Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Iau, 20fed Ionawr, 2022 10.00 am

Lleoliad: ZOOM

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

26.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd John Adams-Lewis am nad oedd modd iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod. 

Ymddiheurodd cynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru am nad oedd modd iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfod.

Ymddiheurodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod o’r Cabinet, am y byddai'n gadael y cyfarfod am 10:45am o achos ymrwymiad arall, fodd bynnag, roedd y Cynghorydd Edwards wedi gwneud trefniadau ymlaen llaw i'r Swyddogion perthnasol gyflwyno'r adroddiadau yn ei absenoldeb.

 

27.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Datgelodd y Cynghorydd Euros Davies Fuddiant Personol a Buddiant sy’n Rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda - Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, Cynllunio a Ffosffadau.

Datgelodd y Cynghorydd Clive Davies Fuddiant Personol a Buddiant sy’n Rhagfarnu mewn perthynas ag eitem rhif 6 ar yr agenda, Meysydd Parcio Talu ac Arddangos. 

           Gadawodd y ddau’r cyfarfod yn ystod y trafodaethau.

28.

Trafodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Dwr Cymru Welsh Water (DCWW) ar gynllunio a lefelau ffosffad pdf eicon PDF 196 KB

Cofnodion:

Daeth cynrychiolwyr o Ddŵr Cymru i'r cyfarfod yn unol â’r cais yn dilyn cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cymunedau Ffyniannus.  Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am gael trafod sefyllfa ffosffad yng Ngheredigion, yn ogystal â materion ynghylch Gwaith Trin Dŵr Gwastraff yn rhyddhau elifion i ardaloedd afonol eraill Ceredigion (sef harbwr Aberaeron) a’r amserau ymateb i ymgyngoriadau gan y Gwasanaeth Rheoli Datblygu. Roedd swyddogion perthnasol Dŵr Cymru ar gyfer y meysydd pwnc dan sylw wedi cytuno i fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Bu i’r Cadeirydd groesawu Steve Wilson ac Owain George Daniel i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am eu parodrwydd i siarad ag Aelodau'r Pwyllgor ynglŷn â'r mater hwn o bryder.  Mynegodd y Cadeirydd ei siom nad oedd cynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol ar ôl ond rhoi gwybod i Swyddogion y Cyngor y noson gynt nad oedd modd iddynt fod yn bresennol mwyach. 

 

           Cyflwynodd Sarah Groves-Phillips y cefndir i’r mater dan sylw a’r sefyllfa

           bresennol.

 

           Ym mis Ionawr 2021 rhyddhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru gyngor cynllunio dros dro

           ynghylch datblygu yn nalgylch Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol yng Nghymru. Yn dilyn monitro cydymffurfiaeth Afon Teifi, a oedd yn gweld methiant ysbeidiol o ran lefelau ffosffad, roedd y cyngor hwn yn sicrhau na fyddid yn caniatáu unrhyw ddatblygiad pellach a oedd â’r potensial i gynyddu lefelau ffosffad yn yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol.  

 

           Yna rhoddodd Steve Wilson gyflwyniad pwerbwynt yn amlinellu Cynlluniau Dŵr

           Cymru. Esboniodd hefyd y broses o liniaru'r mater ffosffadau.           

           Sicrhaodd Owain George Daniel Aelodau'r Pwyllgor fod gwaith yn mynd rhagddo

           yn y cefndir.  Dywedodd wrth y Pwyllgor fod rhanddeiliaid perthnasol yn ymwneud yn llawn â’r broses hon.

      

           Mae’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi cael effaith sylweddol ledled y sir. Yn benodol:

 

1.    Effeithir ar Lanbedr Pont Steffan, Tregaron a Llandysul a’r aneddiadau cyfagos;

2.    Rhoddwyd saib ar y Cynllun Datblygu Lleol;

3.    Nid yw’n bosib cyflenwi’r safleoedd a neilltuwyd yn yr ardal yr effeithir arni (dros 500 o gartrefi, 114 ohonynt i fod yn rhai fforddiadwy);

4.    Bu’n rhaid dirymu neu wrthod ceisiadau cynllunio;

5.    Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau mai dim ond un Gwaith Trin Dŵr Gwastraff sy’n stripio ffosffad a geir yng Ngheredigion, yn Llanddewi Brefi, ac mae cynlluniau heb eu cadarnhau y gall un arall (Tregaron) gael ei gynnwys yng nghyfnod Cynllunio Rheoli Asedau 2025-2030;

6.    Mae gwaith rhagarweiniol ar ddosrannu ffynonellau (ar gyfer Dŵr Cymru ar Afon Gwy) yn dangos bod cyfran sylweddol o ffosffadau yn dod o amaethyddiaeth yn ogystal ag o weithfeydd Trin Dŵr Gwastraff. 

 

        

Wedyn cafodd Aelodau'r Pwyllgor gyfle i holi Swyddogion Dŵr Cymru a Chyngor Sir Ceredigion a dyma'r prif bwyntiau/pryderon a godwyd:

 

·         Cadarnhawyd, ar ôl casglu samplau o'r afonydd, fod Ffynhonnell Annibynnol yn craffu ar lefel y ffosffadau a oedd yn bresennol;

·         Mynegwyd pryder ynghylch trefi Tregaron, Llanbedr Pont Steffan a Llandysul gan nad oes cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd nesaf ac felly ni fydd datblygiadau newydd yn cael eu cymeradwyo. Ymatebodd Steve Wilson gan ddweud y gellir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 28.

29.

Gwywiad Coed Ynn - Diweddariad er gwybodaeth pdf eicon PDF 279 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           4. Clefyd Coed Ynn – Diweddariad er gwybodaeth

Cyflwynodd Phil Jones yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth gefndirol am y sefyllfa ynghylch Clefyd Coed Ynn. Bydd Clefyd Coed Ynn yn arwain at brinder a

gwywiad hyd at 95% o goed ynn y DU, ac mae’r onnen i’w gweld dros ardal eang ledled Cymru a Cheredigion. Mae hyn yn cynnwys y tu allan i goetiroedd ar ffurf

           gwrychoedd a choed unigol ar hyd ffyrdd, hawliau tramwy cyhoeddus eraill ac mewn

           mannau cyhoeddus. Mae’r onnen, ochr yn ochr â’r dderwen a’r ffawydden,

           yn un o’r tri phrif fath o goeden perth sydd gennym.

 

Y risg yw bod coed marw a’r rhai sy’n cario’r clefyd yn debygol o achosi perygl o ran iechyd a diogelwch y cyhoedd, ynghyd â chael effaith sylweddol ar yr economi, yr amgylchedd a’r tirlun.  Mae’r sefyllfa yn peri’r fath bryder fel bod Clefyd Coed Ynn ar Gofrestr Risg yr Awdurdod.

 

Rhoddodd Phil Jones wybod i’r Pwyllgor am y gwaith a wnaed hyd yn hyn, fel y nodir yn yr adroddiad.  Wedyn rhoddodd wybod i’r Aelodau am y gwaith sydd ar y gweill ar gyfer y misoedd i ddod, fel y nodir isod:

 

1.    Datblygu a chynnal parhad o ran ymateb ar draws pob gwasanaeth sy’n debygol o fod mewn cyswllt â’r cyhoedd ynghylch Clefyd Coed Ynn gan gynnwys:

·         Swyddog Coed Yr Arfordir a Chefn Gwlad

·         Hawliau Tramwy Cyhoeddus

·         Diogelu’r Cyhoedd

·         Rheoli Cynllunio/Adeiladu

·         Parciau a Gerddi

           2. Cyflenwi’r cynllun cyfathrebu, rhoi gwybodaeth ac arweiniad i:

·         Ffermwyr

·         Coedwigwyr

·         Perchenogion Coetiroedd

·         Tirfeddianwyr eraill

·         Gweithwyr proffesiynol ym maes coed (yn enwedig y rhai nad ydynt yn perthyn i gymdeithas broffesiynol)

·         Staff asiantaethau a’r Llywodraeth

·         Colegau

·         Y Cyhoedd

·         Y Cyfryngau

           3. Dadansoddiad o ddata’r arolwg:

·         Ebrill 2022 Mawrth 2023 - Blaenoriaethu’r rhaglen waith ar goed sy’n eiddo

          i Geredigion, yn unol â’r matrics risg coed y cytunwyd arno;

·         Blaenoriaethu cyhoeddi hysbysiadau adran 154 (Priffyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus) ac adran 23, hysbysiadau Deddf Darpariaethau Amrywiol (sy’n eiddo i’r Cyngor a thir â mynediad cyhoeddus) i dirfeddianwyr preifat yn unol â’r matrics risg coed y cytunwyd arno;

·         Anfon canllawiau/llythyron cynghori i berchenogion preifat coed risg is, yn unol â’r matrics risg coed y cytunwyd arno.

           4. Rheoli’r gweithredu adweithiol i Glefyd Coed Ynn - llythyr cynghori cychwynnol a hysbysiadau adran 154 i dirfeddianwyr (materion ar wahân i rai a godwyd o arolygon)

·         Materion a godwyd gan aelodau o’r cyhoedd

·         Staff Ceredigion

·         Rhanddeiliaid eraill

           5. Cynhyrchu a thendro gwaith arolygu ar gyfer 2022-2023

·         Cynhyrchu a thendro gwaith arolygu yn unol â’r Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn ar gyfer 2022/2023

·         Ymchwilio pellach yn ofynnol i bennu ac adolygu’r defnydd o atebion blaengar

           ar gyfer arolygu (darluniau lloeren, arolygu drwy ddronau ac ati).

 

      Roedd Norman Birch ac Owen Stephens wrth law i ateb cwestiynau. 

 

      Gofynnodd Aelod o'r Pwyllgor a oedd y posibilrwydd o brynu peiriannau a

defnyddio staff mewnol i ymgymryd â'r gwaith hwn wedi cael ei ystyried yn unol â’r cais mewn cyfarfod blaenorol ar 15 Ionawr 2020, a argymhellwyd i'r Cabinet ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 29.

30.

Gwasanaeth Rheoli Gwastraff pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Mewn cyfarfod blaenorol, gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth benodol gan y Swyddogion fel a ganlyn:

1.    Adroddiad yn amlinellu pa fanteision effeithlonrwydd a gafwyd o ail-ddylunio'r llwybrau ac a ydynt fel y rhagwelwyd neu a ydynt yn well na’r hyn a ddychmygwyd yn y ddogfen ailgynllunio.

      2. Mesur y costau tanwydd ychwanegol a briodolir i ailgynllunio'r llwybrau, ar ôl

      tynnu bant unrhyw gynnydd yn y costau tanwydd o ddydd i ddydd.

      3. Mesur unrhyw gostau traul ychwanegol i'r cerbydau casglu o ganlyniad i

      ailgynllunio’r llwybrau.

      4. Mesur unrhyw gostau llafur ychwanegol o ran goramser ac ati, sy'n uniongyrchol o ganlyniad i ailgynllunio’r llwybrau

 5.Darparu data cymharol o gyfraddau’r casgliadau wythnosol a gollwyd dros y tair blynedd diwethaf.

     6. Darparu adroddiad diweddaru ynghylch y cyfeiriad y bydd yr adran yn ei ddilyn  wrth adnewyddu'r fflyd gasglu, gan gadw mewn cof eu heffaith ar yr amgylchedd a dyhead y Cyngor i fod yn Gyngor di-garbon.

     7. Darparu adroddiad byr o ran ble rydym arni o ran yr orsaf drosglwyddo

         Gwastraff arfaethedig ym Mhenrhos.

8. Darparu data cymharol ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf o ran yr achosion o dipio anghyfreithlon a gofnodwyd.

     9. Darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd a wneir / tunelli a adawyd yn ein safleoedd Amwynder Dinesig dros y flwyddyn ddiwethaf.

     10. Rhoi amcangyfrif o ba bryd y bydd y gwasanaeth gwastraff gardd yn debygol o gael ei ailgyflwyno.

 

Cyflwynodd Gerwyn Jones yr adroddiad gan esbonio fod cwestiynau 1-4 uchod yn ymwneud â'r gwasanaeth newydd casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd. Ni fu modd adolygu'r gwasanaeth oherwydd y ffyrdd newydd o weithio mewn ymateb i bandemig COVID-19. Roedd Beverley Hodgett hefyd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau.

 

Esboniodd Gerwyn Jones fod yr adroddiad yn cynnwys rhywfaint o ddata am

berfformiad a chyfyngiadau'r gwasanaeth.  Rhoddwyd diweddariad i’r Pwyllgor ar ffurf cyflwyniad Pwerbwynt a oedd yn cynnwys amcanion y gwasanaeth, perfformiad y gwasanaeth ar sail yr amcanion, newidiadau diweddar, y gwasanaeth casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd a’i berfformiad, effaith Covid-19, gofal cwsmeriaid, Safleoedd Gwastraff Cartrefi, biniau a fethwyd, achosion o dipio anghyfreithlon, Strategaeth.  

 

Rhoddwyd cyfle i'r Aelodau ofyn cwestiynau a atebwyd yn eu tro gan y Swyddogion. Dyma’r prif bwyntiau a gododd o'r drafodaeth:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Swyddogion na all y cyhoedd fynd â bagiau ailgylchu i Safleoedd Gwastraff Cartrefi oni bai eu bod wedi didoli ei gynnwys yn barod i'w osod yn y sgipiau perthnasol;

·         Gofynnodd yr Aelodau a yw'n bosibl i Wefan y Cyngor gael ei diweddaru'n rheolaidd drwy gydol y dydd, yn hytrach nag ar ddiwedd y diwrnod gwaith;

·         Canmolodd yr Aelodau'r gwasanaeth bagiau porffor.

 

Cytunodd yr Aelodau i nodi cynnwys yr adroddiad a gwnaethant ofyn am ddiweddariad arall maes o law. Diolchodd y Cadeirydd a'r Aelod Cabinet i'r Staff am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i barhau i ddarparu'r gwasanaeth hwn yn ystod y pandemig. 

 

 

31.

Meysydd Parcio Talu ac Arddangos pdf eicon PDF 535 KB

Cofnodion:

Bu i’r Aelodau ofyn am adroddiad gyda rhagor o wybodaeth ynghylch y cynigion a gyflwynwyd i'r Pwyllgor hwn ar 10 Hydref 2019.  Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, argymhellodd y Pwyllgor y canlynol i’r Cabinet:

·         Cynnal rhagor o waith ar y cynigion a awgrymwyd o ran y meysydd parcio talu ac arddangos;

·         Dilyn y prosesau ymgynghori gofynnol mewn perthynas â’r cynnig ar gyfer Maes Parcio Pendre.

 

Cyflwynodd Gerwyn Jones y sefyllfa bresennol i Aelodau’r Pwyllgor a hynny ar ffurf

cyflwyniad Pwerbwynt gan ddweud fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar allu'r Gwasanaeth i ddatblygu prosiectau a gweithio y tu hwnt i gynnal gwasanaethau rheng flaen.

 

Mae tîm y Gwasanaethau Parcio wedi bod yn ymwneud llawer ag ymateb corfforaethol y Cyngor i'r pandemig, sydd wedi gweld staff yn cael eu hadleoli i rolau yn y Tîm

Profi, Olrhain a Diogelu, y tîm Diogelu'r Cyhoedd a hefyd yn cefnogi gweithgareddau megis dosbarthu bocsys bwyd i unigolion bregus.

 

Wrth i sefyllfa’r pandemig esblygu, mae’r ymateb hefyd wedi esblygu,  ac yn achos tîm y Gwasanaethau Parcio mae’r tîm bellach wedi ailddechrau ei gyfres lawn o weithgareddau sy'n ymwneud yn bennaf â monitro, cynghori a gorfodi gwaith sy'n gysylltiedig â chynllun Gorfodi Parcio Sifil y Cyngor a rheoli'r portffolio o feysydd parcio talu ac arddangos.

 

Penodwyd Rheolwr newydd ar y Gwasanaethau Parcio, Nicola Parry, ac mae wedi bod yn ei swydd ers mis Gorffennaf 2021. Roedd y rôl wedi bod yn wag am dros 12 mis cyn y dyddiad hwn oherwydd y pandemig ac ailstrwythuro'r Gwasanaethau Amgylcheddol. Yn ogystal â Rheolwr y Gwasanaethau Parcio, mae Tîm bach y Gwasanaethau Parcio ar hyn o bryd yn cynnwys 4 Swyddog Gwasanaethau Parcio ac 1 Arweinydd Gwaith y Gwasanaethau Parcio. Ar hyn o bryd mae 1 swydd wag ar gyfer Swyddog Gwasanaethau Parcio ac mae proses recriwtio yn mynd yn ei blaen mewn perthynas â hyn.

 

Mae aelodau’r Tîm Gwasanaethau Parcio bach yn cael eu lleoli ar sail blaenoriaeth

lle ystyrir y mae’r angen mwyaf a lle mae eu presenoldeb yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar faterion neu bryderon. Mae rhai materion a lleoliadau, megis yng nghyffiniau ysgolion ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol, a sefyllfaoedd, megis parcio ar y palmant, lle mae gallu’r tîm i ddylanwadu ar y rhain yn gyfyngedig.

 

Yna rhoddodd swyddogion wybod i'r Pwyllgor faint o docynnau a brynwyd  

a’r incwm o holl Feysydd Parcio Talu ac Arddangos yn nhrefi Ceredigion, fel y dangosir yn yr Adroddiad.  Mae'n amlwg y bydd pandemig COVID-19 wedi effeithio'n sylweddol ar y blynyddoedd 2020/21 a 2021/22 o ran defnydd a’r incwm a gynhyrchwyd drwy'r peiriannau.

 

      Yna cyfeiriodd y swyddogion at wybodaeth mewn perthynas â’r tocynnau tymor a ddefnyddir ym Meysydd Parcio Talu ac Arddangos Ceredigion.

 

       Mae wedi bod yn bosibl datblygu'r awgrym a wnaed gan y Pwyllgor ym mis

       Hydref 2019 o ran darparu mwy o beiriannau parcio sy’n derbyn cerdyn yn unig.

       Mae Meysydd Parcio Talu ac Arddangos y Cyngor wedi bod yn ddi-arian-parod ers

       1 Rhagfyr 2020. Mae'r newid, gan ystyried  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 31.

32.

Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr 2022 pdf eicon PDF 429 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Sarah Groves-Phillips yr adroddiad ar yr asesiad o anghenion llety

Sipsiwn a Theithwyr, a'r ddyletswydd i ddarparu ar gyfer safleoedd lle mae'r asesiad yn nodi angen, sydd wedi dod yn ofynion statudol o dan Adran 101 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

Diben Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr yw sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn cael gwell dealltwriaeth o faint o leiniau sydd eu hangen ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal, ac fe ddylai ffurfio sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer polisïau cynllunio lleol sy'n diwallu'r anghenion hynny.

 

Rhaid cynnal yr Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr o leiaf bob pum mlynedd, ac yn y cyd-destun hwn cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ‘Canllawiau Cynnal Asesiadau o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr’ (2015) i gynorthwyo Awdurdodau Lleol i lunio asesiad cadarn o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn eu hardal.

 

         Cyflwynodd Cyngor Sir Ceredigion Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr i Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2020, a derbyniodd adborth yn gofyn am waith pellach ar yr angen posibl am safle tramwy yn y sir. Fodd bynnag, yn dilyn y cyngor hwn, dechreuodd pandemig Covid-19 ac roedd hyn yn gwneud hi’n anodd iawn ymgysylltu. Felly, rhoddodd Llywodraeth Cymru estyniad tan fis Chwefror 2022 i bob Awdurdod Cynllunio Lleol gynnal eu Hasesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr, er mwyn caniatáu digon o ymgysylltu â'r gymuned Sipsiwn-Teithwyr. Paratowyd yr Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr mewn ymgynghoriad â'r Grŵp Llywio Sipsiwn-Teithwyr.

 

         Dywedodd y Swyddog fod yr adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau Asesiad

         o Lety Sipsiwn a Theithwyr 2022 a gynhaliwyd gan yr Awdurdod.

 

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw safleoedd Sipsiwn a Theithwyr gan yr awdurdod lleol, a dim ond un safle preifat awdurdodedig sydd yn y sir. Nid oes unrhyw ddarpariaeth barhaol chwaith ar gyfer siewmyn. Credir bod Teithwyr Newydd yn y sir ond nid oes gan y Cyngor unrhyw gofnod o’u lleoliad. Ers mis Mehefin 2016, mae ethnigrwydd wedi ei gynnwys ym mhroses ymgeisio’r gofrestr dai a chanfuwyd pedwar aelod o’r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr - tri sydd ddim yn byw yng Ngheredigion ar hyn o bryd ac un sy’n byw mewn llety brics a morter. Mae dau aelod arall o’r Gymuned Sipsiwn a Theithwyr mewn llety brics a morter ers nifer o flynyddoedd a hynny cyn bod modd canfod ethnigrwydd drwy broses ymgeisio’r gofrestr dai.

 

Yn ôl y disgwyl, bu’n eithriadol o anodd lleoli’r boblogaeth darged ar gyfer yr asesiad hwn. Ar sail y nifer bach iawn o holiaduron a ddychwelwyd a’r cyfweliadau/ymweliadau safle a gynhaliwyd ynghyd â’r trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, daw’r asesiad i’r casgliad nad oes angen safle preswyl parhaol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn y sir, ac ar ôl gwaith ymgysylltu pellach gyda pherchennog y tir a phreswylwyr y safle ym Mhlwmp, nid oes angen safle tramwy. Fodd bynnag, mae angen gwneud gwaith pellach gyda pherchennog y tir a’r preswylwyr i drefnu'n ffurfiol ar gyfer 'safle a oddefir' a ganiateir o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru yn ogystal ag ystyried gwelliannau posibl.

 

Ar ôl  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 32.

33.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 336 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2021 ac 8 Tachwedd 2021 yn gywir.

O ran cofnodion 1 Tachwedd 2021, cyfeiriodd y Cadeirydd at gofnod rhif 3, Adolygu’r Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol, paragraff 7, parthed Rhiwgoch, Aberaeron. Yr oedd wedi gofyn am i lythyron cyflwyno tir gael eu postio at y perchnogion tir.  Gofynnodd y Cadeirydd i’r Swyddog Craffu gysylltu â’r Swyddog i gael y diweddaraf. 

Nid oedd dim mater yn codi o gofnodion 8 Tachwedd 2021. 

 

34.

Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 342 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

              Cytunodd yr Aelodau i nodi cynnwys y Flaenraglen Waith fel y’i cyflwynwyd.

           Gofynnodd y Cadeirydd am i’r Gwasanaethau Democrataidd gyfleu'r neges ganlynol i'r Cabinet:

           Dylai aelodau'r Cabinet fod yn bresennol mewn cyfarfodydd Craffu i gyflwyno eitemau ar y cyd â Swyddogion a gwrando ar y trafodaethau pwysig.  Maent yn gwybod ymlaen llaw am ddyddiadau’r cyfarfodydd Craffu, yr un fath â'r Aelodau i gyd.  Caiff Aelodau'r Cabinet eu talu am eu dyletswyddau yr un fath â’r Cadeiryddion Craffu a dylid disgwyl eu bod yn mynychu cyfarfodydd Craffu.

          Roedd hyn ar ôl i nifer o Aelodau'r Pwyllgor fynegi eu siom nad oedd yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai a Chyswllt Cwsmeriaid yn bresennol i wrando ar y trafodaethau ac i ateb cwestiynau. Dylid nodi, fodd bynnag, fod yr Aelod Cabinet perthnasol wedi ymddiheuro ar ddechrau'r cyfarfod ac wedi gwneud trefniadau i'r Swyddogion perthnasol gyflwyno yn ei absenoldeb.

 

 

           Cadarnhawyd yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar xx xx 2022