13 Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 1022 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cadeirydd
presennol Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar ran Ceredig
Davies, Cadeirydd y Pwyllgor am y 5 mlynedd blaenorol. Nododd ei bod wedi
siarad â Ceredig Davies a’i fod wedi mynegi ei ddiolch i Dîm y Gwasanaethau
Democrataidd am eu cefnogaeth.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Elizabeth Evans at waith y
pwyllgor, a thynnodd sylw at y cylch gorchwyl, gan ofyn i Aelodau gyflwyno
unrhyw eitemau y dymunant eu trafod i’r Pwyllgor eu hystyried.
Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Cyngor.