Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: i.
Datganodd
y Cynghorydd Chris James fuddiant personol mewn perthynas ag eitem 4. ii.
Datganodd
Lisa Evans, Swyddog Craffu a Safonau
fuddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 4, yn unol â'r Cod
Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol a gadawodd y cyfarfod pan oedd y
mater hwnnw’n cael ei drafod. |
|
Cofnodion: Esboniodd y
Cynghorydd Keith Henson (Aelod Cabinet Priffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a
Rheoli Carbon) taw pwrpas yr adroddiad oedd darparu diweddariad ar y
datblygiadau ers y drafodaeth / adroddiad blaenorol. Cynhaliwyd cyfarfod gyda Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar 1 Rhagfyr
2022 er mwyn darparu trosolwg o Deithio Llesol yng Ngheredigion. Ar hyn o bryd
dim ond tri Anheddiad Teithio Llesol sydd yng Ngheredigion a ddynodwyd gan
Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (sef Aberystwyth,
Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan) felly roedd yn ddymuniad i ymestyn hyn.
Diolchwyd i’r gwasanaeth am ddatblygu’r gwaith i wella hygyrchedd Teithio
Llesol a diogelwch ar gyfer y Sir. Esboniodd Phil
Jones, Rheolwr Corfforaethol: Gwasanaethau Priffyrdd fod Deddf Teithio Llesol
(Cymru) 2013 yn rhoi dyletswydd ar
awdurdodau lleol i gynllunio, gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded a seiclo ar
gyfer siwrneiau bob dydd. Roedd yr awdurdod yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am
yr arian i wella’r rhwydwaith Teithio Llesol ond byddai cael gwell cynllun ar
gyfer y 3 – 5 mlynedd nesaf o fudd i bawb.
Darparwyd trosolwg o’r cefndir a nodwyd yn yr adroddiad. Yn sgil y
dyheadau i wella’r cysylltiadau rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth, cafwyd
sicrwydd oddi wrth Elin Jones AC a Ben Lake AS mewn
cyfarfod yn ddiweddar na chaiff yr argymhellion yma eu datblygu am nifer
sylweddol o flynyddoedd, felly yn ei hanfod roedd yn bosib parhau i ymestyn
Teithio Llesol ar y llinellau hynny. Rhoddwyd cyfle
i Aelodau ofyn cwestiynau a bu i’r Swyddogion, Yr Athro Stuart Cole CBE a’r
Cynghorydd Keith Henson eu hateb. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn: · Bu i’r Athro
Stuart Cole CBE esbonio er nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau a oeddent
yn bwriadu datblygu’r rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth fydd yn costio
oddeutu £800 miliwn, nid oedd digon o arian nac ychwaith digon o boblogaeth i
redeg y rheilffordd, a dyna phaham oedd T1 TrawsCymru
mewn lle. Roedd o’r farn ei fod yn
annhebygol iawn y caiff y rheilffordd ei datblygu yn y 30 – 40 mlynedd nesaf. · Roedd yn bwysig
iawn i godi pryderon gyda Llywodraeth Cymru / Llywodraeth y DU am y diffyg
sicrwydd o ran ffynonellau ariannu. Yn ogystal byddai ymlacio ymhellach ar y
cyfyngiadau o fudd i’r Sir yn gyfan gwbl, ac nid yn unig y tair thref a enwyd
fel Aneddiadau Teithio Llesol. Bydd
hefyd yn caniatáu awdurdodau lleol i gynllunio adnoddau’n well a chyflawni yn
lleol. · Cefnogwyd
defnyddio pwerau Gorchymyn Prynu Gorfodol a all fod eu hangen er mwyn cael tir
ar gyfer llwybrau cerdded a seiclo. Er
iddo cael ei ystyried yn broses hir a chymhleth, roedd defnyddio Gorchymyn
Prynu Gorfodol law yn llaw â thrafodaethau yn bwysig ar gyfer cyflawni
cynllunio o fewn y Sir. Gwnaed gwaith yn y cefndir i ddatblygu hyn gan gynnwys
lleoliad Rhiw Goch, Aberaeron. · Nodwyd na fyddai pob llwybr yn denu arian o’r Gronfa Teithio Llesol (ATF) felly roedd yn rhaid edrych ar ffynonellau arian eraill hefyd. Ni dderbyniwyd adborth eto yn dilyn grant ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Rhwydwaith Bysiau Ceredigion PDF 213 KB Cofnodion: Esboniodd y
Cynghorydd Keith Henson fod Llywodraeth Cymru yn rheoli cyfran fawr o’r system
drafnidiaeth yng Nghymru a bod y diwydiant trafnidiaeth ar hyn o bryd yn wynebu
amser heriol. Darparwyd trosolwg o gynnwys yr adroddiad gan gynnwys cyd-destun
lleol ac ehangach. Dywedodd Gerwyn
Jones, Rheolwr Corfforaethol: Gwasanaethau Amgylcheddol y cyflwynwyd yr adroddiad
i’r Cabinet ar 14 Chwefror 2023. Darparwyd cyflwyniad i’r Pwyllgor yn
amlinellu’r canlynol:
Nodwyd gan yr Athro Stuart Cole CBE fod y sefyllfa’n debyg mewn nifer o
leoliadau er bod y dull i’w datrys yn wahanol ar gyfer bob awdurdod lleol, ond
roedd yn debyg ar gyfer ardaloedd gwledig megis Ceredigion ac awdurdodau a oedd
yn ffinio. Adroddwyd fod Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar y nifer o bobl
a oedd yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys TrawsCymru.
Yn dilyn cyflwyno BwcaBws yn 2008, gwnaed ymchwil ar
drafnidiaeth cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig ac o ganlyniad, cyflwynwyd TrawsCymru yn 2012, gyda BwcaBws
a bysiau lleol yn bwydo’r rhwydwaith. Bu i 2.6miliwn o deithwyr deithio ar TrawsCymru yn 2019, sef cynnydd sylweddol i’r niferoedd cyn
2012, fodd bynnag nid oedd teithwyr wedi dychwelyd i’r niferoedd cyn Covid, gan gynnwys trywydd T1 (Caerfyrddin - Aberystwyth) a
oedd ond wedi dychwelyd i 60% o’i defnydd blaenorol. Roedd pa mor aml, pa mor
ddibynadwy ac a ellir archebu’r gwasanaeth yn elfennau allweddol i ddenu mwy o
deithwyr yn ogystal â hygyrchedd megis arwyddion gwybodaeth ac amserlenni. Adroddwyd er bod Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd yn awyddus i fwy o bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus roedd
gwahaniaeth clir iawn rhwng y gwasanaethau oedd ar gael mewn ardaloedd gwledig
ac ardaloedd trefol. Roedd y cymhorthdal ar gyfer cludo deiliaid Cardiau
Teithio Rhatach yn fach iawn i gymharu â phris y tocyn ond gobeithir na fyddai
Llywodraeth Cymru yn gorffen y Cytundeb. Darparwyd cyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe’u
hatebwyd gan Swyddogion, yr Athro Stuart Cole CBE a’r Cynghorydd Keith Henson.
Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn:
|
|
Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023. Materion sy’n codi: Dim. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunwyd nodi cynnwys y Flaen raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar
gynnwys y canlynol: · Adroddiad ar
dwristiaeth yng Ngheredigion · Yn sgil diffyg
ymateb o Gyfoeth Naturiol Cymru i weld a oeddent ar gael ar 22 Mehefin 2023,
awgrymwyd y dylai Swyddog gysylltu â nhw eto. |