Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Llun, 18fed Rhagfyr, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i.      Ymddiheurodd y Cynghorwyr Marc Davies, Meirion Davies a John Roberts am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii.     Ymddiheurodd y Cynghorydd Rhodri Davies am ymuno a’r cyfarfod yn hwyr.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio).

3.

Adolygu Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion: Ymgynghoriad pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Keith Henson (Aelod o’r Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon) ddiweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar ganlyniad proses ymgynghori Polisi Rheoli Harbyrau Ceredigion. Cymeradwywyd Polisi presennol Rheoli Harbyrau Ceredigion gan y Cyngor ar 19 Hydref 2010 ac roedd wedi darparu fframwaith clir, defnyddiol a phriodol ar gyfer cyflawni a rheoli’r gweithgarwch yn Harbyrau'r Cyngor yn Aberaeron, Aberystwyth a Chei Newydd. Fodd bynnag, erbyn hyn ystyriwyd ei bod yn briodol ac yn amserol i adolygu a diweddaru’r Polisi i adlewyrchu’r newidiadau perthnasol ers i'r Polisi gael ei roi ar waith. Hefyd, i fynd i'r afael ag unrhyw fylchau rhwng y Polisi a gweithgarwch presennol yr Harbyrau oedd wedi'u nodi neu oedd yn deillio o brofiad. Roedd y newidiadau a gynigwyd yn adeiladu ar y Polisi presennol oedd wedi gwasanaethu’r rhanddeiliaid yn dda ers dros ddegawd. Roedd y newidiadau yn cydnabod ac yn adlewyrchu bod yr Harbyrau yn gyfleusterau aml-ddefnydd oedd yn cael eu rhannu, a bwriad cyffredinol y Cyngor oedd i gryfhau'r Polisi fel y gellid parhau i reoli'r rhain mewn ffordd deg, dryloyw a chytbwys er budd yr holl randdeiliaid.

 

Roedd Polisi drafft diweddaredig wedi’i baratoi ac fel rhan o'r broses o newid polisi, cynhaliwyd ymgynghoriad gan roi cyfle i randdeiliaid roi eu barn. Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 20 Medi 2023 ac roedd ar agor hyd 20 Hydref 2023. Yn gyfan gwbl, cafwyd 108 o ymatebion drwy’r broses ymgynghori benodedig. Cafwyd a nodwyd adborth drwy ffyrdd eraill hefyd. Cafwyd trosolwg o'r adborth a dderbyniwyd. Yn dilyn yr adborth a gafwyd drwy’r broses ymgynghori, gwnaed newidiadau i ddrafft diweddaraf y Polisi newydd. Fel gydag unrhyw ymgynghoriad oedd yn ymwneud â newid polisi, nid oedd yn bosib ymateb yn gadarnhaol i'r holl adborth ac awgrymiadau a sylwadau a ddaeth i law. Yn wir, gall amcanion, dyheadau a disgwyliadau'r gwahanol randdeiliaid wrthdaro â’i gilydd

 

Eglurodd y Cynghorydd Keith Henson a Gerwyn Jones, Rheolwr Corfforaethol- Gwasanaethau Amgylcheddol mai’r bwriad oedd cael fframwaith polisi eang oedd yn cefnogi ac yn hwyluso’r gwaith o reoli’r harbyrau yn deg, yn gyson ac yn dryloyw gan gydnabod amrywiaeth y rhanddeiliaid oedd yn defnyddio'r cyfleusterau. Derbyniwyd na fyddai pawb yn cymeradwyo nac yn cytuno â'r manylion a'r goblygiadau. Fodd bynnag, cyfleusterau a weithredwyd gan y Cyngor oedd y rhain, ac yn y pen draw mater i'r Cyngor oedd penderfynu sut orau i’w rheoli nhw a'r gweithgarwch oedd yn digwydd ynddynt.

 

Ychwanegodd Gerwyn Jones fod camddealltwriaeth wedi bod ynghylch amserau aros a bod hyn wedi’i adlewyrchu yn yr adborth. Hefyd os oedd cwch ar werth gydag angorfa, y gallai hyn greu premiwm artiffisial. O’r 108 o ymatebion, rhoddodd 33 eu barn ar y polisi er iddynt ddweud nad oeddent yn ymwybodol o’i fodolaeth, felly roedd yn bwysig cael dull cytbwys o ymdrin â’r mater.

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·        Roedd yr Aelodau'n gefnogol i dynnu ymaith yr hawliau trosglwyddo ac etifeddu o’r trefniadau angori ar gyfer deiliaid hamdden yn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Torri Porfa pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cynghorydd Keith Henson fod y papur yn nodi sut caiff y gwasanaeth Torri Porfa ei reoli, y rhesymeg y tu ôl hyn a’r costau cysylltiedig. Yn 2014 – 15 gostyngwyd prif doriad ymyl y ffordd i un toriad. Gwnaed hyn yn sgil toriadau a wnaed i’r gwasanaeth yn dilyn adolygiad o Wasanaethau’r Cyngor y flwyddyn honno. Drwy gydnabod hyn. penderfynwyd torri mewn ardaloedd penodol yn hytrach nag yn ôl hierarchaeth ffyrdd, er bod rhywfaint o drawsgroesi.

 

Yn y drefn gyfredol, roedd angen gwneud toriadau ar sail ‘diogelwch / gwelededd’ yn gyntaf (cyffyrdd a llinellau gwelededd) ac yna’r ardaloedd oedd yn tyfu’n gynnar. Yn sgil yr hinsawdd, roedd tyfiant yn gynt yn y de felly roedd y gwasanaeth yn gweithio o’r de i’r gogledd. Roedd 70% o’r rhwydwaith yn Ffyrdd Dosbarth C a Ffyrdd Di-ddosbarth ac roedd llwyddo i fynd i’r holl lonydd cul yn her. Wrth gwrs, roedd adnoddau’n brin ac ni allant dorri bob ymyl y ffordd ar yr un pryd, felly roedd rhai yn cael eu torri’n gynt nag eraill. Naill ffordd, roedd posibilrwydd y byddai amseriad y toriadau yn denu cwynion.

 

Roedd y contractwr wedi bod yn torri profa ers nifer o flynyddoedd ac roedd y gwasanaeth yn ceisio peidio â gwyro’r contractwr o’r rhaglen am fod costau ychwanegol yn gysylltiedig â hyn. Fodd bynnag, gellid newid y rhaglen os oedd angen am resymau diogelwch y ffyrdd. Roedd Swyddog yn archwilio pob cais i dorri porfa a dderbyniwyd gan asesu a oedd y rheswm yn ddigonol i wyro adnoddau. Roedd yn cymryd oddeutu 6 wythnos i gwblhau’r prif doriad. Roedd y gwasanaeth yn cynnal cyfarfod briffio gyda’r contractwr cyn y tymor torri ac ar ôl hynny.

 

Rhannwyd y Sir i 10 ardal. Roedd 9 ardal yn cynnwys ffyrdd y sir ac un ardal ar wahân ar gyfer y cefnffyrdd sef ardal rhif 10 caiff ei rheoli ar ran NMWTRA. Roedd yr Awdurdod bob amser yn gorfod adolygu safonau yn y cytundebau lefel gwasanaeth er mwyn adlewyrchu’r gostyngiad yn y gyllideb i’r gweithgareddau cynnal a chadw priffyrdd amrywiol. Roedd blaenoriaethau yn y dyfodol yn debygol o arwain at ffocysu mwy ar risg a diogelwch y ffordd a llai ar ymddangosiad esthetaidd yr ardaloedd porfa a gaiff eu cynnal a’u cadw.

 

Cyfeiriwyd at y canlynol a nodwyd yn yr adroddiad:

·       Toriadau ar y Brif Ffyrdd

·       Torri porfa - mannau amwynder

·       Mannau Trefol â Blodau Gwyllt

·       Mannau Cadwraeth ger y Ffordd

·       Costau’r Gwasanaeth

 

Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb gan y Swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd:

·       Roedd toriadau amwynder yn cael eu gwneud yn fewnol gan y tîm Cynnal a Chadw Tiroedd a hynny bedair gwaith y flwyddyn. Diogelwch ar y ffyrdd oedd y prif reswm dros dorri porfa.

·       Fe wnaeth Aelodau godi pryderon nad oedd rhai ardaloedd yn eu wardiau yn cael eu torri'n gyson. Nodwyd y gallai cyrff gwahanol fod yn gyfrifol am yr ardal o borfa, megis cymdeithasau tai a pherchnogion tir. Cytunodd y swyddogion i rannu manylion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Blynyddol y Fforwm Mynediad Lleol pdf eicon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Eifion Jones, Swyddog Llwybrau Cyhoeddus ac Ysgrifennydd y Fforwm Mynediad Lleol, wedi rhoi trosolwg o Adroddiad Blynyddol y Fforwm Mynediad Lleol ac o waith a rôl y Fforwm. Sefydlwyd Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion yn unol â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i gynghori’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill ynghylch y ffordd y gellid gwella a rheoli mynediad i gefn gwlad. Roedd Fforymau Mynediad Lleol yn cynrychioli amrywiaeth eang o fuddiannau ac roedd yr aelodau yn chwarae rôl bwysig o ran gwella a rheoli mynediad i gefn gwlad amrywiol ac atyniadol y sir

 

Penodwyd aelodau’r Fforwm Mynediad Lleol am dair blynedd; penodwyd y Fforwm presennol gan Gyngor Sir Ceredigion, sef yr Awdurdod Penodi, yn 2022 a bydd yr aelodau’n eistedd ar y fforwm tan 2025. Nid yn unig yr oedd y Fforwm yn gorff statudol a anogir i osod ei agenda ei hun, yr oedd yn allweddol ar gyfer denu grantiau a oedd yn werth dros £100,000 y flwyddyn. Hefyd roedd yn bartner wrth reoli Hawliau Tramwy a Mynediad. Lluniwyd yr adroddiad blynyddol yn unol â Rheoliad 16 Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001.

 

Estynnodd y Cynghorydd Clive Davies (Aelod o’r Cabinet dros yr Economi ac Adfywio) ei ddiolch i Eifion Jones am lunio’r adroddiad. Fel aelod o’r Fforwm, dywedodd fod y gwaith - a’r cyflwyniadau a wneir gan gyrff allanol - yn ddiddorol iawn.

 

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor i nodi’r wybodaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o waith y Fforwm Mynediad Lleol a’r Adroddiad Blynyddol a baratowyd.

6.

Adborth yn dilyn yr ymweliad â Chanolfan Bwyd Cymru pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adborth yn dilyn ymweliad y Pwyllgor â Chanolfan Fwyd Cymru yn Horeb, Llandysul. Estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch i Angela Sawyer, Uwch-Dechnolegydd Bwyd, am gyflwyniad llawn gwybodaeth a thaith o amgylch y safle.

 

Nododd Aelodau'r Pwyllgor yr adroddiad.

7.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2023.

 

Materion sy’n codi: Dim.

8.

Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·       Gwybodaeth am y grantiau sydd ar gael ar gyfer mudiadau a busnesau.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch i bawb a dymunodd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un.