Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd dim ymddiheuriadau. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Ni ddatgelodd yr un Aelod
o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith
unrhyw ddatganiadau chwipio). Datgelodd y Cynghorydd Ceredig Davies, Sylwedydd, fuddiant
personol a buddiant a oedd yn rhagfarnu a dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod wedi
derbyn gollyngiad gan y Pwyllgor Moeseg a Safonau i siarad yn unig. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd
Russell Hughes-Pickering a Rhodri Llwyd i’r cyfarfod.
Rhoddodd Russell gyflwyniad i’r Pwyllgor gan amlinellu’r canlynol: ·
Pam? ·
Adborth o’r Arolwg ·
Y Cynlluniau Gwreiddiol ·
Y Cynlluniau a Addaswyd ·
Lluniau ·
Yr hyn a ddigwyddodd mewn mannau eraill ·
Adborth gan fasnachwyr ·
Y Camau Nesaf Dywedodd Russell wrth y Pwyllgor fod y sefyllfa argyfyngus o ran pandemig Covid wedi arwain at
gyflwyno amrywiaeth eang o fesurau i ddiogelu pobl y sir ac ymwelwyr.
Ychwanegodd mai un o’r mesurau hynny oedd cyflwyno’r Parthau Diogel yn
Aberystwyth, Aberaeron a Cheinewydd yn ystod Mehefin
/ Gorffennaf 2020. Ar ôl cyflwyno’r mesurau hyn, cynhaliwyd yr ymgynghoriad
cyntaf rhwng 31.7.2020 a 10.8.2020 a chynhaliwyd yr ail ymgynghoriad rhwng
26.10.2020 a 21.12.2020. Dywedwyd bod yr ymatebion a ddaeth i law yn dda. Gwnaeth y cyflwyniadau hefyd roi crynodeb o’r adborth arall a dderbyniwyd
drwy Clic a’r arolygon ymgysylltu a’r ymateb a gafwyd gan yr Aelodau a’r Fforwm
Anabledd. Esboniwyd y mesurau a roddwyd ar waith ac eglurwyd sut y cawsant eu
haddasu yn sgil yr adborth. Rhannwyd lluniau i ddangos sut oedd y Parthau
Diogel wedi esblygu o’r adeg y cawsant eu rhoi ar waith hyd at heddiw.
Dangoswyd hefyd enghreifftiau o fesurau tebyg mewn mannau eraill. Ar ôl hynny, aeth Russell yn ei flaen i roi crynodeb o’r adborth cadarnhaol
a gafwyd gan y rheiny oedd yn masnachu yn yr awyr agored. Roedd yr adborth hwn
yn dangos bod y mesurau a gyflwynwyd wedi cadw a chreu swyddi a bod y
masnachwyr yn awyddus i adeiladu ar y cyfleoedd hyn yn y dyfodol. Wrth gloi, amlinellodd Russell y camau nesaf a oedd yn cynnwys ymgysylltu
â’r Aelodau lleol ac Aelodau’r Cabinet ym mis Hydref, cyflwyno adroddiad
gerbron y Pwyllgor Craffu ym mis Tachwedd, ymgysylltu eto â’r Aelodau ym mis
Tachwedd a chyflwyno adroddiad i’r Cabinet ym mis Rhagfyr neu Ionawr. Byddai Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol
yn cael ei gyflwyno pe byddai cefnogaeth i hynny. Byddai’r broses hon yn
cynnwys cyfnod ymgynghori o chwe mis fel y gellid derbyn rhagor o adborth ac
addasu ymhellach. Ar ôl hynny, cafodd yr Aelodau y cyfle i ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb
gan Russell neu Rhodri. Ymhlith y prif bwyntiau a godwyd oedd y canlynol: ·
Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn gytûn y dylai
cyfathrebu rheolaidd â’r Aelodau Lleol ac Aelodau’r Wardiau cyfagos fod wedi
digwydd yn gynnar yn y broses. Gofynnodd y Pwyllgor fod yr Aelodau yn cael eu
cynnwys yn ystod unrhyw drafodaethau cynnar yn y dyfodol cyn bod unrhyw
benderfyniadau yn cael eu gwneud ynglŷn â’r Parthau Diogel; ·
Dylid ystyried pryderon y genhedlaeth hŷn
a’r rheiny sy’n anabl a’u cynnwys yn y cynigion; ·
Dylid darparu digon o lefydd parcio i’r
genhedlaeth hŷn a’r rheiny sy’n anabl ar bob adeg; ·
Yn y dyfodol, dylid ystyried mynediad i loriau
mawr a gyrwyr sy’n cludo nwyddau; ·
Dylid sicrhau bod gan y gwasanaethau brys
fynediad clir yn enwedig y rheiny sydd wedi’u lleoli yng nghanol y trefi fel y gallant ymateb yn gyflym i argyfyngau; · Dylid ystyried barn y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 13. |
|
Cofnodion: Cytunwyd i gadarnhau Cofnodion y Cyfarfod
a gynhaliwyd ar 15
Gorffennaf 2021 yn rhai cywir ac nid oedd dim materion yn codi o’r cofnodion. |
|
Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu PDF 66 KB Cofnodion: Cytunwyd y dylid cynnwys
adroddiad am drosglwyddo safleoedd trin carthion o
ddwylo Cyngor Sir Ceredigion i Dŵr Cymru ar agenda cyfarfod y Pwyllgor ar
4 Tachwedd 2021. Cytunwyd y dylid gwahodd cynrychiolydd o Dŵr Cymru i’r
cyfarfod hwn. Byddai angen ystyried
effaith Covid ar bob tref yn y sir yn un o
gyfarfodydd y dyfodol. Diolchodd y Cadeirydd
i'r Aelodau am ddod i'r cyfarfod a diolchodd i’r Swyddogion am gyflwyno’r
wybodaeth ac am sicrhau bod y cyfarfod wedi rhedeg yn rhwydd. |