Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ymddiheurodd y Cynghorwyr Alun Lloyd Jones a Clive Davies am na fedrent
ddod i’r cyfarfod. Ymddiheurodd y Cynghorydd Catherine Hughes (Aelod
Cabinet) am na fedrai ddod i’r
cyfarfod. Hefyd, ymddiheurodd y Cynghorydd Dafydd
Edwards (Aelod Cabinet) am na fedrai ddod i’r cyfarfod.
Fodd bynnag, daeth y Cynghorydd Edwards i’r cyfarfod
yn ddiweddarach yn ystod y trafodaethau.
|
||
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelodd
yr un Aelod
o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd
yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw
ddatganiadau chwipio). Datgelodd y Cynghorydd Ceredig Davies, Sylwedydd, fuddiant personol a buddiant a oedd yn
rhagfarnu a dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod wedi
derbyn gollyngiad gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau i siarad yn
unig. |
||
Cadw elfennau o'r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro mewn trefi yng Ngheredigion Cofnodion: Dywedodd y
Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet, nad oedd y Cynghorydd Dafydd Edwards,
Aelod Cabinet yn medru bod yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad ac
felly byddai’r swyddogion yn gwneud hynny.
Croesawodd y
Cadeirydd Russell Hughes-Pickering, Rhodri Llwyd a Steve Hallows i’r cyfarfod. Rhoddodd Russell
Hughes-Pickering grynodeb byr i’r Aelodau o’r wybodaeth a gyflwynwyd i’r
Pwyllgor ar 1 Hydref 2021. Cyfeiriodd yn benodol at y camau nesaf yr
oedd wedi sôn amdanynt yn y cyfarfod hwnnw a oedd yn cynnwys ymgysylltu â’r
Aelodau Lleol a’r Aelodau Cabinet ym mis Hydref a chyflwyno’r adroddiad hwn i’r Pwyllgor Craffu
heddiw. Dywedodd hefyd y byddai’r adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno gerbron y
Cabinet ym mis Ionawr 2022. Pe byddai’r cynigion yn cael eu cefnogi,
cadarnhaodd y byddai Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol (ETRO) yn cael ei
gyflwyno ac y byddai hyn yn cynnwys cyfnod ymgynghori o chwe mis er mwyn casglu
barn y cyhoedd. Ar ôl hynny
cyflwynodd Steve Hallows y cynigion ar gyfer Gorchmynion Rheoleiddio Traffig
Arbrofol fel rhan o’r broses o wneud elfennau dethol sy’n ymwneud â pharcio a
llif y traffig, a roddwyd ar waith dros dro mewn ymateb i’r pandemig Covid-19,
yn nodweddion parhaol. Dywedodd y Swyddog fod nifer o fesurau rheoli traffig
wedi’u cyflwyno drwy gyfrwng Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro (TRRO) yn
Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd, er mwyn hwyluso ymbellhau
cymdeithasol yn ystod cyfyngiadau’r cyfnodau clo yn sgil y pandemig Covid-19.
Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Dros Dro yn para uchafswm o 18 mis, ac
mae’r rhai hynny sydd mewn grym yn dechrau dod i ben o
fis Hydref 2022 ymlaen. Mae’n bosibl iddynt gael eu
hymestyn gyda chaniatâd priodol ond dim ond os yw’r rhesymeg sydd wrth wraidd
eu creu yn dal yn berthnasol ac yn ddilys. Dywedwyd bod hyn yn annhebygol ar
hyn o bryd o ystyried bod y cyfyngiadau clo cyntaf wedi’u llacio. Dywedodd Mr
Hallows fod adolygiad o’r trefniadau dros dro wedi cydnabod bod rhai o’r
elfennau wedi bod o fudd ehangach i gymdeithas a bod achos dros ddechrau’r
broses gyfreithiol i ystyried gwneud y rhain yn fwy parhaol, drwy wneud dau
Orchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol. Un er mwyn
ymdrin â’r cyfyngiadau parcio a fydd yn diwygio’r Gorchymyn Parcio Traffig sy’n
bodoli ar lefel sirol ac un i ymdrin â’r rheoliadau ‘symud’, megis llif traffig
unffordd, gwaharddiadau troi i’r dde/chwith, dim mynediad ayb.
|