Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau Ffyniannus - Dydd Llun, 1af Tachwedd, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Keith Evans am na fedrai ddod i’r cyfarfod gan ei fod yn cyflawni dyletswyddau eraill ar ran y Cyngor. Hefyd, ymddiheurodd y Cynghorydd Elizabeth Evans am na fedrai ddod i’r cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio).

 

3.

Adolygu'r Mapiau Rhwydwaith Teithio Lleso pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth Chris Wilson a Gari Jones i’r cyfarfod i roi gwybodaeth i’r Pwyllgor am y gwaith o baratoi Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol. Cafodd y Pwyllgor wybodaeth am rwydwaith cynyddol yr Awdurdod Priffyrdd Lleol o lwybrau a seilwaith Teithio Llesol a fyddai’n dod o dan y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (HAMP). Dywedwyd ei bod yn debygol y byddai gan hyn oblygiadau o ran sicrhau adnoddau ychwanegol ar gyfer gwaith cynnal a chadw parhaus.

 

Byddai’r Aelodau'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru, o dan ddarpariaethau'r Ddeddf, wedi pennu tair ardal yng Ngheredigion fel 'Ardaloedd Dynodedig' ar gyfer teithio llesol sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

 

Roedd y gwaith o fonitro’r cynllun teithio llesol yn cael ei adrodd i Lywodraeth Cymru yn flynyddol ac yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor Sir.

Dywedodd y Swyddogion wrth y Pwyllgor fod y gwaith o ddatblygu ac adeiladu'r rhan fwyaf o gynlluniau seilwaith teithio llesol yng Ngheredigion yn cael ei ariannu bron yn gyfan gwbl gan geisiadau am grantiau cyfalaf Llywodraeth Cymru. Roedd yr arian yn dod yn bennaf o’r Gronfa Teithio Llesol ac i raddau llai, o’r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Dywedodd y Swyddogion mai un o amodau arian grant Llywodraeth Cymru oedd bod yn rhaid i gynlluniau gael eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â Chanllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Wrth ymateb i gwestiwn gan un o’r Aelodau, cadarnhaodd y Swyddogion nad oedd Llywodraeth Cymru yn clustnodi cymorth cyllid refeniw ar gyfer cynnal a chadw seilwaith newydd ac mai un o amodau derbyn yr arian grant cyfalaf oedd y byddai’r Cyngor Sir yn dod yn gyfrifol am unrhyw gostau cynnal a chadw yn y dyfodol. Dywedwyd y byddai goblygiadau amlwg felly ar gyllidebau’r gwasanaethau.

 

Roedd llwybrau newydd at ddibenion hamdden yn bennaf a llwybrau y tu allan i'r tair ardal ddynodedig a'r dalgylch teithio llesol, yn debygol o fod yn aflwyddiannus ac ni fyddent yn denu cyllid. Mynegodd Aelodau’r Pwyllgor bryder ynglŷn â hyn am fod nifer o bentrefi a threfi gwledig yng Ngheredigion.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd y Swyddogion fod perchnogion tir yn chwarae rhan fawr yn y broses a dywedwyd os na fyddent yn rhoi eu caniatâd, ni fyddai modd i’r Cynllun Teithio Llesol fynd yn ei flaen. Felly, roedd eu cydweithrediad yn hanfodol.

 

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ynglŷn â’r hyn a oedd o ddiddordeb iddynt ac atebwyd y cwestiynau hynny gan y Swyddogion. Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd postio llythyron cyflwyno tir i berchnogion tir cynllun Rhiwgoch, Aberaeron unwaith eto. Dywedodd un o’r swyddogion y byddai modd gwneud hynny. Hefyd, gofynnodd y Cadeirydd fod hyn yn cael ei nodi yn y cofnodion.

Yn dilyn cais gan Aelod o’r Pwyllgor, rhoddwyd sicrwydd y byddai’r swyddogion yn cysylltu â swyddogion Sir Gaerfyrddin i ofyn a oedd ganddynt unrhyw fwriad o wella’r A484/B4333 rhwng Castellnewydd Emlyn a Chaerfyrddin.

 

Yn dilyn trafodaeth hir, gofynnwyd i’r Aelodau ystyried yr argymhelliad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cynllun Gweithredu Sero-Net - Y Diweddaraf am y Cynnydd pdf eicon PDF 589 KB

Cofnodion:

Daeth y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet, i’r cyfarfod i roi’r diweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran y camau gweithredu a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu Sero Net. Roedd Bethan Lloyd Davies a Lyndon Griffiths yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau.

Gwelwyd gostyngiadau mewn allyriadau ym mhob maes gwasanaeth yn ystod 2020/21, o gymharu â'r blynyddoedd ariannol blaenorol. Roedd hyn yn cyfateb i ostyngiad cronnol o 28.77% yn erbyn targed o 15% rhwng 2017/18 a 2020/21.

Dywedwyd bod y gostyngiad mwyaf nodedig yn ymwneud â milltiroedd busnes (teithio a wnaed gan staff yn eu cerbydau eu hunain), sef gostyngiad o 71.96% o gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol. Gwariodd yr Awdurdod £1,322,919 yn llai ar ynni yn 2020/21 nag a wnaeth yn 2019/2020.

Adroddwyd bod yr Awdurdod wedi derbyn dau grant, a fyddai’n cael eu defnyddio i ystyried y posibilrwydd o gynyddu’r seilwaith ar gyfer gwefru cerbydau trydan yn y sir.

 

Roedd  Cyngor Sir Ceredigion eisoes yn caffael trydan ‘gwyrdd’ drwy’r contract trydan corfforaethol. Roedd lle pellach i edrych ar gaffael nwy 'gwyrdd', yn ogystal â thanwyddau hylifol (e.e. LPG neu fiodiesel). Er nad oedd llawer o fudd o ran y ffigurau cyfrifyddu carbon, gellid ei ystyried yn arfer orau i sicrhau bod y cyfleustodau rydym yn eu defnyddio yn dod o ffynonellau cynaliadwy 'gwyrdd'.

 

Roedd adolygiad asedau tir a gynhaliwyd gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi ystyried amrywiol safleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy. Roedd y rhain yn bennaf yn destun cyfyngiadau sylweddol o ran y grid. Fodd bynnag, tynnodd hyn sylw at y ffaith y byddai angen sicrhau bod y gosodiadau adnewyddadwy o faint digonol a bod y lleoliadau'n cael eu dewis yn ddibynnol ar eu gallu i ddefnyddio'r ynni a gynhyrchir ar y safle.

 

Roedd maes parcio Canolfan Rheidol wedi'i nodi fel lleoliad posib ar gyfer canopïau solar ac roedd hyn yn cael ei archwilio ar hyn o bryd. 

Roedd ynni adnewyddadwy hefyd yn cael ei gyflwyno fel mater o drefn fel rhan o waith adnewyddu adeiladau a hefyd rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Fel rhan o’r rhaglen, wrth ystyried adeiladu ysgolion newydd, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio tuag at ddatgarboneiddio ac adeiladau sero-net. Roedd gan yr estyniad newydd yn Ysgol Llwyn yr Eos y potensial i ddod yn adeilad sero-net cyntaf y Cyngor. Gosodwyd gwresogi o’r ddaear a phaneli solar fel rhan o'r cynllun a'r gobaith oedd y byddai hyn yn gosod meincnod ar gyfer gwaith adeiladu a fyddai’n cael ei wneud gan yr awdurdod yn y dyfodol.

Dywedodd y swyddogion eu bod wrthi ar hyn o bryd yn cyfrifo’r ôl-troed carbon yn ei gyfanrwydd a byddai’r wybodaeth honno ar gael pan fyddent yn rhoi’r diweddariad nesaf.

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ac atebwyd y cwestiynau hynny yn eu tro gan yr Aelod Cabinet a’r Swyddogion.

Cytunodd Aelodau’r Pwyllgor nodi’r cynnydd a wnaed o ran y camau a amlinellir yn y Cynllun  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad ar sefyllfa bresennol y rhaglen
Gwaith Trin Carthffosiaeth pdf eicon PDF 358 KB

Cofnodion:

Daeth y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet, i’r cyfarfod i roi gwybodaeth am sefyllfa bresennol y Rhaglen Gwaith Trin Carthffosiaeth fel y nodir yn yr adroddiad. 

Roedd Lyndon Griffiths, Cari Barker ac Andrew Ginn hefyd yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau oddi wrth yr Aelodau.

Dywedwyd bod tri gwaith trin carthffosiaeth wedi cael eu mabwysiadu gan Ddŵr Cymru hyd yn hyn sef Tan y Groes, Betws Bledrws a Blaencelyn, a bod pedwar cais wedi’u cyflwyno parthed gwaith trin carthffosiaeth ond bod y Cyngor yn aros am ymateb iddynt sef Olmarch, Pontrhydygroes, Abermagwr a Bronant.  Roedd wyth cais arall yn barod i’w cyflwyno yn y dyfodol sef  Capel Dewi, Coed y Bryn, Cwmcou, Llandyfriog, Sarnau, Swyddffynnon, Ysbyty Ystwyth a Brynhoffnant. Roedd gan chwe safle arall faterion oedd angen eu datrys sef Blaenannerch (materion hawddfraint), Blaenporth (cysylltiad anghyfreithlon), Lledrod (mater ynglŷn â’r tirBarcud), Llwynygroes 1 (cadarnhad ynghylch yr angen am dir), Rhydowen (mater ynglŷn â’r tir) a Glan Ifor, Glanrhyd. O ran Glan Ifor, byddai angen dylunio gorsaf bwmpio bwrpasol.  Bwriedir gwneud y gwaith drwy gontract dylunio ac adeiladu. Roedd y gwaith dylunio i ddiweddaru safle Bro Tygwydd, Llandygwydd wedi’i wneud ac roedd y cynllun wedi’i dendro. Byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd gyda’r trigolion yr effeithir arnynt. Hefyd, dywedodd y Swyddog nad oedd y gwaith o ran Tregroes (caffael tir), Llangwyryfon (mater mynediad), Cilcennin (caffael tir), Llwynygroes 2 a Phentregat (methu canfod cwrs dŵr addas) wedi’i gwblhau.

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau a oedd yn ymwneud â’r ardaloedd dan sylw. Codwyd pryder ynghylch y ffaith bod rhai trigolion yn gorfod talu Trethi Busnes sy’n swm llawer yn uwch. Cytunodd yr Aelodau fod angen i’r mater hwn gael ei ddatrys ar fyrder. Cytunodd y Swyddogion â hyn a gwnaethant gadarnhau bod gwaith ar y gweill o ran yr achosion hyn a’u bod yn cyfathrebu’n barhaus â Dŵr Cymru.

Diolchodd y Cynghorydd Rhodri Evans i’r Swyddogion am y gwaith caled a wnaed ym mhob ymgais i ddatrys y materion hyn.

Hefyd, diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion a’r Aelod Cabinet am y wybodaeth a gyflwynwyd.

Gofynnwyd i’r Aelodau nodi cynnwys yr adroddiad.

 

6.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 300 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2021 yn rhai cywir. Nid oedd dim materion yn codi ohonynt.

 

7.

Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 343 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i nodi’r Flaenraglen fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar wahodd Swyddog o Dŵr Cymru i un o gyfarfodydd y dyfodol. 

Nodwyd y byddai eitem ynglŷn â Chasglu Sbwriel yn cael ei hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 20 Ionawr 2022.  Gofynnodd Lisa Evans i’r Aelodau i gysylltu â hi pe byddai ganddynt unrhyw faterion penodol y byddent yn dymuno eu trafod yn y cyfarfod hwnnw.

Cytunwyd i gynnwys Llifogydd / Afonydd fel eitem i’w hystyried yn un o gyfarfodydd y dyfodol. Serch hynny, ni phennwyd dyddiad ar gyfer yr eitem hon.