Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron.

Cyswllt: Lisa Evans 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ymddiheurodd y Cynghorydd Sian Maehrlein am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

2.

Datgelu buddiant personol (gan gynnwys datganiadau chwipio) Atgoffir aelodau am eu cyfrifoldeb personol yn datgan unrhyw fudd personol a budd sydd yn rhagfarnu yn gysylltiedig â materion a gynhwysir yn yr agenda hwn yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2000, Cyfansoddiad y Cyngor a Chod Ymddygiad Aelodau. Yn ogystal, mae’n rhaid i Aelodau ddatgan unrhyw chwip plaid gwaharddedig a roddwyd ar Aelod yng nghyswllt y cyfarfod yn ôl Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Cofnodion:

Ni ddatgelodd yr un Aelod o’r Pwyllgor fuddiant personol na buddiant a oedd yn rhagfarnu (nac ychwaith unrhyw ddatganiadau chwipio).

3.

Cynnydd o ran cyflawni'r Strategaeth Economaidd pdf eicon PDF 134 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Clive Davies, yr Aelod Cabinet, wybodaeth am y cefndir, y camau gweithredu a oedd wedi’u rhoi ar waith yn y Strategaeth a’r meysydd ffocws ar gyfer y dyfodol fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad gan gynnwys yr heriau o ran y 4 maes ymyrraeth (Pobl, Lleoedd, Menter a Chysylltedd) yn y Strategaeth Economaidd. Dywedwyd bod y data ynghylch cysylltedd yn y sir wedi gwella ers i'r adroddiad gael ei ysgrifennu.

 

 

 

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau am faterion a oedd o ddiddordeb iddynt. Atebwyd y cwestiynau hyn gan y Cynghorydd Clive Davies and Arwyn Davies. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn:

·       Codwyd pryderon ynghylch a fyddai’r cyllid cyfalaf i ardaloedd gwledig ar ffurf grantiau oddi wrth Lywodraeth Cymru yn parhau ar yr un lefel â’r blynyddoedd diwethaf o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi lansio Cronfa Arloesi Arfor yn ddiweddar ond nid oedd y cyllid wedi’i ryddhau eto. Cydnabuwyd llwyddiant Cynghorau Ceredigion a Phowys o ran sicrhau Cytundeb y Fargen Lawn ar gyfer rhaglen buddsoddi cyfalaf a fyddai gwerth £110m.

·       Roedd gwaith yn parhau yn Llanbedr Pont Steffan a Llandysul i ailddefnyddio asedau canol tref at ddibenion economaidd a gwella’r seilwaith gwyrdd.

·       Ystyriwyd bod y prosiect a oedd yn caniatáu i gwmnïau sefydlu mentrau dros dro mewn siopau gwag yn bwysig i fusnesau annibynnol newydd. Y gobaith oedd y byddai’r prosiect hwn yn cael ei ehangu y tu hwnt i Aberystwyth.

·       Roedd angen gwneud gwaith i ddatblygu canol y trefi, yn enwedig  canol tref Aberystwyth, yn fannau aml-bwrpas. Dylid ystyried cyflwyno eithriadau o ran talu ardrethi annomestig fel ffordd o ddenu busnesau i ganol y trefi.

·       Roedd yr adran yn gweithio’n galed wrth ymgeisio am grantiau gan wneud hynny weithiau o fewn amserlenni byr iawn. Roedd yn allweddol bwysig sicrhau bod unrhyw gyllid grant yn berthnasol i’r Strategaeth Economaidd.

·       Dywedwyd bod rhaglen Helix Canolfan Bwyd Cymru ar hyn o bryd ar ail flwyddyn contract 3 blynedd gyda Llywodraeth Cymru. Roedd y Ganolfan yn un o dair canolfan yng Nghymru. Awgrymwyd cynnal diwrnod agored i’r cyhoedd a busnesau.

·       Yn dilyn pryderon ynghylch cysylltedd yn y sir, nodwyd bod gan 88% o eiddo/adeiladau fand eang â chyflymder o fwy na 30Mb ond roedd y sir yn parhau i fod ar ei hôl hi o gymharu ag ardaloedd eraill yng Nghymru. Roedd Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiadau marchnad agored er mwyn deall y sefyllfa bresennol felly roedd y broses o gyflwyno cysylltiad ffeibr i’r adeilad wedi arafu ychydig. Roedd croeso i’r Aelodau gysylltu â’r Aelod Cabinet neu swyddogion os oedd ganddynt unrhyw gwestiynau.

·       Adeg y cyfarfod, roedd swydd y Swyddog Datblygu Trefi yn wag.

·       Wrth ymateb i awgrymiadau y gellid gosod finyl ar ffenestri siopau gwag, dywedwyd bod cyfleoedd o dan y Rhaglen Trawsnewid Trefi  i ymgeisio am grantiau i wella adeiladau. Anogwyd yr Aelodau a oedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Gwywiad Coed Ynn - Diweddariad er gwybodaeth pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Keith Henson, yr Aelod Cabinet, at ddiben yr adroddiad, y rheswm yr oedd y Pwyllgor Craffu wedi gofyn am y wybodaeth a'r cefndir a oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad. Roedd yn bwysig ystyried y diffyg adnoddau a deall y gost ychwanegol a’r holl waith fyddai angen ei wneud i sicrhau diogelwch y dinasyddion.

 

Esboniodd Phil Jones fod y swyddogion wedi ymchwilio i weld a fyddai modd gwneud y gwaith hwn yn fewnol a defnyddio’r sgil-gynnyrch i fwydo biomas yr Awdurdod. Cyfeiriwyd at y tri atodiad a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd bod Gwywiad Coed Ynn yn fater corfforaethol. Roedd y Cyngor yn delio â’r mater drwy flaenoriaethu ar sail risg.  Ers dechrau archwilio asedau’r Cyngor ar sail blaenoriaeth, daethpwyd i’r casgliad nad oedd maint y broblem ar y tir yr oedd y cyngor berchen arno gynddrwg â’r hyn a ragwelwyd yn y lle cyntaf.

 

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau am faterion a oedd o ddiddordeb iddynt. Atebwyd y cwestiynau hyn gan Phil Jones, Norman Birch a Rhodri Llwyd. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn:

·       Yn y lle cyntaf, bwriad rhaglen y prosiect oedd gwneud y gwaith dros gyfnod o 10 mlynedd gan wneud rhan fwyaf y gwaith rhwng y drydedd a’r chweched flwyddyn. Yn ddibynnol ar y gyllideb a’r contractwyr a fyddai ar gael, y gobaith oedd y byddai modd cwblhau’r gwaith yn gynharach ond byddai’r gwaith o ddelio â’r clefyd a drosglwyddir drwy’r awyr yn parhau.

·       Roedd rhan fwyaf y coed wrth ymyl y priffyrdd a’r hawliau tramwy cyhoeddus ym mherchnogaeth perchnogion y tir. Nhw felly oedd yn gyfrifol am archwilio’r coed. Wrth gynnal archwiliadau, os byddai swyddog yn ystyried bod coeden ar dir, nad oedd yr awdurdod yn berchen arno, yn anniogel, byddai Hysbysiad Adran 154, Deddf y Priffyrdd yn cael ei roi i’r perchennog tir. Yn sgil hynny, byddai angen i’r perchennog tir hurio contractwyr o fewn 14 diwrnod. Byddai modd i’r Awdurdod gynorthwyo â’r broses honno, pe byddai angen.

·       O ran blaenoriaeth, roedd y coed yn cael eu rhoi mewn 4 dosbarth yn ddibynnol ar y graddau yr oeddent wedi dirywio. Byddai hysbysiadau i berchnogion coed yn nosbarth 4 yn cael eu blaenoriaethu. Byddai rhai coed yn Nosbarth 1 a 2 yn gwrthsefyll y clefyd ac yn goroesi. Roedd hyn yn bwysig o ran cadw coed cynhenid.

·       Pe byddai gorchymyn cadw coed ar waith, byddai angen cyflwyno hysbysiad ynghylch gwneud cais am gwympo coeden.

·       Codwyd pryderon nad oedd dim ymgynghori wedi bod â’r sector amaethyddol yng Ngheredigion o ran cynorthwyo â’r gwaith o dorri coed mewn cyfnewid am y naddion pren. Gofynnwyd cwestiynau ynghylch arbedion maint gan fod y gofynion o ran cwympo coed unigol yn wahanol iawn i’r gofynion o ran cyflawni’r gwaith yng nghyswllt coedwig.

·       Teimlai’r Aelodau na fyddai'n gwneud synnwyr busnes cyflawni’r gwaith yn fewnol er y byddai hynny’n golygu yn yr hirdymor y byddai’r cyfarpar ym meddiant yr awdurdod.

·       Er mwyn sicrhau bod gan bawb y cyfle i dendro am y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cynllun Gweithredu Sero Net - diweddariad ar y cynnydd pdf eicon PDF 190 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, yr Aelod Cabinet, mai diben yr adroddiad oedd rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed o ran y camau a oedd wedi’u nodi yn y Cynllun Gweithredu Sero Net. Cyfeiriwyd at y cefndir fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Esboniodd Bethan Lloyd Davies fod adroddiadau yn cael eu paratoi fel rhan o’r Cynllun Rheoli Carbon ers 2017/18. Yn 2021/22, roedd ffynonellau ychwanegol ar gyfer allyriadau wedi cael eu hychwanegu ac felly roedd angen gwneud llawer o waith cyn adrodd ar yr allyriadau yn y dyfodol.

 

Rhoddwyd y cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau. Atebwyd y cwestiynau hyn gan Bethan Lloyd Davies a Rhodri Llwyd. Roedd y prif bwyntiau a godwyd fel a ganlyn:

·       Cododd yr Aelodau bryderon nad oedd gan y grid ddigon o gapasiti  i wasanaethu’r sir a chefnogi ymrwymiad yr Awdurdod i fod yn Sero Net erbyn 2030. Dywedwyd bod y mater hwn yn cael ei godi’n aml mewn cyfarfodydd a bod awdurdodau cyfagos yn ei godi hefyd. Roedd National Grid a Scottish Power yn eistedd ar fyrddau a oedd yn llunio cynlluniau ynni lleol. Serch hynny, prin oedd eu cyllidebau a byddent yn buddsoddi yn y mannau lle ystyrir bod angen gwneud hynny.

·       Er bod gweithwyr yn teithio llai i’r gwaith am eu bod yn gweithio gartref, codwyd pryderon y byddai angen gwresogi mwy o gartrefi yn ystod y dydd yn nhymor y gaeaf. Dywedwyd bod yr allyriadau o weithio gartref yn cael eu hystyried yn Adroddiadau Allyriadau Llywodraeth Cymru.

·       Roedd y trydan a oedd yn dod o’r paneli solar a osodwyd ar adeiladau’r Cyngor yn cael ei ddefnyddio gan yr adeiladau yn y lle cyntaf ac roedd gweddill y trydan yn cael ei anfon i’r grid. Os oedd yna daliad Tariff Cyflenwi Trydan ynghlwm, roedd y taliadau’n cael eu gwneud yn ganolog i’r awdurdod. Yn gyffredinol, roedd yn cymryd 10 mlynedd i adennill yr arian a fuddsoddwyd ynddo.

·       Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad rheoli tir ynghylch Canolfan Rheidol ac Ysgol Bro Teifi; nid oedd y canfyddiadau wedi dod i law hyd yma. Byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi maes o law i fatris er mwyn storio’r ynni a oedd dros ben.

·       Nodwyd bod y bwriad o ddod yn Sero Net erbyn 2030 yn uchelgeisiol o ystyried y sefyllfa ariannol. Ar hyn o bryd, ni fyddai Llywodraeth Cymru yn cosbi’r awdurdod am beidio â chyrraedd Sero Net erbyn 2030, ond dyma oedd yr amcan yn genedlaethol ar gyfer cyrff yn y sector cyhoeddus.

·       O ran fflyd yr awdurdod, byddai’r posibilrwydd o drosi’r cerbydau i rai a oedd yn defnyddio Olew Llysiau wedi’i drin â dŵr (HVO), a oedd yn ddrutach, yn cael ei archwilio ynghyd â hydrogen. Nodwyd bod HVO 20% yn well na disel ar y cyfan ond fel yr oedd pethau, o ddefnyddio methodoleg Llywodraeth Cymru, byddai hyn yn arwain at welliant bach yn y ffigurau yn unig.

·       Dywedwyd y byddai plannu coed yn cael ei ystyried yn yr hirdymor i wrthbwyso carbon ac am bob coeden a fyddai’n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod blaenorol ac ystyried unrhyw faterion sy'n codi o'r Cofnodion pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022 yn gywir.

 

Materion yn codi:

·       Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans ei fod yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022 a gofynnodd am ychwanegu ei enw  at fersiwn Gymraeg y cofnodion.

·       Esboniodd y Cadeirydd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi anfon llythyr yn ôl yn dilyn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022; roedd copi o’r llythyr wedi’i anfon at aelodau’r pwyllgor cyn y cyfarfod heddiw.

7.

Ystyried Rhaglen Flaen Trosolwg a Chraffu pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cytunwyd nodi cynnwys y Flaen raglen Waith a gyflwynwyd, yn ddibynnol ar gynnwys y canlynol:

·       Cyfarfod dilynol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ynglŷn â’r ffosffadau

·       Adroddiad am yr angen i nodi mannau y gellid eu hail-agor megis rheilffyrdd nad ydynt yn cael eu defnyddio

·       Diweddariad am gynnydd – Gwaith Rheoli Datblygu a Gorfodi (yn dilyn cyfarfodydd y gyllideb)