Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Llun, 18fed Mawrth, 2024 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Chris James a Maldwyn Lewis fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu o dan eitem 4 a gadawsant y cyfarfod pan oedd y mater hwnnw’n cael ei drafod.

3.

Y Gwasanaeth Casglu Gwastraff pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon) drosolwg o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023, gan gynnwys y materion allweddol a drafodwyd, y pwyntiau gweithredu a’r cynnydd hyd yma.

 

Ers y cyfarfod ar 21 Mawrth 2023, roedd rhagor o wybodaeth ar gael oedd yn tystio nid yn unig i’r gwelliant ym mherfformiad y gwasanaeth o safbwynt casglu gwastraff dros y 9 mis diwethaf ond oedd hefyd yn darparu gwybodaeth am berfformiad rhagorol y gwasanaeth yn genedlaethol a hynny drwy ddadansoddi data yn wrthrychol. Darparwyd trosolwg o’r data ar ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio gwastraff trefol ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) ac o Adroddiad Blynyddol ar Ddata Cyllid Gwastraff, ynghyd ag adroddiad cryno ar ffurf ddrafft gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Ar lefel Ceredigion, roedd y gwasanaeth wedi pennu cyfres o fesurau perfformiad er mwyn mesur a monitro’r gwasanaeth roedd yn ei ddarparu i'w drigolion, gyda’r nod o sicrhau bod dros 90% o'r llwybrau yn cael eu cyflenwi ar y diwrnod casglu rheolaidd, a 95% yn cael eu cyflenwi yn ystod yr wythnos gasglu reolaidd.

 

Rhoddodd Rhodri Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol gyflwyniad i'r Pwyllgor yn amlinellu'r canlynol:

·       Aflonyddwch 22-23

·       Prif Faterion i’w Ystyried

·       Opsiynau Posibl Am Y Dyfodol

·       Gweithredoedd

·       Sefyllfa Bresennol (Perfformiad Ailgylchu, Ffigurau Ailgylchu CSC 23/24 ac Adroddiadau CLlLC 21/22)

·       Pwyntiai eraill i’w nodi

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Rhodri Llwyd a’r Cynghorydd Keith Henson. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       O ran yr Adolygiad o Safleoedd Gwastraff Cartref (SGC), roedd opsiynau'n cael eu harchwilio a byddai'r manylion yn cael eu rhannu â'r Aelodau yn unol â hynny. Nodwyd bod gan Gyngor Sir Ceredigion (CSC) fwy o ddarpariaeth o SGC y pen nag unrhyw Awdurdod Lleol (ALl) arall ledled Cymru. Er gwaethaf pryderon y byddai cau un o'r SGC yn arwain at fwy o dipio anghyfreithlon, mae tystiolaeth o Awdurdodau Lleol eraill yn awgrymu nad yw hyn yn wir.

·       Roedd y gostyngiad yn y cyfraddau ailgylchu yn 23/24 o 75.91% yn chwarter 1 i 70.47% yn chwarter 3 o ganlyniad i ostyngiad yn y broses o ailgylchu sgubo priffyrdd yn chwarter 3. Ar hyn o bryd roedd gan CSC 3 ysgubwr priffyrdd a oedd ar y rhaglen i'w newid.

·       O ran adolygu contractau staff gweithrediadol, trefnwyd cyfarfod gyda'r gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth i drafod y ffordd ymlaen a pha un ai fod angen trafodaethau pellach.

·       Yn dilyn cymeradwyo'r uchafswm o 3 bag du o wastraff gweddilliol y cartref fesul casgliad pob 3 wythnos, codwyd pryderon ynghylch ymarferoldeb ac effaith y penderfyniad hwn ar breswylwyr (e.e. Tai Aml-feddiannol). Roedd trafodaethau'n parhau ynghylch y newidiadau a byddai gwersi'n cael eu dysgu o Awdurdodau Lleol eraill ledled Cymru a oedd eisoes wedi gweithredu hyn. Byddai Strategaeth Gyfathrebu yn cael ei datblygu i rannu gwybodaeth gydag Aelodau Etholedig a'r cyhoedd.

·       Ystyriwyd bod addysgu'r cyhoedd am bwysigrwydd ailgylchu yn allweddol, wrth i ddata awgrymu bod dros 50% o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Argaeledd grantiau i sefydliadau a busnesau yng Ngheredigion pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Eglurodd Arwyn Davies, Rheolwr Corfforaethol, Twf a Menter bod amrywiaeth o grantiau ar gael yng Ngheredigion i sefydliadau a busnesau at wahanol ddibenion, yn bennaf i gefnogi eu twf, eu harloesodd a'u cyfraniad i'r economi. Rhoddwyd rhai o’r rhesymau pam roedd busnesau’n derbyn grantiau gan y sector cyhoeddus. Yn gyffredinol, roedd grantiau'n cymell twf busnes, arloesi a datblygiad economaidd-gymdeithasol trwy ddarparu cymorth ariannol a chefnogaeth i fusnesau oedd yn dangos eu bod yn cyfrannu i’r amcanion cyhoeddus hyn. Roedd grantiau hefyd ar gael i sefydliadau cymunedol i gefnogi datblygiad mentrau oedd yn cefnogi datblygiad cyfleusterau a gweithgareddau yn y cymunedau hynny.

 

Roedd y wybodaeth yn yr adroddiad ond yn gynrychiolaeth o rywfaint o'r cyllid cymorth oedd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau a sefydliadau yng Ngheredigion, ac nid oedd yn rhestr gynhwysfawr. Roedd llywodraethau neu gyrff y Llywodraeth yn lansio rhaglenni ariannu ar wahanol adegau i gefnogi blaenoriaethau a pholisïau'r Llywodraeth, felly cynghorwyd busnesau i ddefnyddio’r gefnogaeth oedd ar gael a chwilio'n eang am gymorth a allai fod ar gael ar unrhyw un adeg.

 

Darparwyd trosolwg o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) a oedd wedi galluogi sefydlu dau gynllun grant (Cronfa Datblygu a Chymorth Cymunedol Cynnal y Cardi a Chronfa Cefnogi Busnesau Lleol Cynnal y Cardi). Nodwyd, er bod y grantiau'n fach o ran swm ar brydiau, roeddent yn rhoi hyder i'r rhai a oedd wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais ac a allai hefyd ddenu buddsoddiad preifat. Awgrymodd data diweddar fod mwy o fusnesau newydd wedi cychwyn yng Ngheredigion o'i gymharu â'r rhai oedd wedi cau dros y 2-3 blynedd diwethaf. Cyfrannodd sawl ffactor at hyn, gan gynnwys cymorth ariannol.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan Arwyn Davies. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Rhaglen 3 blynedd oedd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Cynnal y Cardi 2022-25, ac fe rannwyd y £12m a ddyrannwyd i Geredigion rhwng llawer o fusnesau a sefydliadau. Roedd nifer o brosesau ynghlwm â chyflawni'r gwaith o fewn y cyfnod hwn, gan gynnwys sefydlu'r rhaglenni, cymeradwyo ceisiadau a phrosesu'r ceisiadau unwaith y mae’r gwaith wedi'i gwblhau. 

·       Cytunodd y Bartneriaeth i gau cyfnod ymgeisio am grantiau Cynnal y Cardi 2022-25 ar 25 Mawrth 2024 oherwydd y nifer uchel o geisiadau ac er mwyn caniatáu i'r ceisiadau presennol gael eu hasesu. Roedd ailagor cyfleoedd cyllid grant yn ddibynnol ar addasrwydd y ceisiadau. Roedd yr un peth yn wir am y grantiau cymunedol.

·       Ystyriwyd fod grantiau i gefnogi busnesau a sefydliadau yn hanfodol, ac roedd yn gadarnhaol bod lefel uchel o ddiddordeb wedi bod o fewn y sir, a oedd yn adlewyrchu'r angen am gefnogaeth. Anogodd yr Aelodau ar y gwasanaeth i sicrhau nad oedd unrhyw gyllid a ddyrannwyd i'r ALl heb ei ddefnyddio.

·       Asesodd Panel geisiadau Cynnal y Cardi a sgoriwyd pob cais yn annibynnol. Ystyriwyd nifer o ffactorau, gan gynnwys y cynllun busnes, a sut y mae'n cyd-fynd â'r strategaeth economaidd leol. Pe bai busnes wedi methu'r trothwy o drwch blewyn, darparwyd adborth a lle’r oedd amser  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2024.

 

Materion sy’n codi: Esboniodd y Cynghorydd Carl Worrall ei fod yn bresennol yn y cyfarfod blaenorol, er nad oedd ei enw wedi’i gynnwys yn y cofnodion. 

6.

Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD nodi cynnwys y Flaen raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·     Cynllun Asedau Priffyrdd (Mehefin neu Orffennaf 2024)

·     Dogfennau monitro Adroddiad Refeniw Chwarterol / Cyllideb (Mehefin 2024)

·     Adroddiad ar effaith grantiau a chymorth ar fusnesau a sefydliadau Ceredigion (diwedd 2024)

·     Diweddariad ar briffyrdd Cyngor Sir Ceredigion

·     Diweddariad ar effaith cyflwyno'r terfynau cyflymder o 20mya

 

Eglurodd y Cadeirydd mai hwn oedd ei gyfarfod olaf fel Cadeirydd y Pwyllgor. Diolchodd i bawb am eu cyfraniad dros y ddwy flynedd ddiwethaf.