Lleoliad: Hybrid - Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron /o bell trwy fideo-gynadledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: i.
Ymddiheurodd y
Cynghorwyr Gethin Davies, Sian Maehrlein a Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr
Economi ac Adfywio am nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod. ii. Ymddiheurodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis am nad oedd yn
gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd ymrwymiadau eraill y Cyngor. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: i. Datganodd y Cynghorydd Gareth Davies a
Hugh Hughes fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 3. ii. Datganodd y Cynghorydd Chris James
fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 6, yn ystod diweddariad ar rwydwaith
bysiau Ceredigion. iii. Datganodd Lisa Evans Swyddog Craffu a Safonau fuddiant personol mewn perthynas ag
eitem 6, yn unol â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, yn
ystod diweddariad ar rwydwaith bysiau Ceredigion. |
|
Erydu Arfordirol, Llifogydd a Newid Hinsawdd PDF 167 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd a diolchodd y Cadeirydd i
Swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru am ddod i’r cyfarfod. Eglurodd y Cynghorydd
Keith Henson (Aelod y Cabinet dros Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli
Carbon) taw pwrpas yr adroddiad oedd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Newid Hinsawdd ac Erydu Arfordirol /
Llifogydd. Mae newid hinsawdd yn golygu y byddwn yn wynebu digwyddiadau tywydd
mwy aml neu ddifrifol megis llifogydd, sychder a stormydd. Mae’r digwyddiadau
hyn yn dwyn ‘risgiau ffisegol’ sy’n cael effaith uniongyrchol ar gymunedau ac y
mae ganddynt y potensial i effeithio ar yr economi. Mae rhannau o arfordir
Ceredigion yn dueddol o gael eu heffeithio gan erydu arfordirol a llifogydd, ac
mae rhai cymunedau mewndirol mewn perygl o ddioddef llifogydd afonol a cholli
tir gan gyrsiau dŵr. Rhoddodd Phil Jones drosolwg o'r
adroddiad. Esboniodd y gallai’r effeithiau fod yn bellgyrhaeddol, wrth i randdeiliaid wynebu canlyniadau a allai fygwth bywydau neu
newid bywydau, gan effeithio ar sectorau mawr o’r Sir/Cyngor. Yn ogystal,
gallai methu lleihau effeithiau newid hinsawdd arwain at ganlyniadau
amgylcheddol, ariannol ac i enw da y Cyngor gan gynnwys ar ffurf cosbau
ariannol am fethu cyflawni targedau Llywodraeth Cymru ynghylch rheoli carbon a
bioamrywiaeth. Bydd effeithiau anuniongyrchol yn cynnwys newidiadau i’r pryfed,
y plâu a’r clefydau y byddant yn cytrefu ac yn effeithio ar ein hamgylchedd. Yn
ogystal ag effeithiau uniongyrchol y rhain, bydd yr effeithiau ar amser staff
a’r costau eraill o ddelio â’r rhain yn arwyddocaol. Mae colli brigdwf oherwydd Clefyd Coed Ynn eisoes yn arwain at
ganlyniadau ar gyfer microhinsoddau lleol a bydd yn gwaethygu effeithiau newid
hinsawdd ac yn cyfrannu atynt hefyd. Cydnabyddir bod yn rhaid i ni arwain
trwy esiampl a gwneud popeth y gallwn i leihau newid hinsawdd yn y dyfodol a
mynd i’r afael â’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ef, a’u lleihau. Rhaid datblygu
a gweithredu strategaethau a mentrau polisi sy’n cynnwys elfennau ar gyfer cydnerthedd ecosystemau, gwelliannau bioamrywiaeth a
chynlluniau lleihau llifogydd os ydym yn mynd i lwyddo i leihau ein hôl troed
carbon a lleihau’r risg i’n prif seilwaith, ein hasedau, ein preswylwyr a’n
cymunedau a’n tirlun. Rhoddwyd cyflwyniad i'r Pwyllgor yn
amlinellu'r canlynol: ·
Cyfrifoldebau Erydu
Arfordirol a Llifogydd -
Erydu arfordirol -
Llifogydd Arfordirol ac
Afonol -
Cynllun Rheoli Traethlin
2 -
Monitro Traethau ·
Cynlluniau a gefnogir
gan grantiau Llywodraeth Cymru (LlC) ·
Diweddariadau diweddaraf
– Arfordirol a Afonol ·
Erydu Arfordirol a
Llifogydd ·
Rheoli Carbon a Newid
Hinsawdd – Sero Net ·
Cynllun Gweithredu Sero
Net Esboniodd Gavin Bown fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoleiddio Dŵr Cymru, tra bod Dŵr Cymru yn gweithredu ac yn cynnal a chadw gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth. O ran y materion a godwyd yn y cyflwyniad, eglurodd fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu gwneud gwaith a chwenychir i gyrsiau dŵr i leihau risg, ond bod angen caniatâd ychwanegol i wneud gwaith draenio mewnol. O ran yr oedi y rhoddwyd gwybod amdano gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch y gwaith sydd ei angen yng Nghapel Bangor a Thal-y-Bont, nid oedd y gwaith ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Creu Gweithgor ar gyfer y Gwasanaethau Gwastraff PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Rhodri Llwyd drosolwg o’r cefndir a'r sefyllfa
bresennol o ran Strategaeth Rheoli Gwastraff Ceredigion. Roedd angen
strategaeth newydd yn awr i amlinellu cyfeiriad y gwasanaeth at y dyfodol, gan
roi sylw penodol i safleoedd gwastraff cartref y sir, y model nesaf ar gyfer
casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd a’r trefniadau ar gyfer gorsafoedd
trosglwyddo gwastraff. Y cynnig oedd y dylid creu Gweithgor ar gyfer y
Gwasanaethau Gwastraff i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Gwastraff
Ceredigion. Byddai’r gweithgor hwn yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trosolwg a
Chraffu Cymunedau Ffyniannus ar adegau priodol. Gofynnir i’r Pwyllgor felly
gymeradwyo’r canlynol: (i) creu Gweithgor ar gyfer y Gwasanaethau Gwastraff i
gynorthwyo â’r broses o ddod ag opsiynau rhesymol gerbron y system
ddemocrataidd (ii) enwebu 5 Aelod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau
Ffyniannus i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Gweithgor gan sicrhau bod gan y
grŵp gydbwysedd gwleidyddol a rhaniad trefol/gwledig priodol. Yn dilyn cwestiynau gan
Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd i greu Gweithgor ar
gyfer y Gwasanaethau Gwastraff. Cytunwyd y
byddai’r canlynol yn cynrychioli’r Pwyllgor ar y Gweithgor: 1 Aelod
Annibynnol (Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus- Y
Cynghorydd Gwyn Wigley Evans ar hyn o bryd), 3 Aelod Plaid Cymru (Y Cynghorwyr
Ann Bowen Morgan, Chris James a Carl Worrall) a 1 Aelod Democratiaid
Rhyddfrydol (John Roberts). Bu i’r Aelodau ganmol y Gwasanaeth Casglu Gwastraff am y gwelliannau a
wnaed yn dilyn y Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023. |
|
Y Gwasanaeth Rheoli Datblygu PDF 84 KB Cofnodion: Rhoddodd Russell Hughes-Pickering ddiweddariad i’r
Aelodau am y llwyth achosion ym maes cynllunio a gorfodi. Ym mis Rhagfyr 2022,
cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor ynghylch y Gwasanaeth Rheoli Datblygu. Roedd
yr adroddiad yn canolbwyntio ar adolygiad Archwilio Cymru o’r Gwasanaeth
Cynllunio yng Ngheredigion yn 2021 ac yn nodi 10 argymhelliad yn ymwneud â’r
trefniadau llywodraethu a gwella capasiti’r
gwasanaeth. Mewn ymateb i’r argymhellion hynny ynghylch y trefniadau
llywodraethu, adroddwyd bod newidiadau sylweddol i’r Cyfansoddiad wedi’u cytuno
gan gynnwys Cylch Gorchwyl, Gweithdrefnau Gweithredol, Codau Ymarfer a Phwerau
Dirprwyedig newydd. Mewn ymateb i faterion ynghylch perfformiad, roedd yn rhaid
edrych ar fynd i’r afael â materion ym mhedwar o brif feysydd y broses rheoli
datblygu – dilysu, oedi o ran ymgyngoreion,
ffosffadau a chapasiti staff i ddelio ag achosion. Rhoddwyd
diweddariad am y sefyllfa bresennol o ran y pedwar prif faes. Rhoddwyd cyflwyniad i'r Pwyllgor yn
amlinellu'r canlynol: ·
Cyflwyniad ·
Ceisiadau cynllunio -
Llwyth achosion – y 24
mis diwethaf -
Nifer yr achosion a
benderfynwyd yn eu cylch -
Y cyflymder y gwneir
penderfyniadau -
Llwyth achosion –
ceisiadau cynllunio presennol -
Targedau ar gyfer y
dyfodol ·
Gorfodi cynllunio -
Achosion gorfodi -
newydd – fesul blwyddyn -
Dadansoddiad o’r llwyth
achosion -
Achosion gorfodi sydd
heb eu datrys -
Targedau ar gyfer y dyfodol ·
Y diweddaraf am staff Cafodd yr aelodau gyfle i ofyn
cwestiynau a gafodd eu hateb gan Russell Hughes-Pickering . Dyma'r prif
bwyntiau a godwyd: ·
Byddai’r drefn o
ddefnyddio Capita, cwmni a oedd yn cynnwys nifer o
ganghennau, yn dod i ben yn fuan unwaith y byddai sylw wedi’i roi i’r ôl-groniad o achosion ac unwaith
y byddai gan yr adran yr adnoddau i ddelio â’r achosion. Er bod defnyddio Capita ychydig yn rhatach, roedd manteision o gyflogi staff
mewnol gan y byddent yn gyfarwydd â’r ardal a’r polisïau. ·
Roedd y staff mewnol a Capita yn defnyddio’r un broses o wneud penderfyniadau. ·
Awgrymwyd y dylid
hyrwyddo llwyddiant y tîm gorfodi gan dynnu sylw at y ffaith bod camau gorfodi
yn cael eu cymryd pan fo angen. Roedd materion gorfodi a’r ymateb iddynt yn
amrywio o un achos i’r llall ac roedd y broses yn un faith. ·
Roedd cyfle i ystyried y
ffyrdd yr oedd y gweithwyr yn dymuno gweithio e.e. oriau hyblyg. Gan fod targed
o 8 wythnos i brosesu achosion ym maes rheoli datblygu, gallai fod yn heriol
cyrraedd y targed hwn pe byddai staff yn gweithio’n rhan amser. ·
Awgrymwyd y gallai’r
cyfathrebu rhwng y swyddogion a’r asiantaethau fod yn well. O ystyried llwyth
gwaith y swyddogion, roedd cyfyngiadau yn bodoli o ran amser ond roedd hefyd
ddyhead i wella’r cyfathrebu ac ansawdd y ceisiadau. · Nid oedd problemau yn bodoli o ran y berthynas rhwng yr awdurdod lleol a CADW. Serch hynny, gallai’r penderfyniadau gymryd amser. Roedd hyn yn rhannol am nad oedd gan yr awdurdod lleol bellach swyddog treftadaeth arbenigol ond ar ôl penodi Swyddog Rheoli Datblygu Arbenigol, y gobaith oedd y byddai hyn yn gwella ac y byddai pwerau dirprwyedig yn cael eu rhoi. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2023. Materion yn codi: Wrth ymateb i gwestiwn am rwydwaith bysiau Ceredigion,
esboniodd y Cynghorydd Keith Henson fod Lee Waters
AS, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd wedi cyhoeddi Cronfa Bontio ar gyfer
Bysiau yn ddiweddar a oedd yn werth £46 miliwn. Hefyd, roedd proses gaffael ar
y gweill ar hyn o bryd o fewn yr awdurdod lleol. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd nodi cynnwys y Flaen raglen
Waith a gyflwynwyd. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: i.
Dywedodd y Cadeirydd ei
fod yn falch bod swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn y gwahoddiad i
ddod i’r cyfarfod heddiw. Y gobaith oedd y byddai cynrychiolwyr o Dŵr
Cymru yn derbyn y gwahoddiad i ddod i’r cyfarfod ym mis Gorffennaf. ii.
Mynegodd yr Aelodau eu
hanfodlonrwydd â’r system hybrid, am eu bod wedi colli rhannau o’r drafodaeth.
Nodwyd bod y Swyddogion TGCh wedi cael gwybod am y problemau a oedd wedi codi
yn ystod y cyfarfod. |