Lleoliad: o bell trwy fideo-gynhedledda
Cyswllt: Lisa Evans
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwr Lyndon Lloyd am eu hanallu i fod yn bresennol yn y cyfarfod. |
|
Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Cofnodion: Dim |
|
Adroddiad ynghylch y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/23 Cofnodion: Cyfarfu Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus i ystyried y gyllideb ar gyfer y meysydd gwasanaeth hynny sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor ac i ystyried yr argymhellion canlynol: 1. Ystyried y Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf cyffredinol a gynigir. 2. Ystyried y pwysau costau amcangyfrifedig a wynebir (£13.173m ar draws pob agwedd). 3. Ystyried y ffioedd a'r taliadau arfaethedig a'r incwm ychwanegol o £155k a amcangyfrifir i helpu gyda'r Arbedion sydd eu hangen. 4. Nodi'r Targed Arbedion Teithio arfaethedig o £230k ar gyfer Swyddogion ac Aelodau. 5. Nodi’r Balans Arbedion o £113k y mae angen dod o hyd iddo o hyd. 6. Ystyried y 3 opsiwn a gynigir ar gyfer lefel Treth y Cyngor, sef 4.75%, 5.0% a 5.25%. 7. Darparu unrhyw adborth priodol arall sy'n ymwneud â'r Gyllideb Ddrafft i'r Cabinet. Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022/2023 gan gynnwys y rhaglen gyfalaf tair blynedd, gan esbonio mai setliad dros dro yw hwn, a disgwylir y setliad terfynol ar 1 Mawrth, 2022. Dywedodd yr Arweinydd hefyd fod llythyr wedi dod i law ar 17 Chwefror 2022 gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn cyhoeddi cynnydd o £50m ar gyfer y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2021-2022. Nid yw'r swm a fydd yn cael ei ddyrannu i Gyngor Sir Ceredigion yn hysbys hyd yma ond mae'n debygol o fod tua £1m. Nid yw'r cyllid wedi'i neilltuo (h.y. heb ei ddyrannu i wasanaethau penodol) a gellir ei gario ymlaen mewn cronfeydd wrth gefn i flwyddyn ariannol 2022-2023. Esboniwyd y byddai angen ystyried goblygiadau'r cyllid ychwanegol hwn a sut y byddai hynny'n cael ei ddyrannu ar gyfer cyllideb 2022-2023. Croesawodd yr aelodau’r cyllid ychwanegol ond mynegwyd siom bod y cyhoeddiad yn hwyr ac nad oedd yn caniatáu i waith craffu ddigwydd yn seiliedig ar y wybodaeth newydd. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai gwybodaeth yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor ar 3 Mawrth 2022 ac y byddai cyfle i drafod ymhellach. Yna cyflwynodd yr Aelod Cabinet perthnasol y wybodaeth sy'n berthnasol i'w Faes Gwasanaeth. Yna rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn cwestiynau a gafodd eu hateb yn eu tro gan Aelodau Cabinet a/neu Swyddogion. Ystyriodd Aelodau'r Pwyllgor y Pwysau Costau ar gyfer y meysydd gwasanaeth hynny sydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor; sef: • Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol • Yr Economi ac Adfywio Ac: Ystyriodd Aelodau'r Pwyllgor y newidiadau arfaethedig i’r Ffioedd a’r Taliadau o dan gylch gwaith y Pwyllgor yn Atodiad D, tudalennau 14 i 15 o 51 ym mhapurau’r agenda. Cytunodd y Pwyllgor na fyddai'r 3 opsiwn a gynigiwyd ar gyfer lefelau Treth y Cyngor yn cael eu trafod yn y cyfarfod heddiw oherwydd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod amcangyfrif o £1miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu i Gyngor Ceredigion. Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal yng nghyfarfod y Cyngor. Argymhellion: Ar ôl ystyried, cytunodd yr Aelodau i argymell bod y Cabinet yn: 1. CYMERADWYO'r Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf cyffredinol a gynigir; 2. CYMERADWYO'r Pwysau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Cofnodion: CYTUNWYD i gadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20
Ionawr 2022. Materion yn codi Nid oedd materion yn codi. |