Agenda a Chofnodion

Special, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Gwener, 11eg Mawrth, 2022 10.30 am, NEWYDD

Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

i)       Ymddiheurodd y Cynghorwyr Euros Davies (Is-gadeirydd), Gareth Davies, Meirion Davies ac Elizabeth Evans am na fedrent fod yn bresennol yn y cyfarfod.

ii)      Ymddiheurodd Sarah Groves-Phillips, Rheolwr y Gwasanaeth Polisi Cynllunio am na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio).

 

3.

Trafodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gynllunio a lefelau ffosffad pdf eicon PDF 196 KB

Cofnodion:

 

Ymddiheurodd Gavin Bown am na fedrai fod yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Ionawr. Rhoddodd Gavin Bown gyflwyniad i’r Pwyllgor gan amlinellu’r canlynol:

 

·         Cefndir

·         Afonydd ACA yng Nghymru

·         Safonau

·         Strwythur y Targedau Newydd

·         Trosolwg o’r afonydd ACA yng Nghymru (gan gynnwys mapiau) cyn canolbwyntio ar Afon Teifi

·         Goblygiadau

·         Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru

·         Byrddau Rheoli Maethynnau (gan gynnwys Bwrdd Rheoli Maethynnau Afon Teifi)

·         Grwpiau Allanol

·         Y Camau Nesaf – ledled Cymru / Afon Teifi

 

Ar ôl y cyflwyniad, cafodd Aelodau’r Pwyllgor y cyfle i holi Gavin Bown. Dyma’r prif bwyntiau / pryderon a godwyd:

 

·         Gofynnodd un o’r Aelodau a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon ei fod wedi cydymffurfio â phum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol cyn cyhoeddi’r cyngor gwreiddiol. Wrth ymateb, dywedodd Gavin Bown fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyffredinol yn ceisio dysgu gwersi o bob elfen o’r broses a bod hyn yn cynnwys creu fframwaith i sicrhau bod unrhyw drafodaeth ac ymgynghoriad yn cael eu cynnal yn y ffordd briodol yn y dyfodol. 

·         Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal nifer o brosiectau mawr ar draws Cymru ar hyn o bryd i wella ansawdd dŵr a oedd wedi’i lygru gan waith cloddio mwynau. Byddai Gavin Bown yn rhoi diweddariad ysgrifenedig i Aelodau’r Pwyllgor am y sefyllfa yng Nghwm Rheidol.

·         Holodd un o’r Aelodau a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi troi at ymgynghorwyr wrth baratoi ar gyfer gwaith lliniaru posibl er bod data ar gael am y sefyllfa ar Afon Gwy a bod Awdurdodau Lleol eraill wedi comisiynu tystiolaeth gyffelyb. Wrth ymateb, dywedwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi pwyso am sefydlu Grŵp Goruchwylio er mwyn osgoi dyblygu gwaith a sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwerth am arian.  

·         Roedd cyfrifiannell maethynnau Sir Gaerfyrddin wedi’i datblygu’n benodol ar gyfer Afon Tywi ond byddai gwaith yn cael ei wneud fel rhan o’r Grŵp Goruchwylio i ystyried cyfrifianellau eraill a datblygu cyfrifiannell a fyddai’n addas ar gyfer pob afon. Roedd angen ystyried sut y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru reoli allbynnau’r cyfrifianellau. 

·         Byddai Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â phob Bwrdd Rheoli Maethynnau yn rhan o’r Grŵp Gorchwylio i sicrhau ffordd gydgysylltiedig o weithio ond roedd yn bwysig deall bod gan bob afon ei gwahanol anghenion ac y byddai’r atebion yn amrywio. 

·         Wrth ymateb i gwestiwn am ansawdd dŵr, esboniodd Gavin Bown fod y safonau diwygiedig yn amrywio rhwng afonydd gan eu bod yn ystyried y cefndir naturiol. Ychwanegodd fod y safonau yn gyffredinol rhwng 50 ac 80% yn llymach na’r rhai blaenorol. 

·         Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi atal yr Awdurdod Lleol rhag datblygu ymhellach ar Afon Teifi (gan effeithio ar 40% o Geredigion), am fod yr afon mewn ardal cadwraeth arbennig. Gwnaed hyn ar ôl cynnal asesiad cydymffurfio yr oedd yn rhaid i’r adran gynllunio ei dilyn. Serch hynny, fel rhan o’r broses ymgynghori ar geisiadau cynllunio, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghoreion statudol ond roeddent yn ymateb drwy ddweud nad oedd ganddynt wrthwynebiadau i geisiadau i ddatblygu anheddau newydd ar Afon Teifi. Codwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 285 KB

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor gadarnhau cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2022 yn rhai cywir.

 

Materion yn codi:

Dim.

 

Dywedodd Gethin Davies iddo sôn yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2022  fod y Gwaith Trin Dŵr Gwastraff hefyd yn rhyddhau elifion i draeth Aber-porth yn ogystal â harbwr Aberaeron.

 

5.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cadeirydd am ddefnyddio iaith amhriodol mewn cyfarfod blaenorol.

 

Esboniodd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus o dan y weinyddiaeth hon. Diolchodd i bawb am eu cydweithrediad a dymunodd yn dda i bawb.