngau’n heriol. Roedd yr Uwch Swyddogion yn pwysleisio o hyd na allai aelod o staff gyflawni rôl megis gyrru neu lwytho Cerbydau Casglu Sbwriel (RCV) oni bai bod gan yr unigolyn yr hyfforddiant, cymwysterau a’r profiad addas.

 

Esboniodd Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol, y bu 3 achos o darfu ar y gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2022:

 

1.      Amharwyd ar y gwasanaeth oherwydd y tywydd eithafol, pan aeth y swyddogion ati i flaenoriaethu’r gwaith graeanu yn hytrach na chasglu gwastraff, er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd. Ar yr un pryd, darparwyd cymorth i Dŵr Cymru i ddosbarthu dŵr yn ystod toriad yn y cyflenwad, yn enwedig yn ne'r Sir.

2.      Amharwyd ar y casgliadau yn ystod y Nadolig / y Flwyddyn Newydd oherwydd natur y contractau sydd ar waith a’r 3 diwrnod o wyliau blynyddol penodedig y mae hawl gan staff eu cymryd, a arweiniodd at brinder  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2023.

 

Materion sy’n codi: Dim.