Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans fuddiant personol mewn perthynas ag Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

3.

Adroddiad ar y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus gyfarfod i ystyried Cyllideb y Gwasanaeth ar gyfer y meysydd gwasanaeth hynny sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor ac i ystyried yr argymhellion canlynol:

 

  1. Ystyried sefyllfa gyffredinol y Gyllideb fel y’i dangosir yn yr adroddiad ar y Gyllideb ym Mhapur A.
  2. Ystyried elfennau perthnasol pwysau Costau’r Gyllideb, sef cyfanswm o £22.2m ar draws yr holl Wasanaethau.
  3. Ystyried elfennau perthnasol y cynigion ar gyfer Arbedion yn y Gyllideb, sef cyfanswm o £8.9m ar draws yr holl Wasanaethau.
  4. Ystyried elfennau perthnasol cynigion y Ffioedd a chostau.
  5. Ystyried y 4 opsiwn a amlinellwyd yn Argymhelliad 3a) i d) adroddiad Cabinet 24/01/23, sef:

3a)   Cynnydd o 6.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad Cyllideb o £179.627m ar gyfer 23/24, a fyddai'n darparu cyfraniad is tuag at Bwysau Costau Cyllidebau Ysgolion Dirprwyedig.

3b)   Cynnydd o 7.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad Cyllideb 23/24 o £180.101m.

3c)   Cynnydd o 8.3% yn Nhreth y Cyngor (gan gynnwys 1.3% mewn perthynas â'r cynnydd arfaethedig yn Ardoll yr Awdurdod Tân) a gofyniad Cyllideb 23/24 o £180.576m, i roi cyfraniad uwch tuag at Bwysau Costau Cyllidebau Ysgolion Dirprwyedig.

3d)   Cynnig opsiwn arall yn ychwanegol at Argymhellion 3a) i 3c) i roi cynnydd penodol at ddiben penodol, ar yr amod bod unrhyw opsiwn yn cael ei ystyried yn ystod cyfarfodydd Craffu ar y Gyllideb a bod swyddog Adran 151 yn cael digon o amser ymlaen llaw i fodelu'r effaith yn llawn ac i roi barn ar ei gadernid.

  1. Rhoi unrhyw adborth priodol arall ar Gyllideb Ddrafft 23/24 i'r Cabinet.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniadau gan Arweinydd y Cyngor (y Cynghorydd Bryan Davies), Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chaffael (y Cynghorydd Gareth Davies) a’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Cyllid a Chaffael (Duncan Hall).  Yna cyflwynodd Aelod perthnasol y Cabinet eitemau’r Gyllideb sy'n berthnasol i'w Faes Gwasanaeth.  Yna rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb yn eu tro gan Aelodau’r Cabinet a/neu Uwch Swyddogion.

 

Argymhellion:

 

Cytunodd y Pwyllgor:

 

  1. Ei fod wedi ystyried sefyllfa gyffredinol y Gyllideb fel y’i dangosir yn yr adroddiad ar y Gyllideb ym Mhapur A.
  2. Ei fod wedi ystyried elfennau perthnasol pwysau Costau’r Gyllideb sy'n dod o dan y Pwyllgor Craffu hwn.
  3. Ei fod wedi ystyried elfennau perthnasol y cynigion ar gyfer Arbedion yn y Gyllideb sy'n dod o dan y Pwyllgor Craffu hwn.
  4. Ei fod wedi ystyried elfennau perthnasol cynigion y Ffioedd a Chostau sy'n dod o dan y Pwyllgor Craffu hwn, ac eithrio bod y Pwyllgor Craffu yn argymell i'r Cabinet bod Ffioedd a Chostau arfaethedig y Meysydd Parcio yn Nhregaron a Llandysul yn cael eu dileu, fel na fyddai dim costau am Barcio Ceir yn parhau yn y trefi hynny o 01/04/23 ac y dylai'r gost bosibl o £40,000 sy'n gysylltiedig â hyn gael ei hariannu o'r Ddarpariaeth o £400k a neilltuwyd ar gyfer risgiau o ran  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion y pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr yn rhai cywir.

 

Materion yn codi

Dim