Agenda a Chofnodion

Lleoliad: ZOOM

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorwyr Lyndon Lloyd MBE a Rhodri Davies am nad oedd modd iddynt fod yn bresennol yn y cyfarfod.

 

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Dim.

3.

Cyflawni Sero-Net erbyn 2030 – Cynllun Gweithredu pdf eicon PDF 174 KB

(Cynllun Gweithredu Cymraeg i ddilyn)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Rhoddwyd ystyriaeth i’r Adroddiad a’r Cynllun Gweithredu ar Gyflawni    Sero-   Net. Rhoddodd y Rheolwr Perfformiad: Lleihau Carbon a Rheoli Ynni ac Asedau gyflwyniad Pwerbwynt i’r Aelodau. Adroddwyd bod Cyngor Sir Ceredigion, mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar 20 Mehefin 2019, wedi cytuno i:

·         Ymrwymo i wneud Ceredigion yn Awdurdod Lleol carbon sero-net erbyn 2030

·         Datblygu cynllun clir ar gyfer llwybr tuag at fod yn garbon sero-net o fewn 12 mis

·         Galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i roi'r gefnogaeth a'r adnoddau angenrheidiol i alluogi gostyngiadau effeithiol o ran carbon

 

Yn ychwanegol at hyn, ar 5 Mawrth 2020, cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion argyfwng hinsawdd byd-eang, gan ymrwymo i ateb yr her fwyaf sylweddol sy'n wynebu ein sir a'n planed.

 

Nodwyd bod y ddogfen yn nodi sut mae’r Cyngor Sir yn bwriadu ymateb i argyfwng yr hinsawdd.  Mae'n egluro pam fod angen y Cynllun Gweithredu Carbon Sero-Net hwn arnom a pham fod targed 2030 mor bwysig i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae'r Cynllun Gweithredu yn asesu allyriadau carbon gweithredol Ceredigion ar hyn o bryd ac yn amlinellu'r heriau sy'n gysylltiedig â tharged uchelgeisiol 2030.                  

          

           Dyma Ffocws y cynllun gweithredu sero-net:

 

            Mae'r ffocws ar hyn o bryd ar y defnydd o ynni ac allyriadau (allyriadau Cwmpas 1 a 2) gan fod y rhain yn cael eu cofnodi a'u cyfrif bob blwyddyn fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r Cynllun Rheoli Carbon.  Mae angen cyfrifo a deall ôl troed carbon yr Awdurdod Lleol yn ei gyfanrwydd (gan gynnwys allyriadau Cwmpas 3), a gwneir hyn unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu methodoleg adrodd nhw, sydd wedi cael ei gohirio oherwydd COVID.  Mae'n debygol y bydd ffynonellau’r allyriadau hefyd yn cynnwys:

 

(1)     Symudedd a Thrafnidiaeth;

                     (2)     Caffael;

                     (3)     Defnydd Tir;

                     (4)     Adeiladau.

 

          Mae'r Cynllun hwn wedi'i lunio yn seiliedig ar y cynnig a arweiniwyd gan Aelodau ac a gyflwynwyd ym mis Mehefin 2019. Dylid ystyried y cynnwys ar sail a yw'n cyfleu'r weledigaeth a ddymunir wrth symud ymlaen.

 

Y Camau Nesaf a Ragwelir:-

         Tymor byr (3 - 12 mis nesaf)

      Cynllun Gweithredu Sero-Net i'r Cabinet/Cyngor

      Integreiddio'r cynllun Gweithredu Sero-Net i’r Blaenoriaethau Corfforaethol, er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro a'i adrodd.

      Gwaith pellach i yrru cynlluniau a nodwyd eisoes yn eu blaenau, a fydd yn cyfrannu at gyflawni gostyngiadau mewn allyriadau.                 

      Parhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru a gweithredwyr Rhwydwaith Ardal ynghylch materion capasiti grid yn y sir.           

 

       Tymor canolig (18 mis - 2 flynedd nesaf)

• Ar ôl rhyddhau methodoleg adrodd Llywodraeth Cymru, mae angen cynnal ymarfer sylfaenol llawn, er mwyn ehangu’r gwaith o fonitro allyriadau i gynnwys hefyd allyriadau o:

§  Symudedd a Thrafnidiaeth;

§  Caffael;

§  Defnydd Tir;

§  Adeiladau.

 

O ganlyniad, bydd llawer o gamau eraill yn dod i'r amlwg dros amser, y bydd angen eu nodi a'u gyrru yn eu blaenau ymhellach. 

      Unwaith y bydd gan y Cyngor ôl troed carbon sylfaenol cyflawn, byddwn yn gallu edrych yn fwy penodol ar brosiectau a chynlluniau a fydd yn cyfrannu at  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 507 KB

Cofnodion:

 

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2021 yn gywir.            

Cofnod 4 - Clefyd coed ynn – Gofynnir i’r Swyddogion am y diweddaraf ynglŷn â chostau’r cynllun hwn.         

 

5.

Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 344 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD i nodi cynnwys Blaenraglen Waith 2021/22 fel y’i cyflwynwyd ynghyd â’r ychwanegiadau canlynol ar gyfer y cyfarfodydd sydd i ddod:

Clefyd coed ynn - diweddariad

Cyflawni Sero-Net erbyn 2030 - bob chwe mis

Casglu sbwriel