Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Llun, 31ain Gorffennaf, 2023 10.00 am

Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Trafodaeth ar gynllunio a ffosffadau Dwr Cymru Welsh Water (DCWW) pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Dr Sarah Groves-Phillips grynodeb o’r adroddiad a gyflwynwyd ynghylch cynllunio a ffosffadau a rhoddodd Mrs Kelly Jordan, Rheolwr Cyswllt Ansawdd Afonydd (Asedau Dŵr Gwastraff) a Mr Ryan Norman, Rheolwr Twf (Datblygu) gyflwyniad PwyntPŵer am eu gwaith o ran y mater hwn. Darparwyd y wybodaeth ganlynol:-

  • Trosolwg – Cynlluniau Buddsoddi a Rhaglenni Ymchwilio Dŵr Cymru
  • Asesiad o’r Perfformiad Amgylcheddol
  • Ffosfforws – yr hyn y mae Dŵr Cymru wedi’i wneud hyd yma
  • Ffosfforws mewn Ardal Gadwraeth Arbennig
  • Deall ffynonellau ffosfforws yn Afon Teifi
  • Ffosfforws – beth am AMP7 a thu hwnt i hynny?
  • Cyfathrebu â’n rhanddeiliaid  - yr hyn yr ydym wedi’i wneud hyd yma
  • Gwasanaethau Datblygwyr a’r broses gynllunio
  • Asesiadau o ran ymgynghoriadau cynllunio
  • Adolygiadau Cyfoeth Naturiol Cymru o’r broses drwyddedau – y camau nesaf
  • Yr ymateb cynllunio yn dilyn adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru o’r trwyddedau
  • Cydweithio a Rhannu Gwybodaeth
  • Deall ein hasedau- gorlif storm
  • Y ffordd y mae’r gorlif carthffosiaeth gyfun yn gweithio.
  • Deall ein hasedau

 

Yn dilyn cwestiynau gan yr Aelodau am faterion o fewn wardiau penodol ac esboniad am y materion a godwyd yn y cyflwyniad, CYTUNWYD y dylid nodi’r sefyllfa bresennol ac y byddai dyddiadau unrhyw waith y byddai Dŵr Cymru yn ei wneud yn y Sir yn y dyfodol yn cael eu hanfon at y Cynghorwyr er gwybodaeth.

 

4.

Darparu Gwasanaeth y Gaeaf pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Phil Jones, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau Priffyrdd gyflwyniad manwl i’r Aelodau am Wasanaeth y Gaeaf gan gynnwys y materion canlynol:-

  • Y sefyllfa gyfreithiol
  • Y gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd
  • Y bwriad i leihau cyllideb y gwasanaeth cynnal a chadw dros y gaeaf
  • Yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer y dyfodol

 

Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch y ffyrdd nad oeddynt yn cael eu graeanu yn eu Wardiau. Serch hynny, yn unol â’r protocolau asesu (y matrics), roedd pob un o ffyrdd y Sir wedi’u sgorio’n wrthrychol ac roedd y sgoriau hyn wedi’u cadarnhau gan ail swyddog. Roedd materion megis a oedd y ffordd yn agos at ysgol neu ar lwybr bysiau, ac ati, hefyd yn cael eu hystyried. Awgrymwyd y dylai’r Aelodau dderbyn gwybodaeth am sgoriau’r ffyrdd nad oeddynt yn cael eu graeanu fel y gallent roi gwybod i’w trigolion am benderfyniadau’r Cyngor.

 

Yn dilyn eglurhad ynghylch y materion a godwyd yn y cyflwyniad a thrafodaeth ynghylch dulliau eraill o raeanu gan gynnwys halen craig a gofyn i ffermwyr gynorthwyo yn ystod tywydd gwael, CYTUNWYD y dylai’r swyddogion gynnal adolygiad cynhwysfawr o Wasanaeth y Gaeaf yn barod ar gyfer gaeaf 2024/25.

 

5.

Ystyried y cynnig i roi 2 awr o barcio am ddim cyn 11am ym Meysydd Parcio Talu ac Arddangos y Cyngor. pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Keith Henson yr eitem ynghylch y cynnig i roi 2 awr o barcio am ddim cyn 11am ym Meysydd Parcio Talu ac Arddangos y Cyngor a rhoddodd Mr Gerwyn Jones, Rheolwr Corfforaethol, Gwasanaethau Amgylcheddol gyflwyniad i’r aelodau. Darparwyd y wybodaeth ganlynol:-

  • Y cefndir
  • Proffil y tocynnau
  • Yr ystyriaethau
  • Yr effaith ariannol
  • Yr hyn sydd i’w ystyried a’r opsiynau

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Ann Bowen Morgan gynnig am 2 awr o barcio am ddim ym meysydd parcio’r Cwmins a’r Rwceri yn Llanbedr Pont Steffan gan y byddai hyn, yn ei barn hi, yn cefnogi busnesau ac yn annog twristiaid i ymweld â’r dref. Fel rhan o broses pennu’r gyllideb ar gyfer 2023/24, roedd yr Aelodau wedi cytuno ar flwyddyn arall o barcio am ddim ym meysydd parcio talu ac arddangos Tregaron a Llandysul. Cyfrannodd Aelodau eraill at y drafodaeth am y cynnig a gyflwynwyd a rhannodd y Cynghorwyr Elizabeth Evans, Sian Maeherlin ac Elaine Evans eu barn â’r Pwyllgor ynglŷn â pharcio am ddim yn y meysydd parcio yn eu wardiau.

 

CYTUNWYD felly i argymell y dylai’r Cabinet:-

(i) ystyried cynnal adolygiad ynghylch codi tâl am barcio ar hyd y Promenâd yn Aberystwyth; ac

(ii) ystyried cynnig 2 awr o barcio am ddim rhwng 8am a 10am, o ddydd Llun i ddydd Gwener, mewn un maes parcio ym mhob un o drefi Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron ac Aberteifi

 

 

6.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2023.

 

Materion yn codi:

Dim.

 

7.

Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith a gyflwynwyd yn amodol ar nodi y gallai’r canlynol gael eu hystyried yng nghyfarfodydd y dyfodol:-

  • Effaith cynlluniau a ariennir gan grantiaubeth yw’r effaith, pa mor dda mae arian yn cael ei dynnu i lawr
  • Y defnydd a wneir o adeiladau
  • Y Polisi Torri Porfa
  • Y berthynas rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru o ran Cynllunio Gwlad a Thref
  • Cymorth i Fusnesau ac Adfywio