Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd y Cynghorwyr John Roberts a Chris James am nad oeddent yn
gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. ii.
Ymddiheurodd y Cynghorydd Carl Worrall y byddai’n
gadael y cyfarfod yn gynnar. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio). |
|
Cynigion a Chyfleoedd ar gyfer Parcio Cofnodion: Eglurodd y
Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau
Amgylcheddol a Rheoli Carbon) mai pwrpas yr adroddiad oedd darparu gwybodaeth
ynglŷn â’r ddau argymhelliad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 5 Medi 2023 fel y
nodwyd isod: Argymhelliad 1: Bod y Cabinet yn ystyried cynnal adolygiad
ynghylch codi tâl am barcio ar hyd y Promenâd yn Aberystwyth. Argymhelliad 2: Bod y Cabinet yn ystyried cynnig i roi 2 awr o barcio am ddim rhwng 8am a 10am, o
ddydd Llun i ddydd Gwener, mewn un maes parcio ym mhob un o drefi Llanbedr
Pont Steffan, Aberaeron ac Aberteifi. Rhoddodd Rhodri
Llwyd, Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
gyflwyniad i’r Pwyllgor ynglŷn â pharcio ar bromenâd Aberystwyth.
Amlinellwyd y canlynol: ·
Proses ·
Ystyriaethau ·
Adborth
Rhanddeiliaid Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb
gan y Swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: ·
Pe
byddai penderfyniad yn cael ei wneud i godi tâl am barcio ar hyd y Promenâd,
teimlai’r Aelodau y byddai parcio ar gyfer preswylwyr yn allweddol. Awgrymwyd y
dylid ymchwilio i’r ffioedd a godir ar breswylwyr ar draws Cymru i sicrhau y
byddai’r hyn a godir am barcio yn deg. Dywedwyd na fyddai trwydded ar gyfer
preswylwyr yn rhoi sicrwydd y byddai lle parcio ar gael iddynt gan fod parcio
ar y stryd yn cael ei ddarparu ar y briffordd gyhoeddus. ·
Dywedwyd
bod nifer o’r rhai a oedd yn parcio ar hyd y Promenâd yn ystod y dydd yn bobl a
oedd wedi dod i’r dref i weithio. Ar hyn o bryd, pan nad oedd llefydd ar gael,
roedd yn rhaid i breswylwyr a oedd yn byw ar y promenâd fynd i chwilio am
lefydd parcio yn y strydoedd cyfagos. Codwyd pryderon y byddai codi tâl am
barcio yn lleihau’r nifer o lefydd rhad ac am ddim gerllaw gan y byddai pobl yn
mynd ati i chwilio am y llefydd hyn. Hefyd, o ystyried yr agenda newid
hinsawdd, gallai codi tâl ar hyd y Promenâd annog mwy o bobl i ddefnyddio
trafnidiaeth gyhoeddus i ddod i’r dref. ·
Awgrymodd
yr Aelodau fod angen adolygu’r sefyllfa o ran parcio yn Aberystwyth yn ei
chyfanrwydd gan fod datblygiadau newydd wedi golygu bod llai o lefydd parcio ar
gael ac nad oedd y ddarpariaeth yn ddigonol. · Pwysleisiodd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Canolfan Bwyd Cymru Cofnodion: Rhoddwyd
ystyriaeth i’r adroddiad ar Ganolfan Bwyd Cymru, a adeiladwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yn Horeb,
Llandysul, ac fe'i hagorwyd ym 1996, i ddarparu cymorth technegol i'r diwydiant
bwyd yng Ngheredigion yn ogystal â Chanolbarth a De-orllewin Cymru. Mae ei
leoliad, yn hygyrch i gymunedau gwledig yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir
Benfro yn amlygu un o'i amcanion allweddol, sef cefnogi busnesau amaeth sydd am
arallgyfeirio i ychwanegu gwerth at gynnyrch craidd. Mae Canolfan Fwyd Cymru yn
darparu gwasanaethau technegol i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a
gweithgynhyrchwyr bwyd cenedlaethol. Mae Canolfan Bwyd Cymru wedi ffurfio
partneriaeth gyda dwy ganolfan dechnoleg fwyd arall yng Nghymru, sydd wedi'i
lleoli yn Llangefni ac yng Nghaerdydd i ddarparu cefnogaeth ledled Cymru i'r
diwydiant bwyd. Rhoddwyd trosolwg o’r ddarpariaeth bresennol gan gynnwys
gwybodaeth helaeth am brosiect Helix a’r effaith ar yr economi. Ers 2016, roedd
tîm Canolfan Bwyd Cymru wedi sicrhau canlyniadau da drwy brosiect HELIX yn unol
â’r targedau a osodwyd. Dywedwyd nad oedd y tabl yn yr adroddiad yn
adlewyrchu’r holl gymorth a ddarparwyd am mai dim ond yr ymyriadau cyntaf a
ddarperid i’r busnesau oedd modd eu cynnwys, er bod nifer yn dychwelyd sawl
gwaith y flwyddyn. O ran y dyfodol, prynodd Cyngor Sir
Ceredigion 5 erw arall o dir ger yr ystâd bresennol yn Horeb yn 2019 i hwyluso
cynlluniau twf. Ar hyn o bryd, mae dau brosiect yn cael eu datblygu a'u hasesu
i'w cynnwys yn rhaglen y Cynllun Twf ar gyfer Canolbarth Cymru: i.
Sefydlu
Canolfan Arloesi Cynhyrchu Bwyd, a fyddai'n dod â'r cyfleusterau peilot
diweddaraf ar raddfa ddiwydiannol gyda'r nod o alluogi twf mwy o fusnesau
gweithgynhyrchu bwyd canolig eu maint yng nghanolbarth Cymru. ii.
Darparu
cyfleusterau mwy o faint ar gyfer cwmnïau gweithgynhyrchu bwyd, gan adeiladu ar
yr unedau deor presennol yng Nghanolfan Bwyd Cymru. Byddai'r datblygiadau hyn yn gwella
ymhellach y ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer y sector bwyd-amaeth yng
Ngheredigion, sy'n allweddol i'w les economaidd, a byddant yn helpu i ddiogelu
dyfodol y Ganolfan a'i berthnasedd a hyfywedd hirdymor. Hefyd, roedd yna
ddatblygiadau cyffrous gan brosiectau eraill ym Margen Dwf Tyfu Canolbarth
Cymru sef ArloesiAber a Thir Glas, a fyddai’n cyd-fynd â gwaith Canolfan Bwyd
Cymru. Roedd cyllideb graidd y Ganolfan wedi cael eu hymestyn am 2 flynedd ond
nid oedd dim sicrwydd ar ôl hyn. Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb
gan y Swyddogion. Dyma'r prif bwyntiau a godwyd: ·
Nodwyd
bod y Ganolfan yn medru cefnogi busnesau o’r tu allan i Gymru yn fasnachol, ond
dim ond busnesau o Gymru oedd yn medru elwa o brosiect Helix, a dyna oedd y
ffocws ar hyn o bryd. · Roedd rhan fwyaf y busnesau a oedd yn derbyn cymorth wedi’u lleoli yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru. Roedd Rachel’s Diary a busnesau eraill a oedd wedi derbyn cefnogaeth yn gynnar ar eu siwrne wedi parhau i gael cefnogaeth wrth iddyn nhw dyfu. Wrth i’r busnesau ehangu, roedd mwy o alw am arbenigedd yn hytrach na chefnogaeth gyffredinol. Hefyd, oherwydd yr hinsawdd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2023. Materion sy’n codi: Dim. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd nodi cynnwys y Flaen raglen Waith
a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys
y canlynol: ·
Y diweddaraf am fflyd cerbydau Cyngor Sir Ceredigion (Rhagfyr
2023 os yn bosibl) |